Llythyr Newyddion 11
1 Rhagfyr 1996
Eglwys y Santes Fair Mae’r Astudiaeth Ddichonoldeb i ddefnydd posibl ar gyfer yr eglwys yn bwrw ymlaen yn dda. Fe gomisiynwyd y penseiri, Dobson: Owen o Bwllheli gan Cyfeillion Cadw Tremadog i gwblhau yr astudiaeth. I ddechrau, fe ddosbarthwyd holiadur i bob ty yn Nhremadog a thrafodwyd y canlyniadau mewn cyfarfod cyhoeddus.
Pentref Cyfeillgar Dengys yr atebion y gwelir Tremadog fel lle cyfeillgar, deniadol a chyfleus i fyw. Dewisodd nifer o’r bobl fyw yno oherwydd yr awyrgylch. Nododd rhai y bensaerniaeth yn arbennig.
Anghenion Y ddau brif gonsern a fynegwyd gan rai a lenwodd yr holiadur oedd diffyg cyfleusterau ar gyfer ieuenctid y pentref a chyflymder y traffig. I ddilyn, nodwyd diffyg man cyfarfod ar gyfer trigolion hyn, cyflwr safle'r Barcdy a chyflwr dirywiedig yr Eglwys a'r Fynwent.
Syniadau Ymysg yr awgrymiadau oedd clwb ieuenctid; caffi lle gallai y trigolion hyn gyfarfod; cyrtiau badminton; arddangosfa yn adrodd hanes William Alexander Madocks.
Cyfarfod Cyhoeddus Yn y cyfarfod, trafodwyd yr awgrymiadau.
Clwb Ieuenctid: Darparir cyfleusterau snwcer yn y Neuadd Goffa ond cant eu fandaleiddio yn aml. Y prif angen yw gweithiwr ieuenctid. Nid yw'r Neuadd Goffa yn addas ar gyfer plant ieuanc, yr henoed neu'r anabl, gan fod y brif ystafell gyfarfod i fyny'r grisiau ac nid oes digon o le i uwchraddio y cyfleusterau toiled. Mae Ymddiriedolwyr y Neuadd Goffa yn ceisio rhoi sylw i'r problemau hyn. Bwriad yr Ysgol Feithrin yw symud i safle Ysgol y Gorlan. Pwysleisiodd Cyfeillion Cadw Tremadog nad oeddynt yn dymuno cystadlu gyda'r Neuadd Goffa na thanseilio ei sefyllfa. Bydd cyfleusterau chwaraeon ar gael yn y Ganolfan Hamdden newydd ym Mhorthmadog. Ni wyddai neb yn y cyfarfod beth fyddai y ddarpariaeth gymdeithasol a ieuenctid wedi i gapel Tabernacl, Porthmadog gael ei ail-adeiladu. Bydd cyfleusterau gwell ar gael yn y Ganolfan, Porthmadog yn dilyn cwblhau yr uwchraddio.
Y Fynwent Awgrymodd rhai y gellid defnyddio y tir o amgylch yr eglwys ar gyfer parcio; teimlai eraill fod hyn yn gwbl annerbyniol.
Amgueddfa/Caffi: Mae'r cynllun arfaethedig ar gyfer y Barcdy yn cynnwys Amgueddfa Madocks. Wrth gwrs, pe profa'r eglwys yn well safle, dylid ystyried hyn: ond a fyddai arddangosfa ar Dremadog a Madocks yn fasnachol bosibl ar ben ei hun, heb y gweithgareddau eraill i gynhyrchu incwm ar y safle a gynigir yn y cynllun Barcdy? Gofynwyd i'r penseiri edrych ar hyn.
Astudiaeth Strategol Pwysleisiwyd yr angen am astudiaeth strategol ar gyfer cylch Porthmadog-Tremadog yn y drafodaeth, er mwyn asesu y prosiectau sydd ar y gweill ar gyfer nodi y bylchau yn y ddarpariaeth.
Ymgynghori ag eraill Ymgynghorwyd gyda'r awdurdod cynllunio, Cadw, yr Eglwys yng Nghymru a chyrff eraill. Fel arfer, eu rol yw ymateb i ddefnydd a gynigiwyd, felly ni chafwyd unrhyw syniadau newydd.
Strwythyr Cam nesaf yr astudiaeth fydd arolygu a chostio atgyweirio yr adeilad.
Ers y Cyfarfod Cyhoeddus, mynegwyd diddordeb yn y Barcdy a'r Eglwys gan Eric Jones o Ganolfan Ddringo Bwlch Moch a hefyd Canolfan Ddringo Gristnogol, Tremadog.
