www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 18


1 Medi 2001



Gwaith gyda'r hen eglwys


Fandaliaeth a'r prysgwydd


Torwyd y ffenestri mor ddrwg gan fandaliaid fel y bu'n rhaid i ni dalu i'w byrddio. Edrycha'r eglwys yn waeth nag erioed. Yr oedd gan y gwasanaeth prawf gymaint o faich trin mynwentydd fel na allent ddod atom, er i ni ofyn ers y gwanwyn.

Ar nodyn mwy positif, mae trafodaethau ar y gweill i geisio cael grant bychan a rhai gwirfoddolwyr i ddod ag ymgymerwyr, gwirfoddolwyr a rhai o'r ieuenctid lleol ynghyd gyda'r bwriad o gydweithio er mwyn clirio libart yr eglwys o'r mieri a phlanhigion y sycamorwydden cyn y gaeaf


BBC

Newyddion positif pellach yw fod y BBC wedi cysylltu a ni gyda golwg i ddefnyddio'r adeilad fel set ar gyfer ffilmio drama Gymraeg. Nid yw'r trefniant wedi ei gwblhau hyd yn hyn ond gall digwydd ym mis Hydref. Byddai'r tal yn ddigon ar gyfer y premiwm yswiriant nesaf...


Tenantiaid


Unwaith eto mae'r ymddiriedolwyr yn ceisio tenant neu denantiaid. Canfyddodd Amser Allan hi'n anodd iawn i gael arian ar gyfer eu Cynllun Busnes. Ni allant felly ymrwymo i ddod yn denantiaid cyntaf i ni. Hyd yn oed pe bai eu Cynllun Busnes yn barod ac yn hyfyw o safbwynt ariannol, fe olygai symud i Dremadog, cymeryd eiddo yn barhaol a chyflogi staff ymgymeriad enfawr iddynt a olygai lawer o amser, hyfforddiant a chodi arian. Yn amlwg, ni fyddent yn barod i fod yn denantiaid i ni oddimewn i'r graddfa amser a ragwelir gan CCT. O ganlyniad, penderfynodd yr ymddiriedolwyr atgyweirio a thrawsnewid yr adeilad i ddiben llai penodol i'w osod fel gofod busnes/gwaith ar y farchnad fasnachol gyffredinol. Gwell fyddai gan yr ymddiriedolwyr o hyd ei osod i gwmni neu grwp a fyddai yn cyfrannu yn gymdeithasol /economaidd yn uniongyrchol i Dremadog. Pe bai gan unrhyw un allan yna awgrymiadau, cysylltwch gyda unrhyw un o'r ymddiriedolwyr os gwelwch yn dda. Nid yw'r penderfyniad hwn yn gwahardd Amser Allan rhag dod yn denant i ni maes o law.




Gweithgareddau Diweddar


Ymwelwyr


Yn ddiweddar croesawodd yr ymddiriedolaeth Ffederasiwn Cymdeithasau Hanesyddol Sir Gaernarfon. Ymwnaeth sawl unigolyn a busnesau yn Nhremadog a hyn. Agorasant eu eiddo a darparu mannau cyfarfod a lluniaeth ar gyfer ein ymwelwyr. Arddengys hyn yr ymdeimlad cryf o gymuned yn Nhremadog a'r balchder yn ei hunaniaeth fel man arbennig. Mae CCT yn dra diolchgar i bawb a wnaeth ein cefnogi yn ein hymdrech i wasanaethu y pentref cyfan. Caniataodd Capel Peniel ddefnydd o'r festri trwy gydol y diwrnod. Defnyddiwyd y Neuadd Goffa ar gyfer arddangosfa ynglyn ag Ymddiriedolaethau Cadwraeth Adeiladau yng Nghymru.

Cytunodd Siop Siola yn garedig i ymwelwyr ddringo y grisiau i'r llawr cyntaf er mwyn gweld yr ystafell uchel ac edrych allan ar Sgwar y Farchnad trwy'r ffenestri fframiau hardd. Caniataodd wardeiniaid Plas Tan yr Allt (cartref Madocks) i un grwp heini weld tu allan i'r ty ar eu ffordd i Lyn Cwm Bach lle buont yn cael golwg ar yr argae a'r cyrsiau dwr gwreiddiol, a ddarparai'r pwer ar gyfer y Wneuthurfa.

Traddododd Andrew Arrol, pensaer yr ymddiriedolaeth, sgwrs gyda sleidiau ar y Porth Coadestone a phensaerniaeth yr eglwys. Cynhwysodd olygfeydd hynod wedi eu tynnu oddimewn i'r meindwr. Wedi hyn arweiniodd y grwp i'r eglwys ei hun.

Darparodd y Cnu Aur ginio ar gyfer nifer o'r ymwelwyr a diweddodd y diwrnod gyda the campus yn y Backpackers. Wedi cerdded o amgylch y pentref, 'roedd golygfa'r platiau llwythog, y llestri'n sgleinio a'r llineiniau lliwgar yn dra derbyniol - yn enwedig i'r grwp a aeth yr holl ffordd i fyny i Lyn Cwm Bach. Diolch i bawb a gyfrannodd eu hamser, cacennau, eiddo neu a gefnogodd yr ymweliad mewn ffyrdd eraill.




