Llythyr Newyddion 21
1 Mehefin 2004
Yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn na dderbyniasoch lythyr newyddion ers tros ddeunaw mis ac ymddiheurwn am ein methiant yn y cyswllt yma. Ein unig esgus yw pwysau gwaith a chyrifoldebau eraill ar ysgwyddau grwp bychan o ymddiriedolwyr.
Bu digonedd o ddatblygiadau yn ystod y cyfnod yma ac yn ein CBC ar Chwefror 23, cyfeigodd ein cadeirydd Bethan Rees Jones atynt yn ei adroddiad am 2003-04. Addasiad o'r adroddiad gyda diweddariadau lle bo angen yw'r llythr newyddion yma. Mae'r mwyafrif yn naturiol yn ymwneud a chyn-eglwys y santes Fair.
Egwlys y santes Fair Dyfarnwyd grant i ni gan ADC yn cyfateb ag 80% o gostau'r pensaer a'r maint fesurydd yn paratoi manyleb ac amcangyfrif o gost y gwaith ar yr eglwys. Yr oeddem angen y gwbodaeth yma ar gyfer ein cais i'r Loteri Treftadaeth.
Sicrhawyd gweddill y gost rhagbarataol yma o'r Gronfa Treftadaeth Bensaerniol a Chwlwm Gwledig Cyngor Gwynedd (Cronfa Ailfywiogi Bro). Eisioes fe addawyd grant o 30% tuag at atgyweirio allanol yr eglwys gan CADW.
Rydym wedi apwyntio Wilf Jones, y maintfesirydd i weithredu yn ogystal fel Gweinyddwr Prosiect (Ariannol) er mwyn paratoi yr agweddau ariannol o'r prif geisiadau ariannol mewn cyswllt a'r ysgfennydd. Cyflwynwyd hwy erbyn hyn i'r Gronfa Loteri Treftadaeth ond ni ddisgwlir penderfyniad ganddynt am rai misoedd.
Dodrefn yr eglwys Allor a reredos
Adolygwyd y cynigion i drawsnewid yr eglwys yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i'r darganfyddiad fod yr allor a'r reredos yn dyddio o ddechau'r 20ed ganrif wedi eu cynllunio gan CR Ashbee, pensaer a chysylltiad agos gyda'r Mudiad Celf a Chrefft a sefydlydd yr "Art Workers Guild". Mae'r allor a godwyd ym 1917 yn coffau Randall Casson, ffigwr amlwg ym Mhorthmadog, a fu farw tra ar ei wyliau yn Taormina, Sisili ym 1914.
Lladdwyd ei unig fab tra'n gwasanaethu ar y cyd a Robert Graves a Siegfried Sasoon gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol ychydig wythnosau yn unig wedi codi'r allor. Yr oedd Syr Lewis Casson yr actor a Syr Hugh Casson y pensaer yn neiaint i Randall Casson. Cynlluniwyd yr allor yn amlwg i'w chynnwys yn y gangell mosaic a fodolai cynt ac felly pendefrynnodd yr ymddiriedolaeth i'w gadael yno. Caiff y llawr cyntaf arfaethedig ei godi i wneud lle i'r reredos a bydd cynllun mwy agored i'r arwynebedd swyddfa ar y llawr gwaelod er mwyn caniatau golygfa briodol o'r allor a'r reredos. Mae'r ymddiriedolaeth yn hynod ddiolchgar i'r teulu Pocock, perthnasau Randall Casson am y wybodaeth ynglyn a'r allor.
Yr Organ Dengys tendrau yr argennigwyr wr mwyn atgyweirio'r organ y byddai'r gost rhwng deg a deunaw mil o bunoedd. Gallai gwerthu i eglwys neu goleg godi deg mil o leiaf. gan na fyddau defnydd i'r organ a pherygl o niwed pe cai ei chadw yn yr adeilad, yr ydym o'r farn y dylid ei gwerthu. Gallai'r arian a godir fynd tuag at cronfa adfer yr adeilad fel rhan o'r swm a ddisgwylir i ni ei godi gan y prif ariannwr. Cytunodd trigolion Tremadog yn y CBC fod hyn yn dderbyniol.
