www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Tanerdy Tremadog

Sefydlwyd Cyfeillion Cadw Tremadog ym 1991 yn wyneb y bygythiad i ddymchwel y Tanerdy (neu'r Wehyddfa fel y gelwid ef i ddechrau). Hwn oedd un o'r adeiladau cynharaf i gael ei godi'n benodol ar gyfer diwydiant yng Nghymru, ac sydd heddiw yn adeilad Cofrestredig gradd II*.

Yr oedd yn agos i gael ei gwblhau ym 1806. Safai Melin Wlân drws nesaf iddo tan rywbryd ar ddiwedd y 1950au neu ddechrau'r 1960au, ond fe'i dymchwelwyd hi er gwaetha'r ffaith ei bod yn Gofrestredig. Yn wreiddiol, caed pandy, llif goed a melin ŷd ar y safle. Crëwyd llyn yn y mynyddoedd uwchlaw Tremadog i gynhyrchu pŵer i yrru'r peiriannau, ac mae hôl yr argae, y pyllau dal a'r cafnau yn dal yn bresennol hyd heddiw.

Datblygodd y Wehyddfa yn Danerdy yn y 1830au. Daeth y barcio coed i ben yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Agorwyd golchdy ar ran o'r safle yn gynnar yn y 1900au, ac ehangodd hwnnw, gan ddefnyddio adeilad y Tanerdy gynt fel siop sychu dillad tan rywbryd yn y 1960au pan gondemniwyd yr adeilad gan Arolygwr y Ffatri. 

Trodd yr adeilad yn segur. Nid oedd adeiladau diwydiannol yn gymwys am gymorthdaliadau atgyweirio adeiladau hanesyddol bryd hynny er bod yr adeilad wedi ei Gofrestru ym 1951. Caeodd y siop sychu dillad ym 1980. Defnyddiwyd y safle i falu ceir wedyn tan oddeutu 1985, cyn iddo gael ei brynu gan ddatblygwr. 

Dangosodd archwiliad a noddwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru ym 1993 fod y safle yn debygol o fod yn rhy lygredig i'w ddefnyddio ar gyfer codi tai. Aeth yr awdurdod ati ar frys i atgyweirio toeon y Tanerdy a Bron Haul, y tŷ cyfagos ym 1994. 

Datblygwyd Cynllun Busnes gan yr ymddiriedolaeth a chafwyd caniatâd cyfreithiol i addasu ac ymestyn y tanerdy gynt gan greu amgueddfa Madog a chanolfan ymwelwyr ar y Llawr Gwaelod, gyda'r lloriau uchaf yn weithdai/swyddfeydd ar osod. Roedd yr ymddiriedolaeth yn y broses o godi'r holl arian angenrheidiol ar gyfer y prosiect pan geisiodd yr Awdurdod Lleol adfer costau'r atgyweirio, aeth y safle yn ôl ar y farchnad ac fe'i prynwyd gan ddatblygwr arall yn 2000, ond nid oes unrhyw waith sylweddol wedi ei wneud hyd yn hyn. 



Ffotograffiau o Danerdy Tremadog
Ffotograffiau o Danerdy Tremadog
 
 
:::: dylunio i'r we gan jake voelcker ::::