Dogfennau Drafft o Wynedd


Tremadog yn derbyn sylw o'r diwedd


Wedi hir ddisgwyl, ymddangosodd rhai dogfennau drafft cysylltiedig a Thremadog yn dilyn cyfnod beichiogrwydd annaturiol o hir oddimewn i Gyngor Gwynedd! Nid ydynt hyd yma yn Gynlluniau Gweithredu - ac nid oes amserlen, wrth gwrs - ond mae GOBAITH o weithredu gan fod y dogfennau yma wedi eu paratoi.


Gwerthusiad Pentref


Ymddangosodd canlyniadau hir ddisgwyliedig y Gwerthusiad Pentref mewn drafft. Cyflwynir y rhain gan Gwynedd mewn cyfarfod cyhoeddus "yn yr hydref".

Er fod rhai o'r sylwadau wedi dyddio ers amser, gall yr adroddiad ffurfio tystiolaeth o gefnogaeth y gymuned i gynigion y gall unrhyw unigolyn, grwp busnes neu gymunedol ddymuno ei ddatblygu. Bydd CCT yn ystyried pa un y gellid ei gyfuno yn addas a'r eglwys neu ei libart.

Dengys yr adroddiad yr angen eglur o ofod hamddena ar gyfer oedolion a phobi ieuanc: clwb ieuenctid, cae chwarae gwell, llwybrau gwell gydag eisteddleoedd ag alotiadau (allotments). Y broblem fwyaf panned rhedeg clwb ieuenctid yw oedolion i'w gynnal, nid diffyg safle. Ychydig iawn o wirfoddolwyr sydd ar gael.

Mae dymuniad cryf i arafu'r traffig. Cefnogai llawer gau'r Sgwar am gyfnod er mwyn cynnal gwyl neu ffair yn rheolaidd.

Ystyrir tri adeilad fel dolur llygad sef y Barcty, yr Eglwys a siop Bancroft. Bu i'r tri newid dwylo ers i'r arolwg gael ei gynnal. Mae siop Bancroft yn cael ei adnewyddu yn awr a daw yn ôl i ddefnydd fel bwyty a siop harddwch mae'n debyg. Bydd y gornel yma o'r sgwar yn fywiog unwaith eto. Gadewch i ni ddymuno pob llwyddiant i'r fenter newydd.

Deil y Barcty i segura odditan ei do tun er fe welwyd tirfesurydd ar y safle yr wythnos yma, felly gadewch i ni obeithio y bydd y perchenogion newydd yn dod a chynigion positif ymlaen o'r diwedd. Perthyn adeilad yr eglwys, wrth gwrs, i CCT ac yr ydym yn prysuro ymlaen a'r gwaith cyn gynted ag y gallwn!

Ymddengys yn debygol y caiff fforwm lleol i gynrychioli pob rhan o'r gymuned yn Nhremadog ei ffurfio er mwyn symud ymlaen gyda'r syniadau a ddatgelwyd gan y Gwerthusiad. Pe byddai hyn yn galluogi i Gyngor Gwynedd a Cymad gefnogi Tremadog o'r diwedd, byddem yn ei groesawu a chyfrannu yn llawn. Gobeithiwn nad dyfais bellach ydyw i ohirio neilltuo ariannu ar gyfer Tremadog.


Cynllun tref Tremadog


Y cynllun arall drafft a dderbyniwyd yw'r Cynllun tref ar gyfer Tremadog. Talodd Cadw 75% o'r ariannu i Gyngor Gwynedd er mwyn comisiynu adroddiad ar sut i sefydlu Cynllun Tref.

Apwyntiwyd penseiri ymgynghorol a chynllunwyr tref Partneriaeth Cynllunio Adeiladu. Aseswyd pwysigrwydd yr adeiladau hanesyddol yn eu lleoliad ganddynt ac argymhellwyd blaenoriaethau rhaglen atgyweirio ac uwchraddio. Pe mabwysiadir y Cynllun tref, byddai deiliaid tai a busnesau Tremadog yn gymwys i dderbyn ariannu sylweddol uwch (oddiwrth Gwynedd a Cadw) tuag at gostau atgyweirio yr adeiladwaith hanesyddol. Llongyfarchwn Gyngor Gwynedd ar gomisiynu yr astudiaeth Cynllun Tref. Mae Tremadog yn un o dair tref yn unig yn y sir i'w hastudio.

Unwaith eto nid oes amserlen ar gyfer cyflwyno y Cynllun tref i'r Cynghorwyr, heb son am ei mabwysiadu a'i gweithredu. Os cyfarfyddwch ag un o'ch cynghorwyr sirol neu leol, cofiwch ofyn iddynt am y cynigion!

Pe bai'r adeiladau hanesyddol i gyd mewn cyflwr da, y Sgwar wedi ei uwchraddio a ffair yn cael ei chynnal yn rheolaidd, gallai Tremadog ddenu ymwelwyr yr un mor llwyddiannus ag Abaty Lacock yn swydd Wiltshire. Byddai busnesau yn ffynnu, swyddi newydd yn cael eu creu, prisiau tai yn codi....


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog