Llythyr Newyddion 15
1 Awst 1999
Pob peth yn barod i ymgymryd ag eglwys y Santes Fair Newyddion cyffrous o'r diwedd, symud ymlaen o ddifrif! Cytunodd Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru i osod yr egwlys i'r ymddiriedolaeth ar rent rhad am ddeg mlynedd. Rhydd hyn amser i'r ymddiriedolaeth i baratoi cynigion manwl a chyflwyno ceisiadau i'r Loteri Treftadaeth, Cadw a chyrff eraill er mwyn atgyweirio a thrawsnewid yr eglwys. Bydd yn rhaid i'r ymddiriedolaeth yswirio a chynnal yr eglwys yn ystod y cyfnod hwn, felly mae wedi negydu cymal toriad wedi pum mlynedd yn y brydles. Rhydd hyn y cyfle i ildio yr eglwys pe na all llwyddo i godi'r arian. Bydd gan yr ymddiriedolaeth yn ogystal yr opsiwn i brynu'r eglwys.
Hyfywdra Ers y gwanwyn sicrhaodd yr ymddiriedolaeth fod ei gynigion ar gyfer defnydd o'r eglwys yn rhai hyfyw.
Sefydlwyd cost perchnogaeth tebygol yn y tymor byr a hir. Tymor byr:- yswiriant, costau parhaol, trethi, atgyweiriadau a chynnal. Ychydig odditan £4,000 y flwyddyn yw'r cyfanswm. Felly mae'r ymddiriedolaeth yn ceisio arian er mwyn gosod gwasanaethau tros dro (trydan a dwr) yn yr eglwys er mwyn defnyddio'r adeilad i dalu am rywfaint o'r costau. Tymor hir:- Wedi atgyweirio a thrawsnewid yr adeilad fe erys costau perchnogaeth i'r ymddiriedolaeth. Datblygu cronfa wrth gefn er mwyn talu am gynnal y meindwr o fewn ugain i bum mlynedd ar hugain ynghyd ag yswiriant yw'r costau mwyaf. Amcangyfrifwyd mai £7,200 yn ôl prisiau heddiw yw'r ffigwr yma. Daw hyn oddimewn i ffiniau y farchnad rhent lleol am adeiladau cymharol.
Well projects Gwnaed cais am gymorthdal gan y tenantiaid arfaethedig, y Well Projects, ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb er mwyn sicrhau y gallent dalu y rhenti yma. Maent yn awyddus i sicrhau y denantiaeth. Felly, os gall yr ymddiriedolaeth godi'r arian i atgyweirio'r eglwys, mae ei dyfodol yn y tymor hir wedi ei ddiogelu.
Penseiri Codwyd £15,000 tuag at y gost arfaethedig o £29,000 i gomisynnu ymgynghorwyr a pharatoi y manylion anghenrheidiol i wneud ceisiadau i'r Loteri Treftadaeth a chyrff eraill. Ar sail y datblygiad yma cychwynodd yr ymddiriedolaeth ar broses ddethol.
Allan o restr gychwynol o ddeg pensaer yn arbennigo mewn cadwraeth (8 o Ogledd Cymru, 2 ychydig tros y ffin) dewiswyd rhestr fer o bedwar. Caiff eu cynigion eu hasesu trwy ddefnyddio dull cydnabyddedig o bwyso a mesur gwerth y gwasanaeth gyda'r gost. Bwriad yr ymddiriedolaeth yw penodi'r penseiri ym mis Medi.
APEL Cyfranwch yn hael os gwelwch yn dda er mwyn cefnogi’r prosiect. Gwerthfawrogir unrhyw swm a dderbynir. Gellir defnyddio'r arian a gaiff ei godi gan yr ymddiriedolaeth yn y dull yma i ddenu ariannu ar y cyd oddiwrth y Loteri Treftadaeth ac Ewrop, felly caiff gwerth eich cyfraniad ei ddyblu.
CCB Cynhaliwyd y cyfarfod yn y Neuadd Goffa, Tremadog am 7 o'r gloch, nos Lun, Mehefin 22. Yn ôl yr arfer, cyfarfod cyhoeddus ydoedd. Yn ychwanegol i'r ymddiriedolwyr a'r ysgrifennydd, yr oedd 18 arall yn bresennol.
Ymddiriedolwyr Nid yw Gwyn Headley bellach yn ymddiriedolwr oherwydd ei anallu i fynychu y cyfarfodydd. Etholwyd Bethan Rees Jones fel cadeirydd, tra fod Dewi Williams yn parhau fel ymddiriedolwr wedi iddo wasanaethu fel cadeirydd ers sefydlu'r ymddiriedolaeth yn 1991. Yr ymddiriedolwyr eraill a ailetholwyd yn unfrydol yw Mary Garner, Elsbeth Thomas, Gareth Hughes, Anwen Hughes (y cyfan o Dremadog) a Valerie Wynne Williams o Bentrefelin.
