www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 16


1 Ionawr 2000



Llwyddiant gyda Eglwys y Santes Fair


Mae'r prosiect cyntaf ar ei daith: cytunodd yr Ymddiriedolaeth ar benawdau telerau'r cytundeb gyda'r Eglwys yng Nghymru a disgwylir am ddogfennau'r brydles. Dewiswyd y penseiri ar gyfer yr atgyweiriaddau a thrawsnewid.

Cynghorwyd Cadw gan y Cyngor Adeiladau Hanesyddol i ddyfarnu grantiau sylweddol tuag at gostau'r atgyweirio'r adeiladwaith hanesyddol â€" ar y raddfa arferol yn achos yr eglwys ac ar raddfa uwch i'r bwa Coade Stone a'r porth. Cydnabyddiaeth yw hyn o ddiddordeb hanesyddol neilltuol Coade Stone a chymeriad unigryw porth eglwys Tremadog.


Apêl


Oherwydd benthyciad hael gan y Gronfa Treftadaeth Pensaerniol yn bennaf, medda yr Ymddiriedolaeth ar gronfa i'w galluogi i gymeryd y brydles a chomisiynnu'r gwaith rhagarweiniol gan y pensaer. Dylai hyn ei gwneud yn rhwydd i geisio am ariannu pellach oddi wrth Gronfa'r Loteri Treftadaeth. Mae'n debygol na fyddwn yn gwybod canlyniad unrhyw gais o fewn 12-18 mis. Yn y cyfamser bydd yn rhaid i'r Ymddiriedolaeth godi arian cyfatebol (match funding) arwyddocaol - ni wyddem faint hyd nes bydd y pensaer wedi paratoi a chosti'r cynlluniau. Amcangyfrif bras yr Ymddiriedolaeth ar gyfer yr atgyweiriadau a'r trawsnewid yw £250,000.


Y Cloc


Fe wyddom gostau y gwaith i'w gyflawni ar fyrder; pydrodd y grisiau a'r lloriau pren oddimewn i'r twr yn llwyr. Cynigiodd Raymond Jones (Cod a Sglod) yn ddewr iawn i fentro esgyn i'r twr hyd y mileniwm er mwyn weindio'r cloc, ond nid yw'r yswirwyr yn barod i ganiatau mynediad ymhellach. Felly, mae'r apel gyntaf am arian i newid y coed pydredig er mwyn sicrhau mynediad diogel i weindo'r cloc. £4,000 yw'r amcangyfrifion a gafodd yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y gwaith yma. Ni fydd raid i'r Ymddiriedolaeth geisio Caniatad Adeilad Cofrestredig ar gyfer y gwaith coed yn union fel y gwreiddiol, felly gellir cyflawni'r gwaith yma cyn gynted ag codir arian.


Dewis y pensaer


Dewiswyd y pensaer wedi proses ofalus o ddethol, ar sail profiad perthnasol a chymwysterau. Gwahoddwyd i saith practis bychan a dau fwy (wyth yng Ngogledd Cymru ac un ychydig tros y ffin yn yr Amwythig) cyflwyno gwybodaeth am dan eu hunain. Dewiswyd pedwar o'u plith i gynnig am y gwaith. Rhanwyd y tendr yn ddau gyda'r pwyslais pennaf ar ansawdd. Fel y bu, yr oedd ffioedd a gynigwyd bron yn yr un fath, fel bod y dethol wedi ei seilio ar y personnel a phrofiad blaenorol perthnasol. Cyfwelwyd dau bractis, un bychan lleol a'r cwmni a ddewiswyd yn derfynol, sef Arrol a Snell o'r Amwythig. Arbeniga'r practis hwn mewn cadwraeth a medda brofiad o ddelio gyda Chronfa'r Loteri Treftadaeth, eglwysi segur a Ymddiriedolaethau Cadwraeth Adeiladau.


Twr a'r Meindwr


Mae'n bosibi y byddwch yn gweld strwythur tros dro oddi amgylch y twr yn fuan. Mae ei angen er mwyn lleihau'r perygl o anaf oddiwrth rendriad yn disgyn fel y myn yr yswirwyr. Ein gobaith yw y bydd hyn yn galluogi i bensaer yr Ymddiriedolaeth, Andrew Arrol, asesu cyflwr y rendriad a'r gwaith bric odditano. Gallai rywfaint o'r rendr fod yn engraifft o'r Parkers Roman Cement gwreiddiol. Diddorol fydd darganfod a i'r defnydd gwreiddiol yntau'r atgyweiriadau mwy diweddar sydd yn disgyn i ffwrdd - neu'r ddau!


