Llythyr Newyddion 13
1 Ionawr 1998
CBC Daeth yn adeg y flwyddyn yma eto. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar nos Lun, Chwefror 23 am 7.30.
Mae'r CBC yn angenrhaid cyfreithiol i CCT, wrth gwrs, gan ein bod yn elusen a chwmni cofrestredig, ond mae hefyd yn gyfle i drigolion Tremadog a chefnogwyr eraill i gyfarfod a thrafod gweithredu yr ymddiriedolaeth.
Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur os gwelwch yn dda a dewch i drafod blaenoriaethau'r ymddiriedolaeth - lle dylai CCT sianelu ei egnion - yr eglwys, y Barcty, y siopau?
Eglwys y Santes Fair - Yr Eglwys yng Nghymru llesteirio'r Ymddiriedolaeth Yn gynnar yn ystod haf 1997, gosododd Corff Cynrychiolodd yr Eglwys yng Nghymru yr eglwys ar werth fel yr oedd astudiaeth ddichonoldeb yr ymddiriedolaeth ar fin ei gwblhau a'i gyhoeddi. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus, ysgrifenodd yr ymddiriedolwyr i'r CC yn protestio'n gryf oherwydd iddynt ennill y blaen. Ym mis Gorffennaf, canfu'r ymddiriedolaeth ddefnyddiwr/tenant posibl i'r eglwys a fyddai yn gwneud defnydd ohoni fel oriel ddarluniau a chanolfan hanes Tremadog, ac ysgrifenwyd i'r CC yn gofyn iddo ystyried cynnig amodol. Gwrthododd y Corff, oherwydd ei fod wedi derbyn cynnig amodol gan barti arall.
Datganodd y Loteri Dreftadaeth tra bod rhywun arall gyda diddordeb yn yr adeilad, na fuasent yn ystyried cais gan yr ymddiriedolaeth. O ganlyniad i'r ymateb hwn gan y Loteri, bu raid i'r ymddiriedolaeth aros hyd nes yr ystyriwyd cais cynllunio yr ymgeisydd arall. Wele "loteri'r bobl"! Nid dyma'r unig enghraifft o'r CC yn anwybyddu dymuniad y gymuned leol, neu'n symud gyda chyflymder anaddas i roi adeilad hanesyddol ar y farchnad gan ddiystyried ei nodweddion arbennig. Er fod tasg ganddo o amlhau'r incwm o eglwysi diangen a drosglwyddwyd i'w ofal, dichon nad dyma ei unig ystyriaeth. Onid yw rol ysbrydol a chymdeithasol adeilad eglwys yn y gymuned a'i sensitifrwydd arbennig oherwydd y rol hwn ynghyd a statws gofrestredig llawer adeilad yma yn gosod dyletswydd ychwanegol wrth ystyried a ellir cynnig eu gwerthu i unrhywun a ddaw yn ddigyfyngiad? Pan mae grwp cymunedol wedi gweithio tros flwyddyn i godi arian a chwblhau astudiaeth sydd yn dangos y ffordd ymlaen ac sydd ar fin gwneud cynnig (a hyn yn hysbys) - yn ôl drefn ddisgwylir gan y CC - pam felly'r brys i roi'r eglwys ar y farchnad?
Ym mis lonawr 1998, penderfynodd pwyllgor cynllunio ardal Dwyfor o Gyngor Gwynedd fod y defnydd arfaethedig gan y prynwr arall, sef siop lyfrau/canolfan creiriau a crefftau/bwyty yn dderbyniol a hysbyswyd Cadw nad oes ganddynt wrthwynebiad. Mynnai Adran Briffyrdd y Swyddfa Gymreig fod angen 30 o lefydd parcio ar y safle, ond hysbysodd Aneurin Parry, swyddog cynllunio Dwyfor, ei fod wedi ysgrifennu atynt i ofyn am ail ystyried hyn gan fod yr adeilad wedi ei gofrestru ac o fewn Ardal Cadwraeth. Gyrrodd yr ohebiaeth at Cadw gan ofyn iddynt ddelio yn uniongyrchol gyda'r Adran Briffyrdd.
