www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 17

Llythyr Newyddion 17


1 Ionawr 2001



Blwyddyn Newydd Dda - ac Ymddiheuriadau


Unwaith eto, rhaid ymddiheuro i'r tanysgrifwyr am yr amser hir rhwng y llythyrau newyddion. Fodd bynnag, yn fuan iawn bydd llawer o'r gwaith dydd i ddydd o wthio prosiect yr eglwys ymlaen yn cael ei drosglwyddo oddiar fy ysgwyddau, i weinyddwr prosiect yr ymddiriedolaeth (gweler isod) felly dyliwn allu paratoi y Llythyrau Newyddion yn fwy rheolaidd.

Eglwys y Santes Fair cynt


Ar Fedi 1af 2000 cymerwyd prydles ar Eglwys y Santes Fair yn Nhremadog gan Gyfeillion Cadw Tremadog. Bydd yr ymddiriedolaeth yn atgyweirio yr adeilad ac yn gosod gwasanaethau (cyflenwad dwr, traeniau, gwresogi ac yn y blaen) fel y gellir adfer defnydd economaidd o'r adeilad adnabyddus yma ar gyfer y gymuned.

Yn awr y mae grwp o Borthmadog, Amser Allan, yn gweithio ar gyfer dod yn denantiaid i ni. Maent yn darparu cefnogaeth deuluol a hyfforddiant. Sefydlwyd hwy yn wreiddiol rhyw bump i chwe blynedd yn ôl fel meithrinfa er mwyn galluogi mamau a gofalwyr eraill i gymeryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd, ymweld a'r meddyg a rhoi cefnogaeth i'w gilydd; ehangodd y grwp ei wasanaethau ers hyn. Yn y blynyddoedd diweddar, trefnodd ddosbarthiadau hyfforddi i aelodau trwy'r WEA a threfnu teithiau yn ystod gwyliau ysgol pan nad yw eu adeilad presennol ar gael. Buont yn chwilio am gartref mwy sefydlog o ganlyniad i'r dewis cyfyngedig o safleoedd.

Byddai yr hen eglwys yn gartref delfrydool ar gyfer Amser Allan. Mae ei safle yn hwylus, gan ei bod gyferbyn ag ystad Isgraig yn Nhremadog ac o fewn pellter cerdded rhesymol i'r tai ol-ryfel ym Mhorthmadog o le y bydd llawer o'r teuluoedd ifanc a ddefnyddia y gwasanaeth yn dod. Saif yr hen eglwys ar dir helaeth gyda mynediad diogel oddiar y brif ffordd ar gyfer y rhai yn cyrraedd mewn car a'r anabl, ynghyd a digonedd o le ar gyfer man chwarae diogel i'r plant.

Yn yr arolwg a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn 1996/7 mynegodd trigolion hyn Tremadog ddymuniad am safle dawel awyr agored oddiwrth y traffig. Bwriada'r ymddiriedolaeth gyfarfod a'r angen yma yn ogystal trwy neilltuo rhan o'r libart ar gyfer defnydd y gymuned.

Cynnal yr ymdrech


Ers cau yr eglwys yn Ionawr 1995, bu'r ymddiriedolaeth yn chwilio am ddefnydd i'r eglwys a fyddai yn sicrhau ei dyfodol. Heb ddefnydd terfynol addas a hyfyw mae yn amhosibl i bob pwrpas i godi'r cyfalaf i atgyweirio a thrawsnewid yr adeilad. Ond mewn sefyllfa iar ac wy, hyd nes y bo'r cyfalaf ar gael i atgyweirio yr adeilad, ni all defnyddwyr posibl ymrwymo i ddod yn denantiaid. Tros y blynyddoedd, canfyddwyd tri defnyddiwr posibl ond cilio wnaethant, un ai oherwydd anallu yr ymddiriedolaeth i gael meddiant ac atgyweirio yr adeilad yn sydyn neu oherwydd anallu y defnyddwyr i ddatblygu cynllun busnes argyhoeddiadol.