Gweithredu'r Ymddiriedolaeth Cyflwynwyd crynodeb o weithgareddau'r ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn. Dangosodd yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynol i bryniant Stop Bancroft ar gornel y sgwar y byddai'r gost ynghyd a'r atgyweirio yn uwch na gwerth y farchnad. Hysbysodd y gwerthwr yr ymddiriedolaeth fod yr adeiladau bellach wedi eu gwerthu i adeiladydd a fwriada newid y siopau yn dai preswyl.
Barcdy Wedi gweld cynigion yr ymddiriedolaeth ar gyfer y Barcdy, cred y cynllun Adfywio Trwy Etifeddiaeth o Fusnes yn y Cymuned eu bod yn rhai hynod weithredol. Maent wedi annog Cyngor Gwynedd i weithredu'n bositif i berswadio'r perchenogion i werthu'r safle (i'r ymddiriedaoleth neu brynwr addas arall). Erys y llygredd i greu problem i unrhyw ddatblygwr.
Eglwys y Santes Fair Adroddwyd fod cynnig Mr a Mrs Eagle i brynu'r eglwys wedi ei dynnu'n ôl. Amlinellodd yr ymddiriedolaeth y symud ymlaen a wnaed i gytuno ar brydles gyda Chorff Cynrychioladol yr Egwlys yng Nghymru, wedi canfod tenant addas. Y grwp Well Projects yw hwn. Cyflwynodd Val Wooding fwriadau y Well Projects mewn perthynas a'r eglwys. Eglurodd eu bod yn Iachawyr Naturiol cymwysedig ac nad yw'r mudiad yn gysylltiedig ag unrhyw fudiad crefyddol neu wleidyddol. Agorwyd eu Ffynnon Iachau gyntaf gan Dafydd Wigley ym Mhenygroes ym 1993 a chynigia iachad trwy gyfrannu i bawb heb ystyried cred neu amgylchiadau cymdeithasol. Cyfarfydda y grwp hefyd yn neuadd Pentrefelin a chychwynwyd ar sefydlu ymhellach yn Nolgellau. Eu gobaith yw defnyddio yr eglwys i greu canolfan barhaol ar gyfer Lles Iechyd, gosod ystafelloedd i Ymerferwyr Cyflenwol a chynnal cyrsiau ar sawl agwedd o fywyd iach a chynhaliol i'r unigolion, y gymuned a'r blaned. Buasai'r cyrsiau'n cynnwys Y Medrau lachau, Ecoleg, Crefftau o'r Tirwedd, Safleoedd Hanesyddol ac Ysbrydol lleol etc. Bwriadent i'r eglwys a'i thir barhau'n ased i'r gymuned gyda'r gobaith y gwneir defnydd ohonynt i ddibenion y gymuned.
Trafodaeth Bu trafodaeth fywiog i ddilyn. Awgrymwyd yr Arolwg Bro fel dull o brofi cefnogaeth y trigolion. Atgoffwyd y cyfarfod o ganfyddiadau holiadur yr Ymddiriedolaeth a ddosbarthwyd i bob cartref yn Nhremadog ym 1996. Cytunwyd y byddai canlyniadau yr Arolwg yn cael eu cymeryd i ystyriaeth pe gwneid yr arolwg yn fuan ond na ddylai'r ymddiriedolaeth ohirio datblygu eu gynigion, gan fod yr arolwg wedi ei addo ers blwyddyn.
Mae'r cyfrifion, adroddiad y Cadeirydd a chofnodion llawn y CBC ar gael gan yr ysgrifennydd.
Y Barcdy/Neuadd Wehyddu Aeth y cwmni sydd yn berchen y safle yn fethdalwyr yn Ebrill wedi i Gyngor Gwynedd ail amcanu y costau o gyflawni Gwaith Argyfwng ar y safle ac wedi hynny, yn £90,000. Rhoddodd y Derbynnydd y safle ar y farchnad. Ysgrifenodd yr ymddiriedolwyr i'r gwerthwyr yn ceisio Opsiwn i brynu gan gynnig £10,000 gyda blwyddyn i weithredu'r Opsiwn. £10,000 yw gwerth y safle a dderbyniodd yr ymddiriedolaeth gan brisiwr annibynnol. Mae'r gwerth yn isel oherwydd y llygredd ar y safle a'r gost o atgyweirio dau adeilad wedi eu cofrestru.
Llygredd y Safle Yn Ebrill gofynnodd yr ymddiriedolaeth i Gyngor Gwynedd hysbysu y Derbynnydd am y llygredd ar y safle, gan na fydd hyn yn ymddangos yn yr ymchwiliadau. (Nid yw'r sir yn cadw cofrestr o safleoedd llygredig.) Mynegodd yr ymddiriedolaeth ei bryder y gallai datblygwr oddi allan i'r ardal brynu'r safle yn ddiarwybod am y llygredd ac yna methu atgyweirio yr adeiladau cofrestredig oherwydd byddai costau cael gwared o'r llygredd yn gwneud y safle yn aneconomaidd. Rhybuddiodd yr ymddiriedolaeth y gallai oedi o ddeg mlynedd posibl ddigwydd eto pe bai'r safle yn newid dwylo heb y wybodaeth yma.
Marchnatwyd y safle fel cyn-farcty heb gyfeirio at y defnydd diweddarach fel golchdy a busnes torri ceir. Ni allwn ond gobeithio y bydd y prynwr yn sylweddoli y gallai fod problem gyda'r safle gan na fydd hyn yn ymddangos ar yr ymchwiliadau. Aeth cynnig (Opsiwn) yr ymddiriedolaeth i'r Derbynnydd ond ymddengys yn debyg y bydd yn is na chynigion eraill. Ymddengys fod yr holl saga drist ar fin ail gychwyn.
Rol yr Awdurdod Lleol Mae deddfwriaeth arbennig ar gael ar gyfer adeiladau cofrestredig. Y dilyniant yw Rhybudd Atgyweirio - Atgyweirio trwy Ddiffyg - Pryniant Gorfodol. Yn y mwyafrif llethol o achosion lle gweinyddwyd Rhybudd Atgyweirio, cyflawnwyd yr atgyweiriadau neu drosglwyddo perchnogaeth i un yn barod i atgyweirio'r adeilad. Ychydig iawn o achosion sydd yn mynd i'r llys. Fodd bynnag, rhaid drafftio telerau y Rhybudd Atgyweirio yn ofalus gan mai'r lleiafrif o atgyweiriadau er mwyn osgoi colli'r adeilad neu berygl i'r cyhoedd a ddylid eu cynnwys. Defnyddia rhai awdurdodau lleol y dull yn barhaol a llwyddianus, gan roi neges glir fod adeilad wedi ei gofrestru o ddiddordeb hanesyddol i'r cyhoedd ac nad yw esgeuluso y fath adeilad yn dderbyniol.
Lle bu esgeuluso bwriadol er mwyn cael gwared o adeilad er mwyn datblygu'r safle, gall Pryniant Gorfodol olygu isafswm o iawndal. Yn achos y Barcty a Fronhaul, penderfynodd Cyngor Dwyfor, yr awdurdod lleol, ddefnyddio Rhybuddion Adeiladau Peryglus ac lechyd Amgylcheddol. Cyflawnwyd Gwaith Argyfwng ym 1994, oherwydd ddifyg, ac arweinniodd at y ddyled a amcanir fel £90,000 i Gyngor Gwynedd, yr awdurdod dilynol. Oherwydd fod Gwynedd yn y sefyllfa o geisio adennill rhywfaint neu'r cyfan o'r ddyled yma fe glymodd ei ddwylo mewn perthynas a'i ddyletswydd o geisio amddiffyn dau adeilad cofrestredig oddimewn i Ardal Gadwraeth ac i hybu ei ail ddefnydd.
Ymdrechion Gwirfoddol Codwyd arian ar gyfer astudiaethau dichonoldeb gan Gyfeillion Cadw Tremadog; enillwyd Caniatad Cynllunio a Chaniatad Adeilad Cofrestriedig; sicrhawyd cynnig parhaol mewn egwyddor gan Cadw am 50% o gostau atgyweirio yr adeilad hanesyddol; derbyniwyd cynnig o tros £330,000 o gronfa ERDF - a gollwyd pan nad oedd yn bosibi i Gwynedd gyfarfod a'r ymddiriedolaeth i drafod y cynigion o fewn bedwar mis. Ers sefydlu'r ymddiriedolaeth ym 1991, bu'n barod i dderbyn safle y Barcty "gefn wrth gefn" gyda'r awdurdod fel na fyddai'n rhaid i'r awdurdod dderbyn cyfrifoldeb perchnogaeth. Beth mwy raid i grwp gwirfoddol ei wneud er mwyn perswadio staff cyflogedig awdurdod lleol i gyflawni ei dyletswydd statudol?
|