www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 19


1 Ionawr 2002



Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol


Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn gyhoeddus fel arfer ar Chwefror 25 yn yr Institiwt (Cambrian Pill Depot) Tremadog. Dyma ein 10ed CBC!

Bydd arolwg byr o'r degawd - yr hyn a gyflawnwyd gennym ac fel arall. Cawn edrych ymlaen yn ogystal i'r prosiectau ar y gweill. Dibynna'r Ymddiriedolwyr ar y CBC er mwyn clywed barn trigolion Tremadog a chefnogwyr eraill ynglyn a gwaith yr ymddiriedolaeth a beth y dymunant i ni ei wneud. Felly, dowch os gwelwch yn dda i holi, awgrymu a chynnig eich gwasanaeth neu ein cefnogi mewn unrhyw ddull arall.




Cyn Eglwys y Santes Fair - Y rhwystr diweddaraf


Gwerth eiddo lleol


Un o ofynion yr Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Bensaerniol, y corff sydd yn cefnogi Ymddiriedolaethau Cadwraeth Adeiladau gyda benthyciadau a grantiau, yw ein bod yn darparu prisiad annibynnol o'r adeilad wedi ei atgyweirio iddynt. Yna y maent yn benthyg 70% o'i werth fel cyfalaf gweithredol hyd nes cwblhau y prosiect. Bu'n hysbys i ni ers cryn amser y byddai'r adeilad yn prin cadw ei ben wedi'r atgyweirio oherwydd y rhenti isel yn lleol. Cadarnheir y canlyniadau tebygol gan y prisiad annibynnol a dderbyniodd yr ymddiriedolaeth yn ddiweddar. Fodd bynnag, dengys yn ogystal mai gwerth tebygol yr eglwys o ganlyniad i'r rhenti isel ac wedi'r atgyweirio a thrawsnewid fydd £52,500, er fydd gwaith atgyweirio yn gostio £250,000 o bosibl.


Cyfalaf gweithredol ar gyfer y contract adeiladau


Golyga hyn mai uchafswm y cyfalaf gweithredol y gallai'r ymddiriedolaeth ei fenthyg yw ychydig tros £36,000. Gallai'r ymddiriedolaeth ganfod ei hun yn gorfod benthyg arian arwyddocaol er mwyn talu'r ymgymerwyr bob mis, gan fod Cadw a'r Loteri Treftadaeth yn cymeryd misoedd lawer i dalu eu grantiau.

Gofynodd yr YDB i ni nodi ffynnonellau eraill o gyfalaf gweithredol a darparu llif arian. Felly, y rhwystr diweddaraf yw canfod cyfalaf gweithredol ychwanegol mewn ffurf benthyciadau tal gohiriedig di-lôg neu lôg isel iawn a darparu llif arian.


Grant


Dim ond wedi i ni drefnu'r llif arian hwn y rhyddheir y grant cyntaf i ni a gynigiodd yr YDB ddwy flynedd yn ôl. Dibynna'r ymddiriedolaeth ar y grant yma er mwyn comisiynu gwaith pellach angenrheidiol gan y pensaer a'r Syrfewr Meintiau er mwyn paratoi y ceisiadau ar gyfer caniatad Cynllunio ac Adeiladau Cofrestredig i'r Loteri Treftadaeth a Cadw.




Dychwelyd gweddillion Madocks


Bu farw William Alexander Madocks yn ddisyfyd yn Paris yn 1828 tra ar ei ffordd adref i Gymru yn dilyn ymweliad a'r Eidal. Claddwyd ef ym mynwent Pére Lachaise. Canfyddais fod gweinyddwyr Pére Lachaise yn y broses o ddatgan y llain claddu yn ddiangen a'i ad-hawlio oherwydd ei fod wedi ei adael. (Tyfodd coeden trwyddo a disgynodd y garreg a'r rheiliau.) Caiff unrhyw weddillion dynol eu gosod mewn wrn a'u cadw yn eu esgyrndy. Penderfynodd yr ymddiriedolwyr y dylid dychwelyd gweddillion Madocks a'u ail gladdu ym mynwent y dreflan a sefydlodd tros ddau gan mlynedd yn ôl. Cadarnhaodd Pére Lachaise a'r Swyddfa Gartref fod caniatad i hyn. Rhaid i Pére Lachaise gael caniatad y disgynyddion neu dystiolaeth nad oes rhai.


Olrhain disgynyddion Madocks


Bu Gina Kent o Ryd Ddu mor garedig a chynnig cychwyn yr archwiliad am ddisgynyddion. Gwyddom fod gan unig blentyn Madocks, Eliza Anne Maria Ermine, ddau fab, Francis William Alexander Roche a John Edward Fitz-Maurice Hughes Roche. Priododd Francis yn 1890, ond ni wyddom os bu plant ganddo ef neu ei frawd. Os oes gwybodaeth gan rywun, cysylltwch a ni os gwelwch yn dda. Dymunwn ddychwelyd weddillion Madocks y flwyddyn hon, efallai trwy i grwp o drigolion a chefnogwyr fynd o Dremadog i Paris i'w cyrchu.




Arolwg Bro


O'r diwedd mae'r Arolwg Bro i gael ei lansio! Cadarnhaodd Medwen Edwards, Swyddog Datblygu Cymuned Cyngor Gwynedd, y cyflwynir yr adroddiad a fydd yn gosod allan ganlyniadau'r Arolwg mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nhremadog am 7 o'r gloch ar Chwefror 6 yn yr Institiwt. Bydd gan Gyfeillion Cadw Tremadog gynrychiolaeth yn y cyfarfod er mwyn cyfrannu i'r drafodaeth. Gobeithiwn y canfyddir ffyrdd i chwythu anadl newydd i asedau hanesyddol y pentref trwy wasanaethu anghenion y trigolion ac ymwelwyr yn y presennol a'r dyfodol.


Cynllun Tref Tremadog


Cytunodd Cadw mewn egwyddor i gefnogi cynigion y Cynllun Tref a gyflwynwyd gan Gyngor Gwynedd, er fod angen mireinio rhyw gymaint. Y cam nesaf fydd perswadio Cyngor Gwynedd o wir fantais economaidd Cynllun Tref o’i gymharu a cheisiadau eraill fydd yn cystadlu am gyfalaf.


Gwerth am arian


Dengys profiad mewn mannau arall yng Ngwynedd fod y grant 25% gan yr awdurdod lleol yn dod a 75% pellach; 25% gan Cadw a 50% gan berchennog yr eiddo. Fodd bynnag, daw y fantais wirioneddol wedi'r atgyweirio pan gyfyd gwerth eiddo a chynnydd yn rhif yr ymwelwyr a'u gwariant. Pam ddylai unrhyw ymwelwr din-droi mewn stryd wedi ei chwipio yn ferfaidd a ffenestri a ail osodwyd? Pam ddylai unrhyw un ar wahan i berchennog slymiau fuddsoddi ynddi? Edrych fel pob rhes dai a "foderneiddiwyd" o Caint i Cumbria. Fodd bynnag, ewch i Dolgellau a chrwydrwch o gwmpas yr hen dref. Ewch i Aberdyfi ac edrychwch ar y tai yn gwynebu'r mor a atgyweiriwyd yn ddiweddar. Dyma ddwy dref lle bu Cynlluniau Tref yn weithredol ers nifer o flynyddoedd, yn raddol wthio'n ôl y difrod a wnaed gan esgeulustod, newidiadau bob yn dipyn a than-ariannu. Mewn amseroedd economaidd caled hyd yn oed, arafwyd y raddfa o ddirywiad a'i throi'n ôl mewn rhai rhannau o'r dref. Erbyn hyn mae Bwrdd Twristiaeth Cymru yn cydnabod "diwylliant twristaidd" fel un o'r prif themau i hybu Cymru. Mae sgop felly ar gyfer ariannu partneriaeth ychwanegol o'r cyfeiriad yma. Felly, cysylltwch a'ch Cynghorydd lleol ar Gyngor Gwynedd er mwyn sicrhau fod gwir botensial ein trefi a phentrefi hanesyddol gorau yn cael y gydnabyddiaeth dyledus.

Un nodyn o rybudd. Rhaid i Gynlluniau Tref weithredu am nifer o flynyddoedd: isel yw'r gyfradd ceisiadau yn y flwyddyn gyntaf, felly mae angen gerio y peirianwaith ar gyfer cychwyn araf a hyblygrwydd yn rhyddhau yr arian yn ystod y gaeaf. Nid yw'r tywydd Prydeinig wedi ei syncroneiddio gyda'r flwyddyn ariannol.




Organau Hanesyddol


Tros y Nadolig bum yn darllen "Y Gestiana" gan Alltud Eifion. "Alltud Eifion" oedd enw barddol Robert Isaac Jones, bardd, hanesydd ac argraffwr y mae ei dy a'i argraffdy yn Neuadd Goffa heddiw. Cofnoda fod yr organ wreiddiol yn Nhremadog wedi ei phrynu gan David Ellis Nanney o'r Gwynfryn am £300. Dychmygwch beth fyddai'r gost gyfatebol heddiw!

Yn 1843, prynodd plwyfolion Tremadog organ newydd, yr un sydd yn yr eglwys heddiw mae'n debyg, a symudwyd yr organ wreiddiol i eglwys Ynyscynhaearn a'i gosod yno wedi cryn atgyweirio arni.

Ar sail ffotograffau yn unig fe'n hysbyswyd gan arbennigwr y gallai'r organ yn Nhremadog fod yn werth o ddeutu £2000 i gasglwr, ond y byddai yn costio o leiaf hynny i'w gwneud i fyny. Os mai organ wreiddiol Ellis Nanney, 1811 yw'r organ yn Ynyscynhaearn, gallai fod o ddiddordeb hanesyddol mwy. Trosglwyddwyd yr eglwys hon yn ddiweddar i ofal "Friends of Friendless Churches". Tynnais eu sylw at yr organ a bwriedir ei archwilio.


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog