Llythyr Newyddion 20
1 Rhagfyr 2002
Hen Eglwys Santes Fair Newyddion da; cafwyd cefnogaeth Cyngor Gwynedd gyda grant tuag at y costau cyfredol yn ogystal a chymorth i baratoi ceisiadau grant. Sicrhawyd Caniatad Cynllunio a Chaniatad Adeilad Rhestredig. Cafwyd hyd i denant arfaethedig sefydlog ac addas. Derbyniwyd llawer o lythyrau cefnogaeth calonogol. Yn awr yr ydym yn paratoi ceisiadau ariannu lluosog gan ryngweu yr edefynnau ariannu gwahanol yn un brethyn mawr hyblyg i orchuddio pob peth. Dengys y cynllun costio cyntaf gan y Maint Fesurydd mor fawr y gall y costau fod.
Ffeithiau cynhyrfus i ddechrau Mae'r Porth Coadestone yn eitem gwirioneddol eithriadol. Codwyd ef yn bendant erbyn 1811 fel y prawf y disgrifiad gan Hyde Hall yn ei "Description of Carnarvonshire 1805-11" ac gan Richard Fenton yn ei "Tours in Wales 1804-1813” a ddisgrifiodd ef fel "Gateway of Coed composition". Erbyn 1826 edrydd Freeman (Sketches in Wales) fod "The entrance into the consecrated ground is under an arch of composition made in London, and somewhat too fanciful in design, and perishable in material, for its present service."
Nid yw disgrifiad diweddarach Robert Isaac Jones ohono yn cyrraedd yn ddarnau o'r Eidal yn gywir. Mae'n rhaid ei fod wedi cyfuno yr adroddiadau ohono yn cyrraedd yn ddarnau (o'r gwaith Coade i'r de o Bont Westminster) ag ymweliad diweddarach Madocks a'r Eidal yn fuan cyn ei farwolaeth disyfyd yn 1828. Damcaniaeth ynglyn a tharddiad y porth Coadestone
Yn 1811/1812 cynhaliodd tywysog Cymru, y Tywysog Raglaw a Sior IV yn ddiweddarach, ddathliadau moethus yn y conserfatori oedd newydd ei gwblhau yn Carlton House, ei gartref swyddogol yn Llundain. Cynghorwyd y Tywysog i gyflogi y pensaer ieuanc Thomas Hopper i greu'r conserfatori. Yr oedd y conserfatori i fod yn yr arddull gothig, o wneuthuriad haearn bwrw gyda gwydr lliw tryloyw. Yn anhygoel costiodd £22,685. Mae'n wybyddus fod rhywfaint o waith Thomas Hopper ynddo yn gwneud defnydd o Coadestone. Torcheres oedd y rhai hyn, darnau rhydd wyth ochrog i ddal canhwyllau neu ffaglau. Y mae o leiaf un wedi goroesi. Priodola Alison Kelly, awdur y gwaith safonol ar Coadstone, y torcheres i Hopper.
Mewn arddangosfa ddiweddar yn Sotheby's disgrifir ystlumod ar y torchere ond fe'm hysbysir mai tylluanod ydynt mewn gwirionedd; mae arno hefyd ddreigiau a camelod deuben. Mae'n anodd dadansoddi porth Tremadog. Mae'r ffigyrau cerfiedig yn gain iawn ond cymysgfa o'r egsotig yw'r arddull - pennau eliffantod a gwynebau mwnciod efallai, neu a ydynt yn fodau grotesg? A yw'r ystlumod yn rhai naturiol neu arswyd gothig? Mae'r gymysgfa ryfedd yn gyffelyb i'r torchere. Yr oedd Madocks yn gysylltiedig a'r criw ffasiynol yn Llundain ac yn ymwneud a'r theatr. A wnaeth archebu'r darn Coadestone yn syml oherwydd ei fod mor ffasiynol? Neu a wnaeth gael gafael arno yn rhad fel darn tros ben neu wrthodedig o'r conserfatori yn Carlton House?
Yn ôl at dasgau heddiw; Canfod ein ffordd o gwmpas y rhwystrau 1. Yn y llythyr newyddion olaf, adroddwyd am yr angen i ganfod ffynhonnell ariannu llif arian. Sawl mis i Gyngor Gwynedd benderfynu os a chytuno faint o ariannu llif arian. Ymddiriedolwyr yn edrych ar yr amserlen " penderfyniad i atal y prosiect, Mawrth 2005 fan bellaf. Cronfa Loteri Treftadaeth yn cymeryd o gwmpas 10 mis i brosesu cais. Gallai gymeryd blwyddyn i godi arian ar y cyd. Angen tendrau llawn cyn i GLT dderbyn y cais. Ymddiriedolaeth heb sicrhau caniatad cynllunio a chaniatad adeilad rhestredig hyd yn oed - angen comisynu gwaith ar fyrder gan yr ymgynghorwyr er mwyn sicrhau y rhain.
2. Gwnaed cais i Gronfa Cwlwm Gwledig Gwynedd(Adfywio Gwledig) yn Chwefror 2002. Caniatawyd £7,450 a'n galluogodd i gomisiynu y gwaith ar ôl ar gyfer ceisiadau CC ac CAR. Pasiwyd y rhain yn Awst 2002.
3. Cynllun Costio. Gallai'r contract adeiladu ar gyfer yr eglwys gostio cymaint a £511,221. O gwmpas hanner am yr atgyweirio hanesyddol a hanner am osod y llawr uchaf, grisiau a lifft, partisiynau a chyfleusterau. Ychwaneger y costau hyd yn hyn (archwiliadau, gwerthusiadau, ffioedd ymgynghorwyr, costau llungopio'r ymddiriedolaeth) y costau amcangyfrifedig hyd cwblhau a chaniatau am chwyddiant gyda threigl amser; daw hyn a'r costau cyfan gwbl heb gynnwys y Porth Coadestone hyd at amcan o £650,000.
4. TAW. Ar ein ail gynnig, derbyniodd Tollau & Ecseis ein cofrestriad gwirfoddol. Golyga hyn fod yn rhaid i ni godi rhent ar ein tenantiaid ond fe ddylem ad-ennill y TAW a dalwyd mewn cysylltiad a'r prosiect. Llawn cystal oherwydd ni ellir talu y premiwm yswiriant nesaf ar yr eglwys oni bai ein bod wedi ad-ennill y TAW a dalwyd ar ffioedd y pensaer!
5. Mae'r tendrau a dderbyniwyd ar gyfer y gwaith archwiliol ar y Porth Coadestone yn amrywio o £6,000 i £16,000. Maent yn cynnwys sganio i ganfod taclau metal mewnol, glanhau arbrofol a pharatoi argymhellion atgyweirio. Amrywia'r atgyweiriadau posibl o atgyweirio syml ar y safle (nad yw'n debygol o fod yn ddigonol) i ddatgymalu, atgyweirio ac ail godi gyda thaclau di-rydol, i ail godi ynghyd ag ail greu darnau coll neu a dorwyd (rhy ddrud mae'n debyg).
6. Tenant: mynegwyd diddordeb cryf gan adran ranbarthol o'r elusen cenedlaethol sef Cartrefi Cymru. Dengys eu cynllun datblygu angen am swyddfeydd mwy o fewn dwy flynedd. Mae'r gymysgfa a gynigiwn o swyddfeydd ar y llawr gwaelod ynghyd a'r ystafell hyfforddi uchod, gerddi a'r safle yn Nhremadog ar lwybr trafnidiaeth gyhoeddus yn addas iddynt. Byddwn yn cyfarfod gyda hwy yn fuan er mwyn gweld os gallwn trwy weithio yn fwy ffurfiol gyda hwy, gwtogi yr amser a gymer i gwblhau y gwaith. (Cafodd y cynigion eu arddangos ers yr haf yn siop sglodion Tremadog, trwy garedigrwydd Raymond Jones. Cânt eu gweled yno hyd y Nadolig. Byddant i'w gweld yn y CBC yn ogystal).
Gweddillion Madocks Ym mis Mawrth dywedwyd wrthym gan Fynwent Pére Lachaise NA allem ddychwelyd gweddillion Madocks adref gan fod y goeden fawr sydd wedi tyfu trwy'r bedd wedi ei gwarchod. Felly gofynasom a allem gael y garreg fedd gan adael coflech yn Paris. Ateb yr awdurdodau oedd fod yn rhaid i gynllun y goflech gael ei dderbyn ganddynt; byddai'n rhaid i ninnau gael caniatad disgynyddion Madocks neu ei weddw er mwyn dychwel y garreg.
Disgynyddion Madocks Priododd unig blentyn Madocks gyda un John Webb Roche o'r Iwerddon. Ganwyd pedwar o blant iddi yn ôl Elizabeth Beazley, ond yn ôl ewyllys ei mab, ymddengys mai dim ond tri oedd wedi goroesi. Darganfyddodd Gina Kent ewyllys wyr i Madocks; yna darganfyddodd y Roche presennol sef yr Arglwydd Fermoy. Ymddengys nad oedd gan wyrion Madocks blant. O ganlyniad aeth yr ystad (llinell wrywaidd yn oruchaf) i gefnder pell i wr merch Madocks o deulu'r Roches. Bu i wyres Madocks elwa o'r ystad yn ystod ei hoes, ond ni throsglwddywyd hyn i unrhyw blant yn ôl telerau'r ewyllys. Nid ydym eto wedi darganfod os oedd plant ganddi - byddent yn ddisgynyddion genetig i Madocks. Ei henw priodasol oedd Anna Maria Mary Charlotte Vivian. Mae'n debyg y byddai ganddi gysylltiadau gyda Brycheiniog ac efallai gyda Lerpwl gan fod ei chenhedlaeth hi yn berchen eiddo yno. Unrhyw wybodaeth?
Barcdy Tremadog a'i safle Gwnaed peth gwaith gan y perchennog presennol fel paratoad i atgyweirio ty Fron Haul ar dalcen gorllewinol y barcdy. Fodd bynnag, ni fu dim symudiad hyd yn hyn i atgyweirio'r neuadd wehyddu gynt. Darganfyddodd y perchennog newydd fod atgyweirio yn aneconomaidd; ofnem mai dyma a ddigwyddai a mynegwyd hyn i Gyngor Gwynedd adeg y gwerthiant. Gresyn i Gyngor Gwynedd wrthod datgelu y ffeithiau llawn i'r diddymwr (liquidator). Gwrthodwyd cynnig yr ymddiriedolaeth i brynu yr eiddo yn ogystal. Gobeithiwn fod y to tun yn dal i amddiffyn yr adeilad rhag dirywio'n ormodol.
CBC Cynhelir y CBC yn gyhoeddus yn ôl ein arfer ar Chwefror 24 yn y Neuadd Goffa yn Nhremadog am 7.00 yr hwyr.
Os ydych yn yr ardal dowch yno os gwelwch yn dda.
|