www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Prosiect i atgyweirio Eglwys Santes Fair, Tremadog


1 Hydref 2003


Caniatâd Cynllunio a Chaniatâd Adeilad Cofrestredig

Diolch i nawdd gan Cwlwm Gwledig Gwynedd ac Awdurdod Datblygu Cymru, medrodd yr ymddiriedolaeth gomisiynu'r pensaer Andrew Arrol i gwblhau'r ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio ac Adeiladau Cofrestredig yn ystod 2002/2003. Rhoddwyd caniatâd i wneud defnydd amrywiol o'r lle, yn cynnwys parhau â'r defnydd presennol fel man ymgynull, ac ychwanegu gofod i swyddfeydd. Wrth gerdded i mewn i'r adeilad, bydd grisiau yn arwain i fyny i'r dde, gyda thoiled a lifft ar y chwith. Yn syth ymlaen bydd drysau yn arwain at y swyddfeydd ar y llawr gwaelod. Ar y llawr cyntaf, gyda'i doiled ei hun, bydd ystafell gyfarfod/hyfforddiant fawr, yn cadw'r ymdeimlad presennol o uchder a gofod. Bydd ffenestri metal newydd yn cael eu gosod yn y bylchau tywodfaen i sirhau bod goleuni yn dod i mewn, gyda phanel du y tu allan i guddio'r llawr newydd.


Bydd mynediad newydd i gerbydau y tu allan gyda nifer gyfyngiedig o lefydd parcio tua'r cefn, wedi ei guddio gan blanhigion. Bwriad hwn yw darparu mynediad diogel oddi ar y briffordd i ddefnyddwyr anabl. Bydd ramp yn cael ei ffurfio o'r lle parcio at y drws blaen.


Mae Andrew Arrol hefyd wedi derbyn awgrymiadau ar sut i atgyweirio Porth Coade gan gadwriaethwyr arbenigol. 


Costau

 

Awgrymodd dyfynbrisiau cychwynnol gan y syrfëwr meintiau yn 2002 y gallai atgyweirio ac addasu'r hen eglwys gostio £511,000, heb gynnwys TAW. Buasai hyn yn cynnwys dod a gwasanaethau i'r safle, creu ychydig o lefydd parcio a rampiau mynediad. Nid yw, serch hynny, yn ystyried costau Porth Coade. Wrth ychwanegu yswiriant, gwaith gweinyddol a ffioedd proffesiynol, amcangyfrifwyd bod y cyfanswm, heb gynnwys TAW, yn agosach i £625,500. 


Ond gyda'r cynlluniau manwl bron yn barod, disgwylir i'r costau hyn gynyddu. 


Bydd prosiect cysylltiedig Porth Coade yn cael ei gweithredu ar wahân. Disgwylir ceisiadau i'w atgyweirio gan gadwriaethwyr arbenigol yn fuan. 


Ymarferoldeb Ariannol

Mae rhent masnachol yng Ngwynedd yn rhy isel i dalu am waith adeiladu ar eiddo masnachol heb gymhorthdal, heb sôn am gadwraeth arbenigol. Amcangyfrifir bod costau blynyddol yswirio'r hen eglwys a chynnal y deunyddiau hanesyddol oddeutu dwywaith y rhent ar y llawr presennol. Mae'r cynigion yn cynnwys gosod llawr ychwanegol i gynyddu maint yr ardal y gellir ei rhentu i sicrhau bod yr adeilad yn cynnal ei hun. Ar ôl atgyweirio ac addasu, bydd yr adeilad 200m2 yn werth ychydig dros £52,000.


Manteision Economaidd

Bydd atgyweirio ac ail-ddefnyddio'r adeilad yn creu oddeutu 17 o swyddi, o ganlyniad i gostau cyfalaf, y gweithgareddau parhaol ar y safle, a gwaith cynnal a chadw'r adeilad. 


Nawdd

Mae'r ymddiriedolaeth wedi gwneud cais llwyddiannus am nawdd gan Cadw.


Rydyn ni yn y broses o baratoi ceisiadau i Ewrop o dan Amcan 1, ac i Gronfa Treftadaeth y Loteri ar hyn o bryd. 


Y defnyddwyr yn y pen draw

Mae gennym lythyr yn dangos diddordeb mawr mewn rhentu'r eiddo yn ei grynswth gan ddarparydd gwasanaeth lleol, Cartrefi Cymru. Maent newydd baratoi strategaeth tymor hir sy'n profi y byddant angen adeilad mwy mewn dwy neu dair blynedd. Byddant angen swyddfeydd, ystafell gyfarfod fawr a chyfleusterau hyfforddiant eu hunain. Maent yn awyddus i ddefnyddio'r tir ar gyfer hyfforddiant eu cleientiaid. Golyga hyn y bydd y gerddi yn cael eu cynnal a'u cadw gan barhau yn agored i'r gymuned. 


Amserlen

Cychwynnwyd y les ar 1 Medi 2000. Mae cymal y toriad ar ôl 5 mlynedd. Os nad ydym wedi sicrhau pob caniatâd a nawdd 100% erbyn 1 Ebrill 2005, bydd yr ymddiriedolaeth yn gorfod diweddu'r les. Yn y cyfamser, byddwn yn gorfod talu dros £700 o yswiriant y flwyddyn ar yr adeilad...

 
 
:::: dylunio i'r we gan jake voelcker ::::