Cafwyd torri trwodd pan gytunodd Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru i osod yr eglwys i'r ymddiriedolaeth ar rent pitw am ddeg mlynedd, yn lle parhau i geisio ei gwerthu ar y farchnad agored. Trefnodd yr ymddiriedolaeth gymal-toriad wedi pum mlynedd yn ei ganiatau i ollwng y brydles pe na byddai yn gallu codi'r arian i atgyweirio a gosod yr eglwys. Ar ddiwedd y deg mlynedd, neu unrhyw adeg cyn hynny, gall yr ymddiriedolaeth brynu'r eglwys am 999 mlynedd am bris a fyddai yn adlewyrchu cyflwr yr eglwys ar gychwyn y brydles.

Cytunodd y CC ymhellach i barhau i yswirio yr eglwys odditan ei bolisi bloc, gyda'r ymddiriedolaeth yn ad-dalu y taliadau yswiriant. Gofynodd yr ymddiriedolaaeth am hyn oherwydd fod y premiwm yswiriant am un adeilad hanesyddol mewn defnydd, nad yw’n gartref, tros 1,700 y flwyddyn - ac hyd nes y gwneid rhai atgyweiriadau, ni ellid gwneud defnydd ohono o gwbl.
Mae CCT yn hynod ddiolchgar i Gorff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru am gytuno i'r ddau awgrym yma.

Cronfa Treftadaeth Bensaerniol


Bydd carwyr adeiladau hanesyddol yn falch o wybod fod un corff ar gael na allai fod yn fwy cynorthwyol: mewn byd cynyddol fiwrocrataidd, cynigiant gyngor a chefnogaeth, dyfeisiant becynnau ariannu i gyfarfod ag anghenion grwpiau gwirfoddol bychain ac mae eu trem cyflwyno cais yn batrwm o glaerineb a symlrwydd. Cyfeiriaf at y Gronfa Treftadaeth Bensaerniol. Hyd yma, cawsom eu cefnogaeth i'n astudiaeth ddichonoldeb gychwynol yn ôl yn 1996/7. Yn 1999/2000 cawsom Grant Gweinyddu Prosiect a'n galluogodd i drafod y brydles a'r yswiriant a cheisio, dewis ac apwyntio y penseiri. Defnyddiasom y grant yma hefyd i baratoi ein cais llwyddiannus i Cadw/CAH am grant "mewn egwyddor" tuag at gost yr atgyweirio. Cynigiodd y Gronfa Treftadaeth Bensaemiol fenthyciad i ni hefyd i'n galluogi i dalu'r pensaer a'i dim am y gwaith o baratoi a chostio cynllun o atgyweiriadau a thrawsnewid. Yn olaf, yr ydym ar hyn o bryd yn gwneud cais iddynt am grant i gyflogi gweinyddwr rhan amser i gyd-lynu y prosiect yn yr hen eglwys.

Gweinyddwr


Yr ydym yn wirioneddol ffodus fod Emrys Williams wedi cytuno i fod yn weinyddwr prosiect yr eglwys, ar yr amod ein bod yn llwyddo i godi'r arian i'w dalu. Ymddeolodd Emrys Williams yn ddiweddar o'i swydd fel curadur Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Caiff ei gyflogi'n rhan amser i gyd-lynu pob agwedd o'r prosiect i atgyweirio a thrawsnewid yr hen eglwys, gan fod y gofynion dydd i ddydd yn rhy fawr i'r ymddiriedolwyr neu'r ysgrifenydd ymgymeryd a hwy yn wirfoddol.




Newyddion am adeiladau pwysig eraill yn Nhremadog


Y Barcdy


Erys pryder o hyd ar ran yr ymddiriedolaeth ynglyn a'r diffyg gweithredu ar safle y cyn farcdy.

Yr oedd yr adeilad diwydiannol II* yma yn neuadd wehyddu yn 1805, rhan wreiddiol o wneuthurfa Madocks. O gwmpas 1835 daeth yn farcdy a gweithle crwynwyr. O ddechrau yr ugeinfed ganrif, ehangodd golchfa ar ran o'r safle yn raddol, hyd nes y terfynwyd y barcio ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Parhaodd mewn defnydd, neu yn rhannol, fel Golchfa a busnes Glanhau'n Sych hyd yn gynnar yn yr 1980au pan y daeth am fyr amser yn safle torri ceir. Gwerthwyd y safle, i ddilyn, i ddatblygwr a geisiodd ganiatad i ddymchwel yr adeiladau er mwyn codi tai. Rhoddwyd caniatad gan Gyngor Dosbarth Dwyfor ond galwyd y penderfyniad i mewn gan Cadw. Yna talodd ADC i'r grwp a ddaeth yn Gyfeillion Cadw Tremadog i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i atgyweirio ac ail ddefnyddio'r safle. Dangosodd yr astudiaeth fod atgyweirio yn bosibl a nodwyd defnydd cymysg o weithdai ac Amgueddfa Tremadog fel y dewis gorau. Byddai'r rhan o'r safle a gai ei chlirio yn cael ei gosod i fusnes lleol a ddymunai ehangu. Yr oedd tri rheswm tros y dewis hwn:
Golygai llygredd ar y safle y byddai costau y glanhau angenrheidiol ar gyfer tai neu unrhyw ddefnydd preswyl arall yn waharddol.
Byddai defnydd fel gweithle ac atyniad ymwelwyr yn cadw mynediad cyhoeddus i'r adeilad, hyn yn bwysig o ystyried ei fod yn oroeswr prin o'i fath, ac i dderbyn ariannu cyhoeddus arwyddocaol.

Mae defnydd cymysg yn amlhau y cyfalaf ar gael mewn grantiau a benthyciadau ac yn darparu cyflogaeth trwy'r flwyddyn a gweithredu economaidd. Gwrthododd perchennog blaenorol y safle dderbyn cynnig yr ymddiriedolaeth.

Yn dilyn cwymp rhan o'r to, Cyflawnodd Cyngor Dosbarth Dwyfor atgyweiriadau argyfwng odditan ddeddfwriaeth lechyd yr
Amgylchedd ac Adeiladwaith Peryglus a cheisiodd adennill y gost.

Ceisiodd yr ymddiriedolaeth brynu'r safle eto pan aeth y perchennog yn fethdalwr yn gynnar yn 1999. Gwnaed cynnig uwch gan gwmni lleol ac yn fuan yn 2000 bu i'r safle ynghyd a'r adeiladau cofrestredig newid dwylo.

Ymddengys na fu unrhyw weithredu i amddiffyn yr adeiladau ac mae hyn yn fater o bryder i'r ymddiriedolaeth. Ni dynnwyd yr arwydd "Ar Werth" i lawr ac ni gyflwynwyd cais am Ganiatad Cynllunio, Caniatad Adeilad Cofrestredig na Chytundeb Rheoliadau Adeiladu i Gyngor Gwynedd.

Gwesty'r Madocks Arms


Gwaith Mewnol


Yn ystod yr haf cyflawnwyd gwaith mewnol sylweddol yn y gwesty, Tafarn Goets Fawr wreiddiol Tremadog. Gwelodd y trigolion sgipiau yn llawn gosodion mewnol yn cynnwys y grisiau a phaneli wal. Er i'r ymddiriedolaeth hysbysu Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon a Phwllheli am y gwaith yma, na cheisiwyd caniatad amdano, ni wnaeth swyddogion y cyngor ddefnyddio eu pwerau i'w atal. Yn dilyn ymweliad gan y cyngor, deallwn fod cais Rheoliadau Adeiladu wedi ei gyflwyno yn adolygol, ond ni gyflwynwyd Cais Adeilad Cofrestredig.
Ni wyr yr ymddiriedolaeth os oedd y cynnwys a dynnwyd, o bwysigrwydd hanesyddol. Byddai archwiliad gan bensaer arbennigol neu fesurydd wedi datgelu os oedd y grisiau a'r paneli yn rhai gwreiddiol. Er hyn, mae'n bosibl y byddai caniatad wedi ei roddi yn rhwydd a sydyn oherwydd nid pwrpas y drefn Adeilad Cofrestredig yw rhwystro pob newid ond i sicrhau fod y newid wedi ei ystyried yn dda ac yn dinistrio cyn lleied a phosibl o'r defnydd gwreiddiol. Os tynnir defnydd gwreiddiol, yna dylid ei gofnodi trwy ddarlunio a ffotograffio. Yn awr ni chawn wybod byth....

