Eglwys y Santes Fair - Costau a Nawdd
Gwybodaeth newydd ynglyn â chostau a nawdd y brosiect i drwsio Hen Eglwys y Santes Fair
10 Chwefror 2004
Eglwys - £830,000 Porth Coade - £116,000 Bydd costau'r holl brosiect gyda phopeth yn gynwysedig oddeutu £850,000.
Cadarnhâd am Nawdd Mae Cadw wedi gwneud cynnig mewn egwyddor i roi cymhorthdal 30% i ariannu gwaith allannol cymwys ar yr eglwys; a nawdd o 40% tuag at gyfanswm costau atgyweirio y Porth Coade. Cafwyd cadarnhâd am gymhorthdal gan y Gronfa Treftadaeth Pensaernïol i dalu am gostau cyflogi rhywun i baratoi rhan ariannol y ceisiadau sylweddol am nawdd gan Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Cadarnhaodd y Gronfa Treftadaeth Pensaernïol eu bod hefyd am roi benthyciad i dalu ffioedd unrhyw arbenigwyr eraill sydd eu hangen i gwblhau'r ceisiadau sylweddol hyn.
|