Y Porth Coadestone Cyfeiriasom ynghynt at ymchwil ein ysgrifennydd a sefydlodd fod y porth Coadestone yn enghraifft unigryw o'i fath ac ei fod yn gyfoes a'r Conserfatori yn Carlton House a adeiladwyd gan y Maglyw Dywysog (Prince Regent). Erys y modd y deth i afael Madocks yn ddirgelwch. Gwahoddwyd arbennigwr gennym i dendro cyngor ynglyn a sut y dylid atgyweirio a chadwraeth y porth. Paratowyd manyleb gan Andrew Arrol ein pensaer ar gyfer ei atgyweirio a sicrhawyd tendrau gan yr arbennigwyr. Ffurfiodd y rhain ran o'r prif gais grant i'r Gronfa Loteri Treftadaeth. Cynigodd 40% o'r costau atgyweirio gan CADW.
Bedd Madocks Bu bedd Madocks ym mynwent Pere Lachaise yn Paris yn fater o gonsern i ni ers peth amser. Gorchuddiwyd ef gyda pridd o fedd cyfagos; sicrhawyd ni gan yr awdurdod fod y gorchudd bellach wedi ei symud ond nid ydynt yn barod i dderbyn cyfrifoldeb pellach. Erbyn yr ymweliad olaf diflanodd y garreg fedd. Pe canfyddir hi, credwn y byddai yn fanteisiol ei dychwelyd i fynwent yr eglwys ble gellid codi'r arian angenrheidiol. Byddai'n ddymunol yn ogystal i godi plac cofiadwriaethol bychan ym mynwent Pere Lachaise gan na ellir ail-ddefnyddio'r beddrod oherwydd fod coeden fawr wedi tyfu trwyddo.
Tan yr Allt, cartref Madocks yn Nhremadog Hysbyswyd ni gan Nick Golding a John Bewick, cefnoger brwd i'r ymddijedolaeth, eu bod wedi darganfod olion o furluniau yn yr ystafell fwyta sef cilfachau trompe d'oeil a gofod hirgrwn canolog a oedd mae'n debyg yn leoliad y darlun o Fuddugoliaeth Neifion (Neptune).
Gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth Ymwelodd aelodau o Gymdeithas Hanes Abergele a Thremadog ac fe'u hebryngwyd o gwmpas y pentref gan Frances Voelcker, Andrew Arrol a Peter Trumper. Cynhaliwyd digwyddiad T.E.Lawrence yn Snowdon Lodge a dderbyniodd gefnogaeth dda a sylw ar y teledu. Cynhaliodd CCT arddangosfa fechan yno a gwerthwyd nifer o'n pamffledi.
Newid ymhlith yr ymddiredolwyr Ymddiswyddodd dau aelod gwerthfawr o'r ymddiriedolaeth yn ddiweddar am resymau personol. Ymadawodd Anwen Hughes, aelod o'r cychwyn, a Thremadog a dymunwn yn dda iddi gan ddiolch am ei chyfraniad. Bydd yn chwith garw ni heb arbenigedd Peter Trumper mewn materion cynllunio ac adeiladu a dymunwn yn dda iddo yntau.
Yr ydym yn falch o groesawu dau ymddiriedolwr newydd, Parchedig Graham Johnson Ty Pab a Linda Jones Craig Madog a diolchwn iddynt am eu parodrwydd i wasanaethu.
Yn ei anerchiad diolchodd Bethan Rees Jones i'r ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth, i'r ysgrifennydd am ei ymdrechion anhepgorol ac i Enid Jones ein trysoydd am ei stiwgdiaeth effeithiol.
Taflenni Darluniadol Yn ystod y flwyddyn cydweithiodd yr arlunydd Falcon Hildred gyda'r ymddiriedolaethwyr Dewi Williams ag Elsbeth Thomas i gynllunio ag argraffu taflenni yn arddangos Tremadog. Mae'r ymddiriedolaeth yn hynod ddiolchgar i Falcon Hildred am ei gefnogaeth hael. Gwerthir y taflenni mewn pacedi o pedwar am un bunt yn cynnwys TAW +35p cludiant y pecyn. Derbyniwyd grant gan ymddiriedolaeth Rebecca tuag at gost yr argraffu felly aiff yr arian a godir yn syth i'r ymddiriedolarth. Gellir eu prynu yn y Fleece neu'r Swyddfa Bost yn Nhremadog, neu eu archebu yn uniongyrchol gan wneud siec yn daladwy i Cyfeillion Cadw Tremadog.
|