Tan


Yn ddiweddar iawn, dinistriodd tan yr ystafelloedd uwchben bar yr hen fecws, lle yr ymddengys fod gwaith pellach yn mynd ymlaen. Faint mwy o ddiddordeb hanesyddol fydd yn goroesi y berchnogaeth bresennol oni bai fod cyngor Gwynedd yn mynnu cael mynediad i archwilio a chofnodi?

Siop Bancroft


Mae perchennog yr eiddo yma hefyd yn cyflawni gwaith cyn bo ganddo ganiatad. O leiaf, fe geisiodd ganiatad, ond gyda cyn lleied o fanylion fel na allai'r Swyddogion Cynllunio gyflwyno'r cais i'r pwyllgor hyd yn hyn.




Gwefan


Yn ystod haf 2000, lawnsiodd yr ymddiriedolaeth ei wefan sydd ar tremadog.org.uk.
Mae pwrpas y wefan yn ddeublyg. Yn gyntaf, rhydd ar gael i gynulleidfa ehangach y wybodaeth am ddatblygiad a hanes Tremadog sydd yn ein taflen. Yn ail, ceisia hybu economi Tremadog trwy gynnig hysbyseb yn y Cyfeiriadur, tudalen we neu gyswllt i'w gwefan eu hunain i fusnesau lleol. Mae 17 busnes yn Nhremadog. Hyd yma fe gofrestrodd dau a chytunodd dau arall i wneud ond ni chafwyd eu copi hyd yma. Mynegwyd diddordeb gan ddau arall.

Trysorydd newydd


Gyda'r prosiect hen Eglwys y Santes Fair yn dechrau llifo, bydd cynnydd ym maint y gwaith angenrheidiol i gadw'r cyfrifion. Yn dilyn blynyddoedd lawer o wasanaeth, gofynodd Mr.D.E.Jones o Dremadog am gael ei ryddhau o'r gwaith, mae'r ymddiriedolaeth yn ddiolchgar iawn i Mr. Jones am ei holl waith caled. Mae'r ymddiriedolaeth yn ffodus fod Enid Jones, Golan wedi cytuno i fod yn drysorydd, gydag effaith o Fedi 2000.

CBC


Unwaith eto, cynhelir y CBC fel cyfarfod cyhoeddus gyda chroeso i bawb. Byddwn yn adrodd ar weithgareddau a rhwystredigaethau'r flwyddyn, ynghyd a'r ffordd ymlaen. Fe gyflwynir y cynigion ar gyfer yr hen eglwys.
Pe baech yn hoffi cynorthwyo gweithgareddau'r ymddiriedolaeth mewn unrhyw ffordd, dowch ymlaen os gwelwch yn dda. Buasem yn croesawu cymorth gyda unrhyw agwedd o'n gwaith, o ddod yn ymddiriedolwr i arddio ac amlennu'r llythyr newyddion yma. Byddai profiad o godi arian ac o weithio gyda gwirfoddolwyr yn dra gwerthfawr.
Yr ymddiriedolwyr presennol yw:
Bethan Rees Jones, Penamser (Cadair)
Dewi Williams, Penmorfa (Is-gadair)
Anwen Hughes, Tremadog
Elsbeth Thomas, Tremadog
Gareth Hughes,Tremadog
Peter Trumper, Tremadog

CBC Chwefror 26 Neuadd Goffa, Tremadog (Cambrian Pill Depot) 7 o'r gloch


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog