Hanes Fyr o Dremadog
Cyflwyniad Sefydlwyd Tremadog, sydd yn engrhaifft hardd arbennig o Dref Gyniluniedig, gan William Alexander Madocks a brynodd y tir ym 1298. Yr adeg hynny morth bell oedd y tir gwastad o amgylch yr afon Glaslyn gyda ychydig o ynysoedd coediog eu copaon arno. Yr oedd Madocks, Aelod Seneddol Boston yn swydd Lincoln, yn yn dra ymwybodol o bosibiliadau sychu corstir ac aeth ati i adeiladu morglawdd I wahanu’r tir oddiwrth y môr. Enillwyd y safle lle saif Tremadog yn nawr gan ei forglawdd cyntaf a adeiladwyd ym 1800. Erbyn 1805, adeiladwyd y bythynod cyntaf ar gyfer y gweithwvr yn y "Pentre Gwaelod" fel galwyd ef (Rhif 1-9 Heol Dulyn oedd y rhai hyn mae ‘n debyg.) O fewn y flwyddyn newidiodd enw’r pentref i Tré Madoc. Asiant Madocks trwy gydol y prosiect oedd John Williams gyda’r hwn y llythyrai’ n gyson pan i ffwrdd ar ei ddyletswyddau seneddol. Goroesodd y llythyrau hyn ac ynddynt canfyddwn hanes bywiog y datblygiad.
Madocks a’i Weledigaeth Hannai teulu Madocks yn wreiddiol o Sir Ddinbych er ei fod wedi ei fagu yn Llundain. Fel y mab ieuengaf, nid Oedd yn gyfoethog ond meddai ar weledigaeth fawr. Ei uchelgais oedd agor allan y rhan yma o Gyrnru a‘i gyfoethogi trwy wella cysylltiadau. Golygai’r uno gyda ‘r Iwerddon ym 1800 fod trafnidiaeth trwy’r ardai yn debygol. Hyrwyddodd adeiladu Ffordd lyrpeg; er mwyn Osgoi croesi’r Traeth Mawr peryglus (aberoedd y Ddwyryd a’r Glaslyn) neu’r ffordd osgoi hir tros bont Aberglaslyn, dyfeisiodd gynllun uchelgeisiol i adeiladu morglawdd tros aber y Glaslyn. Byddai hwn yn rhan o’r cyswllt rheilffordd trwy ganolbarth Cymru i Borthdinllaen (eiddo’r YG erbyn hyn) yn Llyn, a fyddai, gobeithiai Madocks, yn datblygu i fod yn brif borthladd ar gyfer hwylio i Ddulyn o Lundain a de Lloegr. Yr adeg hvnny nid oedd y Fenai a’r Conwy wedi eu pontio ond yn ddiweddarach llwyddodd cystadleuwyr Madocks i hyrwyddo’r ffordd Ogledd Cymru a daeth Caergybi yn brif borthladd y fordaith i Ddulyn.
Pensaerniaeth Tremadog Mae Tremadog yn engrhraifft wych o Gynllunio Trefol. Bwriadwyd y lleoli, gosodiad yr adeiladau a’r lle rhyngddynt i greu’r argraff o fwrdeisdref. Gan na feddai’r cyfoeth i’w hadeiladu i gyd ei hun, dymunai Madocks ddenu pobl i’w dref i adeiladu oddimewn i’w gyfanwaith cryf cynlluniedig. Rhan bwysig y dref oedd Sgwar Y Farchnad. Rhydd cefndir y graig serth effaith theatrig i’r holl safle. Ffurfia’r Stryd Fawr a Heol Dulyn y stryd groes ar ben y Sgwar lle saif yr adeiladau mwyaf arwyddocaol, sef Neuadd y Dref ar Ystafell Dawnsio a adeiladwyd ym 1805; a Gwesty y Goets Fawr. Saif Neuadd y Dref (Siop Siola yn awr) ar esgynlawr o risiau a arferai ymestyn ar draws ei gwyneb. Perthyn harddwch syml iddi gyda phump agoriad bwaog ar y llawr isaf, y ffenestri fframiog hael eu maentoli ar y llawr cyntaf a’r to isel ei oleddf gyda hipan, a llydan ei fargodion uwchben. Arferai dawnswyr fynd i’w hystafell ar y llawr cyntaf trwy’r taprwm yn y Madocks Arms cyfochrog er mwyn osgoi anhrefn Neuadd y Farchnad ar y llawr isaf; dawnsient i fiwsig y cerddorion yn eu oriel yn wynebu’r ffenestri. Mae’r tô yn nodweddiadol o arddull Madocks - ymdebyga i un y Wneuthurfa (Manufactory) a’i dy ei hun, Tan yr Allt. Yn amlwg ar y wyneb mae chwech medal, a ddynodant gymertadau theatrig, ar y pum maen clo sydd yn awgrymu y defnydd a wnaed o’r adeilad fel theatr yn ystod tymor byr yr haf. Capel ac Eglwys Mae’r capel yn anghyffredin gan fod y than fwyaf o gapeli yr adeg hynny yn syml iawn gyda phulpud ar ganol wal hir fel y gallai pawb glywed y pregethwr. Ardull teml Roegaidd sydd i Peniel. Stwco sydd ar ei wyneb gyda ffenestr gron yn y pediment. Oherwydd ei gynllun clasurol cefna’r pulpud ar wal y talcen ol gyda’r seddau yn esgyn oddiwrtho yn null theatr, ag oriel uwchben. Cwblhawyd Eglwys y Santes Fair 18 mis wedi’r capel. Dyddia o 1811 a hi yw un o eglwysi cynharaf yr adfywiad gothig yng Nghymru. Seddau blwch oedd ynddi yn wreiddiol gyda darluniau o bobtu’r allor a ffenestri lIiw yng nghorff yr eglwys. Maent oll wedi mynd. (Gosodwyd ffenestr ddwyreiniol teulu’r Greaves ym 1899). Ar blac pres syml caiff Madocks ei goffau ynghyd a phriodas un Mary Madocks gyda Martin Williams ym 1811. Plac o farmor sydd yn coffau John Williams a fu farw ym 1850 ynghyd a’i wraig Anne a’u unig fab W T Massey Williams, y cyfan wedi eu claddu yn yr eglwys. Lleoliad rhamantus sydd i’r eglwys ar graig frig. Carreg Coade yw’r porth a gludwyd yn ddarnau o Lundain ar long. Gwnaed y meindwr o friciau wedi eu gwynebu gyda sment “Parkers Roman”. Mathau cynnar o gerrig ffug oedd y ddau ddeunydd yma. Mae’n debyg fod y briciau ar gyfer y meindwr wedi eu gwneud yn lleol gyda chlai o’r Farmyard cyfagos.
Diwydiant Cai diwydiant ei gynnwys yng ngweledigaeth Madocks ar gyfer y dref ac ym 1805 fe adeiladodd y Wneuthurfa (Manufactory). Daeth yn lleoliad Un o‘r melinau gwlan cyntaf yng Nghymru gyda pheiriannau cribo a nyddu. Wrth ochr y felin safai’r adeilad arbennig ar gyfer y gwehyddu. Saif yr adeilad o hyd ac fe’i defnyddiwvd o tua 1835 fel Barcdy. Yn ogystal yr oedd melin flawd a phandy yn cael eu gyrru gan rym dwr. Disgynnai’r dwr tros gyfres o byllau cronni a thros yr olwynion, o Lyn Cwm Bach a grewyd uwchben y Wneuthurfa. Yr oedd Madocks bob amser yn ymwybodol o edrychiad ei adeiladau. Cynlluniwyd to cyffelyb lawn i Neuadd y Dref ar gyfer adeilad y gwyddion oedd yn lluniaidd lawn gyda’i resi o ffenestri bob yn ail a’r gwaith cerrig a dau adeilad is o boptu iddo. (To tros dro sydd arno’n awr). Gorchmynodd Madocks i “felynu’r felin yn dda” ac i beintio’r ffenestri yn wyrdd tywyll.
Tai Manylder plaen ond grymus sydd i dai Tremadog a chynllun nodweddiadol o ddrws canol a pharlwr had ei faintioli neu siop ar bob ochr gyda dwy lofft uwchben. Yn y cefn yr oedd cegin gyda tho ar oleddf isel. Addaswyd dau o’r cynlluniau hyn ar gyfer Tafarnau’r Sgwar, trwy roi to cerrig bwaog uwch banner y gegin gefn er mwyn creu seler sych ohoni gyda thymheredd cyson. Gorffenwyd rhan gyntaf yr adeiladu ger Ty Pâb ar Stryd yr Eglwys (Heol Llundain yn wreiddiol). Bwriedid cael stryd groes yma fel ag y nodir gan y bwau ar ochr Ty Pâb. Adeiladwyd sawl cartref uchelwr yn yr ardal. Engrhaifft yw Ty Nanney yn Nhremadog, er na fedda y lleoliad dramatig delfrydol. Cartref Madocks ei hun oedd Tan yr Allt. Perthyn iddo’r bargodion llydan, toau isel ei goleddf a feranda, ynghyd a nenfwd crwn ac ychydig o fanylion gothig oddimewn. Y Cob Cwblhawyd y Morglawdd neu’r Cob erbyn Hydref 1811 . Cymerasai fwy o amser ac arian na’r disgwyl i’w adeliadu a phwysai y rhai yr oedd Madocks yh ddyledus iddynt am eu arian. Ymddangosai fod y pryderon ariannol ar ben yn awr oherwydd y doll ar y teithiwr a cherbydau a’r incwm o‘r tir a adenillwyd. Cynhaliwyd gwledd bedwar diwrnod ac Eisteddfod er mwyn dathlu gorffen y Cob. Yna ym mis Chwefror 1812 fe’i bylchwyd gan gyfuniad o storm a lanw uchel. Llwyddodd asiant Madocks a’i gefnogwyr i gadw’r beiliaid draw, casglwyd gwyr ac arian o bob rhan o’r sir ac yn y diwedd atgyweirio’r bwlch a chryfhau’r holl forglawdd. Erbyn 1814 yr oedd ar agor unwaith eto. Fodd bynnag, drylliwyd Madocks yn ariannol a morgeiswyd ei holl eiddo.
