www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Cefnogwch ein Gwaith


Cefnogwyr


Mewn cyfnewid am gyfraniad blynyddol (isafswm £5.00) derbynia cefnogwyr gylchlythyr achlysurol yn adrodd ar ddatblygiad y prosiectau. Gwahoddir cefnogwyr i'r CBC a gynhelir yn gyhoeddus yn Nhremadog yn Chwefror. Er nad oes hawliau pleidleisio gan y cefnogwyr odditan gyfansoddiad CCT, mae'r ymddiriedolwyr yn hapus o dderbyn eu sylwadau ac yn agored i awgrymiadau a ddaw oddiwrth y cefnogwyr. Er mwyn dysgu mwy am ddod yn gefnogwr i CCT, cysylltwch ag ysgrifennydd yr ymddiriedolaeth os gwelwch yn dda.


 

Ymddiriedolwyr


Ar hyn o bryd y mae chwech ymddiriedolwr, i gyd yn drigolion Tremadog a'r cyffiniau. Gweler y dudalen ynglyn a'n manylion swyddogol am rhagor o wybodaeth.


 

Gwirfoddolwyr


Yr ydym bob amser yn hapus o glywed oddiwrth unrhyw un gyda'r amser, profiad, cryfder, sgiliau proffesiynol neu gyda phobl i'w cynnig er mwyn cefnogi'r ymddiriedolaeth. Os ydych yn pryderu am ddyfodol Tremadog, yna cysylltwch os gwelwch yn dda.


 

Cyfraniadau


Dibynna CCT yn bennaf ar gyfraniadau er mwyn codi arian i gyfarfod a'r gost o godi ymwybyddiaeth ynglyn a phwysigrwydd hanesyddol Tremadog a'i botensial economaidd presennol. Er ein bod yn gallu ceisio am ariannu cyfalaf ar gyfer prosiectau neilltuol i brif gyrff ariannu megis Cadw a'r Loteri Treftadaeth, nid yw'r cyrff hyn yn ariannu incwm. Nid yw eu ariannu cyfalaf ar gyfer prosiectau fyth yn uwch na 100%, felly rhaid i CCT godi cyfalaf ar y cyd. Lleolir Tremadog oddimewn i un o ranbarthau mwyaf difreintiedig y DU yn economaidd, a chydnabyddwyd hyn yn ddiweddar trwy iddi dderbyn statws Amcan 1 ar gyfer datblygu economaidd Y Comisiwn Ewropeaidd. Yn y DU,dyfarnwyd statws Amcan 1 i Lerpwl, Gorllewin Efrog a Chernyw. £6,300 yw'r incwm teuluol ar gyfartaledd a thenau a gwasgarog yw'r boblogaeth. Gwna hyn godi arian ar y cyd yn anodd iawn yn lleol.


Bydd ymddiriedolwyr Cyfeillion Cadw Tremadog yn wirioneddol ddiolchgar am unrhyw rodd,mawr neu fach unwaith neu reolaidd a fydd yn ymestyn eu gweledigaeth o adfer Tremadog i'w ogoniant gwreiddiol a galluogi cynulleidfa ehangach i werthfawrogi ei werthoedd unigryw. Cysylltwch â ni er mwyn cyfrannu.

 
 
:::: dylunio i'r we gan jake voelcker ::::