Ymddiriedolaethau Diogelu Adeiladau
Beth yw Ymddiriedolaeth Diogelu Adeiladau? Elusen yw Ymddiriedolaeth Diogelu Adeiladau, a sefydlwyd ac sydd fel rheol yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, sy’n ceisio defnydd newydd i adeiladau hanesyddol a esgeuluswyd. Mae dau fath o Ymddiriedolaeth. Y rhai mwyaf cyffredin yw’r ‘Ymddiriedolaethau Cronfa Gylchdröol’ sy’n prynu, atgyweirio ac yna’n gwerthu adeiladau hanesyddol. Bydd unrhyw arian dros ben yn cael eu defnyddio ar gyfer y prosiect nesaf. ‘Ymddiriedolaethau Prosiect Unigol’ yw’r lleill. Fe’u sefydlir oherwydd pryder am un adeilad penodol y maent yn rhagweld y gellir gwneud defnydd addas ohono. Wedi i‘r adeilad gael ei achub, bydd yn cael ei gynnal a’i redeg gan yr ymddiriedolaeth.
Ers faint y mae'r Ymddiriedolaethau yma mewn bodolaeth? Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae’r ymddiriedolaethau wedi ennill eu plwyf yn Lloegr a’r Alban fel cyfrwng effeithiol ar gyfer trwsio, diogelu ac adfywio ein hadeiladau hanesyddol Mae mwy na 190 o Ymddiriedolaethau Diogelu Adeiladau yn y Deyrnas Gyfynol. Nid oedd ond tair ohonynt yng Nghymru cyn 1991, ond erbyn dechrau 2000 mac yna 18, gyda dau ymddiriedolaeth trwy y Deyrnas Cyfynol yn gweithio ar brosiectau yng Nghymru. Mae deuddeg ohonynt yng Ngogledd Iwerddon hyd yma.
Pwy a all gychwyn Ymddiriedolaeth Diogelu Adeiladau?
Mae’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn cael eu sefydlu gan bobl leol, yn parhau yn nwylo’r gymuned leol, yn dibynnu ar wybodaeth leol, ac yn deall gobeithion a phryderon lleol. Fodd bynnag, byddant yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â‘r llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, cymdeithasau tai, asiantaethau menter lleol a’r sector preifat.
Pam y mae’r Ymddiriedolacthau’n llwyddo lle mae datblygwyr cyffredin yn methu?
Bydd yr Ymddiriedolaethau’n aml yn ceisio diogelu adeiladau nad ocs neb arall yn barod i fynd i’r afael â hwy. Fel ymddiriedolaethau sy’n gweithredu er lles y cyhoedd, maent yn gallu cael grantiau gan elnsennau eraill, cyrf stadudol, Ewrop a’r Loteri, yn wahanol i ddatblygwyr preifat. Gallant felly ddiogelu er budd y cyhoedd adeiladau o bwysigrwydd pensaerniol a hanesyddol sydd dan fygythiad lle nad oes ateb masnachol i’r broblem. Gall hyn greu adfywiad mewn ardal ddirwasgedig. Fodd bynnag mae’r adeiladau yn dibynnu’n drwm ar ewyllys da gwirfoddolwyr, ac ar roddion gan y cyhoedd.
Ai diogelu hen adeiladau’n unig y byddant? Drwy addasu hen adeiladau at ddefnydd newydd, bydd yr Ymddiriedolaethau Adeiladau yn creu swyddi, yn darparu rai, yn gwella ansawdd yr amgylchedd ac yn cyfrannu tuag at dwristiaeth. Bydd yr Ymddiriedolaethau’n ceisio sicrhau bod yr adeiladau’n cael eu hatgyweirio i’r safon uchaf. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant mewn medrau traddodiadol. Bydd yr Ymddiriedolaethau yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd yr amgylchedd adeiledig drwy gynnil dyddiau agored, arddangosfeydd, cyhoeddi llenyddiaeth ac ymgyrchu ar faterion cadwraethol perthnasol.
| |
Cadw Cymru
Cadw yw'r adran amgylchedd hanesyddol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru
|
| |
Yr 'Heritage Lottery Fund'
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i ddathlu, gofalu a dysgu mwy am ein treftadaeth amrywiol
|
| |
APT/Cytal
The UK Association of Preservation Trusts
|
| |
Yr 'Architectural Heritage Fund'
Mae'r Architectural Heratige Fund yn elusen wedi ei sefydlu i hybu'r warchodaeth o adeiladau hanesyddol ym Mhrydain
|
|