Rol Bosibl ar gyfer Cyfeillion Cadw Tremadog Gwnaethir dyfodiad y Loteri hi'n bosibl i elusennau ond nid i fusnesau i dderbyn cyfalaf ar gyfer prosiectau fydd o fudd i'r gymuned. Fel Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau, gall CCT dderbyn arian Loteri i brynu, atgyweirio neu werthu adeiladau hanesyddol. Defnyddir unrhyw elw i lansio'r prosiect nesaf.
Pe gellir darganfod defnydd addas ar gyfer y Barcdy neu'r Eglwys ac i'r prynwr neu'r prydleswr arfaethedig ymrwymo i dalu pris y farchnad, yna gallai'r ymddiriedolaeth atgyweirio a thrawsnewid ar gyfer defnyddiwr penodol.
Trafferth Amserlen y Barcdy Y brif broblem gyda'r grantiau Ewropeaidd a weinyddir gan y Swyddfa Gymreig yw'r amserlen. Tros yr haf fe ddaeth yn amlwg na fuasai yn bosibl i ni gadarnhau'r ariannu ar y cyd, na symud ymlaen parthed perchnogaeth (a olyga drafod gyda Chyngor Gwynedd gan nad yw Dwyfor mewn bod mwyach) erbyn Tachwedd 21 yn ôl y gofyn. Hyd yn oed pe buasem wedi gwneud hyn, mae'n debyg na fuasem wedi gallu cydymffurfio a'r gofynion i gychwyn fis Ebrill nesaf, na chwblhau y gwaith o fewn tair blynedd.
Byddai yr amserlen ddelfrydol ar gyfer prosiect aml-agweddog mor gymhleth a safle Gwneuthurfa Madocks yn un pum mlynedd: fe alluogai hyn yr ymddiriedolaeth i negydu pryniant y safle ac i gomisiynu cynllunio datblygu manwl, gan wybod fod y gefnogaeth ariannol yn ddiogel: yna gellid ceisio tendrau a gosod y contractau mewn tair cam. Ni all grwp gwirfoddol symud ymlaen a chomisiynu y gwaith rhagbaratoadol heb sicrhau yr ariannu. Mae'r amserlen luniwyd gan gyfrifydd a osodir yn rhannol gan y Gymuned Ewropeaidd ac rhannol gan y Swyddfa Gymreig yn rwystyr diangenrhaid a di-gymorth.
Ymddiriedolwyr Newydd â€" Awgrymiadau os gwelwch yn dda! Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth mewn brys ym 1991, yn gyntaf er mwyn arbed y Barcdy rhag cael ei ddymchwel.
Beth amser yn ôl, canfyddasom fod y dogfennau a yrwyd i'r Comisiwn Elusen yn rhai pwrpas-cyffredinol ac nid yn ôl ein bwriad, yn benodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau. (Cafodd yr ymddiriedolaeth ei rhedeg yn unol a gofynion llymach o ganlyniad). Er mwyn cysondeb, penderfynwyd adolygu cofrestriad yr ymddiriedolaeth gyda'r Comisiwn Elusen a Ty'r Cwmniau, gan ddefnyddio set newydd o ddogfennau, sef y Ddogfen Lywodraethol Safonol ar gyfer Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladol, odditan y Gronfa Bensaerniol Treftadaeth. Bendithwyd ddraft o'r Memorandwm ac Erthyglau diwygiedig gan Y Comisiwn Elusen. Bu trafod dogfennau yr Ymddiriedolaeth ac anallu yr Ymddiriedolaeth i weithredu yn unol a'r amserlen Ewropeaidd yn anogaeth i ail-ystyried strwythur yr Ymddiriedolaeth. Penderfynodd yr ymddiriedolwyr presennol y dylid cael Corff Llywodraethol bychan (yr ymddiriedolwyr yn cynnwys pobl gyda sgiliau penodol megis busnes, adeiladwaith, arian a'r gyfraith. Cynigiodd rhai o'r ymddiriedolwyr presennol ymddiswyddo pan ddarganfyddir ymddiriedolaethwyr gyda'r sgiliau angenrheidiol hyn. Mae'r Ymddiriedolaeth yn eiddgar i apwyntio unigolion fel hyn, yn arbennig os ydynt yn trigo yn yr ardal neu gyda rhyw gysylltiad a Thremadog. Os gall unrhyw ddarllenwr gynnig y sgiliau hyn eu hunain, neu awgrymu eraill, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Dewi Williams (Cadeirydd) neu Frances Voelcker (Ysgrifennydd).
|