Genedigaeth Porthmadog Angorwyd ochr Sir Gaernarfon y Cob i graig fechan a frigai i’r wyneb. Er mwyn rheoli llif y dwr, gosododd Madocks lifddorau yn y rhimyn cul rhwng y tir a’r graig. Llifai’r Glaslyn yn awr hyd gefn y morglawdd, troellai trwy’r llifddorau a chafnu basn ar gyfer porthladd eang ei faintioli. Cyn hyn, rhagwelodd Madocks mai ar Ynys Cyngar, rhyw ddwy filltir yn is i lawr yr aber y byddai’r porthladd a chynhwysodd ef yn ei Fesur Seneddol i amgau y Traeth Mawr a dderbyniodd y Caniatad Brenhinol ym 1807. Yna, ym 1821 llwyddodd i gael Deddf ar gyfer harbwr yn Ynys Tywyn oedd i’w au enwi yn Port Madoc. Erbyn 1824 tirfesurai’r Ilwybrau posibl ar gyfer rheilffordd o Borthmadog i’r chwareli llechi newydd ym Mlaenau Ffestiniog. O fewn cenedlacth cyrhaeddai Iiechi Blaenau yr Harbwr trwy gad eu cludo ar draws y Cob gan Reilffordd Ffestiniog. Porthwyd tyfiant Porthmadog gan y fasnach hon. Marwolaeth Madocks Ym 1826 teithiodd Madocks a’i deulu i’r Eidal am wyliau. Ysgrifennai adref yn gyson gan yrru cyfarwyddiadau i John Williams i baratoi eu ty newydd, Morfa Lodge (Gelli Fair bellach) uwchben Porthmadog, ar gyfer eu dychwelyd. Ond bu farw Madocks yn sydyn ar y daith adref yn Paris. Claddwyd ef ym mynwent Père Lachaise ar Fedi 17. Chwech oed yn unig oedd ei ferch Eliza Anne (Maria) Ermine, felly gofalwyd am ei eiddo gan ymddiriedolaethwyr hyd y byddai’n ddigon hen i etifeddu. Dychwelodd ei wraig i gartref ei phlentyndod ger Aberhonddu gan adael yr ystad i’w rhannu ymysg y rhai a gynorthwyodd i ariannu menter Madocks. Cofadail y gwr rhyfeddol hwn yw treflan Tremadog a ddeil bron yn berffaith o ran cynllun a lleoliad. Shelley Er mwyn ariannu adeiladu ac yna atgyweirio y Cob, morgeisiodd Madocks ei holl eiddo a gosododd ei dy ei hun yn Nhremadog i'r bardd Percy Bysshe Shelley.Yn anffodus, trodd Shelley y drol gyda trigolion lleol trwy feirniadu eu magwraeth o ddefaid ar gyfer eu bwyta a thrwy fynd i ddyled masnachwyr lleol.Ymadawodd ar frys heb dalu ei rent na chyfrannu i'r gronfa a sefydlwyd er mwyn cynorthwyo Madocks, yn dilyn ymgais honedig ar ei fywyd gan ymosodwr rhyw noson yn Nhanyrallt. Cysylltwch gyda ni hefo unrhyw wybodaeth bellach am Shelley, neu ei berthynas gyda Madocks.
Lawrence o Arabia Trigai TE lawrence, "Lawrence o Arabia" pan yn blentyn yn y ty a adnabyddir heddiw fel Ty Lawrence, yn Heol yr Eglwys, Tremadog. Cysylltwch gyda ni hefo ynrhyw wybodaeth bellach am amser Lawrence yn Nhremadog ac unrhyw gyfeiriadau pellach ganddo am y dref.
Testyn o Hanes fyr o Dremadog - hawlfraint gopïo © Cyfeillion Cadw Tremadog
|