Sicrha Mr Parry y bydd unrhyw newidiadau i'r adeilad a'i leoliad yn cael eu rheoli gan amodau ac na ddylai unrhyw waith gychwyn hyd nes y bydd caniatad ysgrifenedig o'r cynllun manwl wedi ei roi. Bydd yr ymddiriedolwyr yn trafod yn fuan a ddylent ysgrifennu at Cadw er mwyn sicrhau fod amodau addas yn cael eu gosod er mwyn gwarchod pwysigrwydd hanesyddol a phensaerniol yr eglwys.
Yn ei ymateb i Gwynedd/Dwyfor datganodd yr ymddiriedolaeth nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i'r defnydd arfaethedig, cyn belled ag y bo manylion y trawsnewid ac atgyweirio yn addas. Ni chyflwynwyd y manylion yma hyd yn hyn. Bu'r ymddiriedolaeth mewn cysylltiad a Mr a Mrs Eagle o Solihull. Y gobaith yw cyfarfod buan.
Blaenoriaethau Tremadog Erbyn adeg yr CBC, bydd cyfarfod cyhoeddus Arolwg Bro Dolbenmaen (Arolwg Leol) wedi cychwyn. Yn anffodus, nid oes Arolwg Bro wedi ei bennu ar gyfer Tremadog, Borth y Gest a Morfa Bychan, y pentrefi o faint sylweddol wedi eu cynnwys ym "Mhorthmadog".
Yr oedd yr holiadur a chyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan CCT fel rhan o'r Astudaieth Ddichonoldeb ar gyfer yr Eglwys yn ymwneud a rhywfaint o'r maes hwn, trwy ofyn i'r trigolion beth oedd yn ddiffygiol yn Nhremadog a pha beth a hoffent ei weld ar gyfer gwella'r amgylchedd yn y pentref. Y ddau faes a danlinellwyd oedd - trafnidiaeth a diffyg darpariaeth ar gyfer pobl ieuanc fin nos. Dymuniad rhai o'r trigolion hyn oedd lle distaw er mwyn cyfarfod a chael cwpaned o de, neu i allu eistedd oddiallan oddiwrth y traffig.
Trafnidiaeth Mae rheoli trafnidiaeth tu hwnt i faes gweithredu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau, er fod yr hawl ganddo i gynnig sylwadau ar unrhyw newidiadau
arfaethedig i Brif Ffordd. Bu’r nifer o ddamweiniau difrifol yn Nhremadog yn rhyfeddol o isel, o bosibi oherwydd ei fod yn amlwg yn lle peryglus y mae'n rhaid gyrru'n araf trwyddo. Byddai unrhyw newidiadau i "foderneiddio" trefn y ffordd trwy ddarparu llwybr cliriach ar gyfer trafnidiaeth trwodd yn tueddu i gynyddu cyflymder a'r tebygrwydd o ddamwain ddrwg. Yn ddelfrydol, fe ddylid neilltuo'r trafnidiaeth trwodd er mwyn diogelwch, er byddai hyn yn effeithio ar fusnes y Spar, y Siop Sglodion, ac ar y siopau eraill a'r tafarndai i raddau llai. Yr ateb optimwm fyddai felly, i sicrhau fod trafnidiaeth yn symud yn araf, trwy gadw y gymysgfa o barcio, arosfeydd bwsiau, cerddwyr a thrafnidiaeth trwodd. Er mwyn diogelwch, gellid gosod croesfannau penodedig ger yr ysgol a'r eglwys, ond mae'n sicr y bydd cerddwyr yn parhau i groesi'r sgwar. Felly mae'n debyg mai'r ffordd orau i sicrhau diogelwch o fewn y sgwar, ac yn wir o fewn cylch y croesfannau diogelwch, fyddai gwneud gwyneb y ffordd yn anaddas ar gyfer gyrru cyflym. Byddai gwyneb swnllyd ar y ffordd yn rhybuddio gyrrwyr eu bod mewn llecyn arbennig, ond byddai hyn yn annioddefol i'r trigolion. Buasai gosod cerrig sets gwenithfaen yn gadarn fel a welir yn ardaloedd hanesyddol o Linlithgow yn yr Alban ac ymhellach mewn gwledydd megis Norwy a’r Swistir yn opsiwn addas. Ni ddylid gosod y setiau fel ag ym Mhen Cei, Porthmadog lle mae gormod o le rhyngddynt. Dylent fod yn llawer agosach at eu gilydd gyda ychydig iawn o amrywiaeth yn lefel y gwyneb uchaf, fel ei bod yn hawdd i wthio coets ar eu traws yn gyfforddus. Trwy eu penodi yn gywir a'u gosod yn sych ar sylfaen wedi ei baratoi'n dda, gall setiau wrthsefyll glaw trwm, rhew ac hyd yn oed symudiadau bwsiau a loriau, fel a welir yng nghanol dinas Bergen, Norwy, lle mae'r hinsawdd yr un mor wlyb ac oerach nac yma. Gellir codi ac ail osod setiau yn hawdd pan fo angen atgyweirio'r gwasanaethau.
Anghenion pobl ieuanc
Nodwyd y consern hwn trwy'r ardal. Ni all Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau ond ymwneud a sefyllfa lle bo angen adeilad a'i fod yn derbyn rhent neu'n caniatau les ar gyfer defnydd gan grwp ieuenctid. Fodd bynnag, nid adeilad yw'r broblem cymaint a threfnwyr ac arweinwyr o blith oedolion. Oherwydd fod gwirfoddolwyr yn hynod o brin, un ateb fyddai i dalu i weithiwr ieuenctid. Golygai hyn y byddai'n rhaid i'r ieuenctid dalu er mwyn cymeryd rhan; ond y gallai un gweithiwr ieuenctid fod yn gyfrifol am sawl pentref trwy gynnal sesiynau ar nosweithiau gwahanol ynddynt. Mae potensial ar gyfer creu swydd yma... Ar raddfa lai, yr oedd cnewyllyn o wirfoddolwyr yn cefnogi cynigion yr ymddiriedolaeth i greu gardd gymuned ar dir yr eglwys. Byddai hyn wedi cynnwys mynwent ar gyfer anifeiliaid anwes, a'r bwriad oedd i ddod a'r plant i mewn i gynllunio a chreu'r ardd.
Anghenion y trigolion hyn Atebiwyd y consem yma yn rhannol trwy gynigion yr ymddiriedolaeth ar gyfer yr eglwys, trwy greu llecynnau eistedd tawel yn edrych tros y briffordd, ond ymhellach i ffwrdd oddiwrth y trafnidiaeth. Efallai y bydd Mr & Mrs Eagle yn hoffi rhai o syniadau'r ymddiriedolaeth ar gyfer y fynwent!
I Le ydym yn mynd oddiyma? Datganodd y Loteri Dreftadaeth na wnaiff ystyried ceisiadau gan ymddiriedolaeth tra bod posibilrwydd y gellir eu prynu a'u atgyweirio ar y farchnad agored. Hyd nes y bo eiddo wedi ei brofi a methu ar y farchnad agored, ni wnant gefnogi ei bryniant gan ymddiriedolaeth. Fe wnant, fodd bynnag, ystyried ceisadau gan ymddiriedolaethau sydd yn berchen neu yn dal prydles hir ar eiddo. Golyga'r safiad hwn nad yw yn bosibi i ymddiriedolaeth heb gyfalaf sylweddol feddianu eiddo trwy negydu. Golyga fod yn rhaid i eiddo eistedd ar y farchnad, yn aml mewn cyflwr gwael ac yn dirywio, hyd nes bo "methiant" ar y farchnad agored wedi ei sefydlu. Os yw'r perchennog yn methu am unrhyw reswm i roi'r eiddo ar y farchnad, nid oes unrhyw ffordd y gall ymddiriedolaeth heb gyfalaf achub adeilad.
Gwna'r safiad yma hi'n anodd iawn i ymddiriedolaethau newydd gychwyn, onibai eu bod yn derbyn ariannu "pump priming" (neu defnydd cryf o bwerau pryniant gorfodol lle bo hynny'n addas gan eu awdurdod lleol.) Defnyddiodd "Cywaith", yr YCA a weithreda gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, y ddau beirianwaith, ac er ei sefydlu yn ddiweddarach na Chyfeillion Cadw Tremadog, mae wedi cwblhau a gwerthu ei eiddo cyntaf ac yn chwilio am ail brosiect. A ddylai Cyfeillion Cadw Tremadog lawnsio apel am gyfalaf gweithredol?
|