Llythyr Newyddion 14
1 Ionawr 1999
YMDDIHEURIADAU Unwaith eto, rhaid ymddiheuro i Gefnogwyr hirymarhous a theyrngar Cyfeillion Cadw Tremadog am i ni fethu cynhyrchu llythyr newyddion ers lonawr 1998!
Tanysgrifiadau ‘Rwyf yn atgoffa y tanysgrifwyr yn dilyn pob trydydd rhifyn o'r llythyr newyddion. Fodd bynnag, dibynna Cyfeillion Cadw Tremadog yn bennaf ar danysgrifiadau a rhoddion fel incwm. Gyr rhai cefnogwyr hael danysgrifiad blynyddol, hyd yn oed pan nag ydwyf wedi ysgrifennu y llythyr newyddion. Mae'r ymddiriedolaeth yn dra diolchgar i'r bobl yma.
CBC Mae'n amser cynnal y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol unwaith eto. Yn ôl arfer, cyfarfod cyhoeddus fydd hwn er mwyn rhoi cyfle i'r trigolion, Cefnogwyr a phartneriaid arfaethedig i gyfarfod a thrafod.
Fe'i cynhelir yn y Neuadd Goffa Tremadog ar Nos Lun, Chwefror 22 am 7 o'r gloch.
Eglwys y Santes Fair - y diweddaraf Deil yr eglwys ar y farchnad. Yn ddiweddar fe'i maluriwyd unwaith yn rhagor. Y tro hwn, torrodd y fandaliaid y giatiau haearn, lifro rhannau o'r porth Coadestone i ffwrdd a thorri'r drysau er mwyn cael mynediad. Gosodwyd cloau gan y Gwerthwyr Eiddo er mwyn diogelu'r drysau. Parhau heb gael sylw mae'r twll yn y to a'r gwteri sydd wedi cau. Mae Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru yn gyfrifol am werthu neu osod yr adeilad ac am ei gynnal hyd nes cael gwared ohono.
Prynwyr arfaethedig yn tynnu'n ôl Yn ystod haf 1998 tynnodd y prynwyr arfaethedig, Mr & Mrs Eagle o Solihull, eu cynnig i'r Corff Cynrychioladol i brynu'r eglwys yn ôl. Nid yw'n syndod nad oeddynt yn barod i gomisiynu y gwaith manwl arbennigol a fynnir gan Cadw a'r Awdurdod Cynllunio Lleol (Gwynedd, ardal Dwyfor) heb rywfaint o sicrwydd y byddent yn derbyn caniatad Cynllunio a Chaniatad Adeilad Cofrestredig ar gyfer eu defnydd bwriedig.
Graddfa amser estynedig Er mwyn i rywun sicrhau caniatâd angenrheidiol, rhaid penderfynu ar ddefnydd terfynol yr adeilad a rhaid i'r Awdurdod Cynllunio a Cadw ganiatau unrhyw newidiadau a fwriedir. Pwrpas hyn yw amddiffyn yr adeilad a'r porth rhag colli'r cymeriad a'u gwna yn deilwng o'u cofrestru.
Ni wnaiff y Loteri Treftadaeth dderbyn unrhyw gais gan grwp cymunedol i brynu ac atgyweirio adeilad hyd nes y bydd wedi "methu" ar y farchnad agored. Unwaith y bydd y Loteri wedi derbyn cais, fe gymer o leiaf chwe mis i'w brosesu, weithiau lawer yn hirach. Yn ogystal fe gymer paratoi y gwaith manwl ar gyfer y Caniatad, amcangyfrifion costau a'r cais Loteri rai misoedd i'w cwblhau.
Y defnyddiwr terfynol Nid yw'r pris gofynol (£15,000 i £20,000) hanner gymaint o broblem a'r costau tebygol o atgyweirio a thrawsnewid. Wedi eu cyfuno gyda TAW a ffioedd bydd eu cyfanswm tua £200,000- £250,000. Os yw'r ymddiriedolaeth i berswadio'r Loteri Treftadaeth a chael ariannwyr eraill i gyfrannu i'r prosiect, rhaid dangos fod y defnydd terfynol yn un hyfyw o safbwynt economaidd.
Pan geisiodd yr ymddiriedolaeth gyflwyno ei cais cyntaf i'r Corff Cynrychioladol ym 1997, nid oedd ganddo ddefnyddiwr terfynol mewn golwg. Yn fuan wedi hynny, cychwynwyd trafod gyda defnyddiwr terfynol posibl a oedd yn bwriadu sefydlu oriel ddarluniau a chanolfan hanes yn yr adeilad. Erbyn hyn yr oedd y CC wedi derbyn cynnig Mr a Mrs Eagle. Pan dynasant eu cynnig yn ôl, diflanodd diddordeb cynigiwr yr oriel.
Grwp iachau Yn ystod 1998 darganfu CCT ddefnyddiwr terfynol posibl arall. Grwp gwirfoddol ydyw, y "Well Projects". Ar hyn o bryd maent yn gweithredu o neuaddau pentref ym Mhen y Groes a Phentrefelin. Ers peth amser maent wedi bod yn ceisio safle eu hunain. Cychwynasent ar astudiaeth ddichonoldeb ar adeilad arall yn y rhanbarth, ond fe'i gwerthwyd tra fod yr astudiaeth ar y gweill. Maent yn awyddus i ffurfio cytundeb gyda'r ymddiriedolaeth ac ymrwymo eu hunain fel tenantiaid.
Cynnig yr Ymddiriedolaeth i'r CC Yn ddiweddar gwnaed cynnig amodol gan yr ymddiriedolaeth i brynu'r adeilad gan y Corff Cynrychioladol gan ofyn iddynt dynnu'r adeilad oddi ar y farchnad am 12- 18 mis er mwyn caniatau amser i'r gwaith paratoi angenrheidiol ac i'r Loteri ystyried y cais.
Hyd yma, gwrthododd y Corff Cynrychioladol y syniad o ganiatau i CCT gymeryd opsiwn ar yr adeilad am gyfnod o amser penodol. Dywedant na allent glymu eu dwylo yn y modd yma gan fod y Gwerthwyr Eiddo yn mynegu fod diddordeb parhaol yn yr adeilad. Fodd bynnag, dim ond unwaith y datblygodd y diddordeb yma yn gynnig ac fe'i tynnwyd yn ôl pan sylweddolodd y prynwyr faint yr arian oedd "ar fenter" wrth baratoi ceisiadau ar gyfer Caniatad Cynllunio ac Adeiladau Cofrestredig. Mae'r ymddiriedolaeth felly yn gweithredu i geisio perswadio'r Corff Cynrychioladol i dderbyn ei gynnig, yn amodol ar dderbyn caniatad a grantiau.
Barcdy/Neuadd Wehyddu Ni chafodd ei anghofio! Cynigiwyd cymorth gan y "Regeneration Through Heritage Initiative of Business in the Community" er mwyn gwthio hyn ymlaen gyda'r sir, sef yr unig un sydd a'r grym i ddatrys y sefyllfa. Disgwyliwn ddyfodiad Swyddog Cadwraeth newydd y sir (wedi 9 mis o fod heb un). Gwyliwch y gofod hwn!
|