Rheilffordd Ucheldir Cymru
Rheilffordd bychain gyda siop a chaffi ym Mhorthmadog
Dyma un o Reilffyrdd Bychain Cymru, ac iddi hanes rhamantus a chyffrous. Arferai lein fach Beddgelert redeg o Borthmadog i Dinas ger Caernarfon, gan dramwyo drwy fwlch Aberglaslyn i Feddgelert, i fyny drwy Ryd-ddu, Betws Garmon a Waunfawr, gyda golygfeydd gogoneddus ar bob llaw. Byr yw'r daith heddiw ond awn â chwi i mewn i'r Gwaith yn Fferm Gelert i ddangos peth o hanes y lein. Cewch weld yr unig injan sydd ar â o'r cwmni gwreiddiol, sef Russell. Bydd cyfle i siarad â'n gwirfoddolwyr, llawer ohonynt yn lleol, am hanes Rheilffordd Ucheldir Cymru fel yr oedd ac fel y mae heddiw. | address: | | Welsh Highland Railway Ltd. | | | Gelert's Farm Works | | Madoc Street West | | Porthmadog | | Gwynedd LL49 9DY | | | | tel: | (01766) 513 402 | | | | website: | www.whr.co.uk | les.blackwell@whr.co.uk
|