Defnydd i'r Dyfodol


Deil yr Ymddiriedolaeth i chwilio am ddefnyddiwr neu gyfuniad o ddibenion i'r eglwys. Yn y gorffenol cynigiwyd arddangosfa hanesyddol ynghyd ag ystafell ddosbarth; oriel lluniau; siop lyfrau a bwyty; a chanolfan iachau. Dymuna'r Ymddiriedolaeth sicrhau cyn lleied a phosibl o newid i gymeriad yr adeilad ac fod mynediad i'r cyhoedd a'r gymuned yn parhau ar gael yn rheolaidd. Beth bynnag fo'r defnydd, rhaid iddo ariannu ei hun - hynny yw, ennill er mwyn cynnal a chadw'r adeilad tros y tymor hir.

Oes awgrym gan rywun? Efallai fod gweithgareddau yn chwilio am gartref - meithrinfa yn dymuno cael gardd ddiogel, cwmni cynnal cyfrifiaduron, pobl broffesiynol angen swyddfeydd llawn cymeriad - buasai'r Ymddiriedolaeth yn hapus i weithio gydag unigolion neu grwp gyda awgrym addas. Efallai y cynigir rhai syniadau gan yr Arolwg Bro hir ddisgwyledig.


Tir yr Egwlys


O flaen yr Eglwys mae safle wedi ei neilltuo ar gyfer claddedigaethau amlosgedig. Hoffai'r Ymddiriedolaeth gael gwared o'r gwair a chwyn o'r safle mor fuan a phosibl. Unrhyw wirfoddolwyr?

Pe daw digon, efallai y gellir clirio rhywfaint o'r drain a'r coed mel cyfagos yn ogystal er mwyn creu mynediad rhwyddach i libart yr eglwys. Bwriada'r Ymddiriedolaeth geisio arian a chyngor oddiwrth Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer gwaith pellach ar dir yr eglwys.




Y Barcdy


Aeth perchenogion safle y barcdy yn fethdalwyr yn ystod hanner cyntaf 1999. Gwnaed cynnig i brynu gan yr Ymddiriedolaeth ond derbyniwyd cynnig uwch gan gwmni arall. Tra'n ysgrifennu hyn mae'r gwerthiant ar fin cael ei gwblhau. Felly, mae'n edrych fel mai methiant fydd holl ymdrechion yr Ymddiriedolaeth i sicrhau ariannu ar gyfer astudiaethau dichonoldeb, Caniatad Cynllunio a Chaniatad Adeilad Cofrestredig, ennill cynigion grantiau oddiwrth HBC/Cadw ac yn wir Ewrop odditan yr hen raglen ERDF 5Bb.

Er hynny, pe bai'r prynwr newydd yn gallu atgyweirio'r adeilad cofrestredig Gradd II seren a chanfod defnydd cydnaws a'i gymeriad, caiff gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth i'r eithaf. Fe brofa hyn werth ein gweithdrechu i atal ei ddymchwel ym 1991 a pherswadio Dwyfor i'w gadw wrth gefn.


Ewyllys


Mae'n rhaid i'r ymddiriedolaeth nodi'r rhodd haul iawn a dderbynwyd trwy ewyllys Michael Seymour, a bu farw yn ystod 1999. Ceidwad Archif Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ydoedd. Roedd yn Gefnogwr ei hun o'r Ymddiriedolaeth o 1997 ymlaen, ac yn garedig gopiodd ar gyfer yr ymddiriedolaeth tri llythyr gan Madocks i John Williams. Mae'r ymddiriedolaeth yn ddiolchgar iawn am y rhodd priodol yma.


Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol


Hoffai'r Ymddiriedolaeth wahodd i holl gefnogwyr, trigolion Tremadog ac unrhywun a diddordeb i'r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol a gaiff ei gynnal yn gyhoeddus fel arfer. Y dyddiad yw Chwefror 21 yn Neuadd Goffa Tremadog am 7 p.m. Dewch os gwelwch yn dda er mwyn rhannu awgrymiadau ar gyfer y defnydd o'r egwlys, y tir, i wirfoddoli ac i gyfrannu i'r apel.


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog