www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 10


1 Gorffennaf 1996



Newyddion Gwych i'r Barcdy


Efallai y bu i chwi weld yn y wasg leol fel y bu Cyfeillion Cadw Tremadog yn llwyddiannus yn eu cais am ariannu sylweddol o Ewrop. Clywsom ym mis Mai y gallai cynigion Diwydiannol neu Ddatblygiad Busnes yr Ymddiriedolaeth ar gyfer safle'r Barcdy ddenu tros £335,000 o gymorthdal. Yn anffodus ni lwyddodd rhan Dwristiaeth ein cais. Mae'r gystadleuaeth am grantiau i brosiectau cysylltiedig a thwristiaeth yn un gref a dim ond un allan o bump a lwydda. Cyd blethwyd dwy agwedd y prosiect ac ni ellir symud ymlaen oni bai y gall yr Ymddiriedolaeth sicrhau diffyg trwy'r Loteri. Gwnaed cais cyfredol i'r Loteri Treftadaeth.


Sut y gallwn helpu


Pryd bynnag y ceisia'r Ymddiriedolaeth am gymorthdaliadau, cyfyd yr un cwestiwn: pa bryd byddwch yn berchen ar y safle? Os na fydd symud tuag at berchenogaeth, bydd y cymorthdaliadau mawr a glustnodwyd ar gyfer Cyfeillion Cadw Tremadog a'r ERDF yn nawr yn cael eu tynnu'n ôl. Gwyneba yr Ymddiriedolaeth gan dair problem ynglyn a phrynu'r safle: yn gyntaf yw'r pris afreal a ofynir gan berchennog y safle - ddeuddeg gwaith mwy na phris y farchnad: yr ail yw'r ddyled am y gwaith a wnaed gan Dwyfor i ddiogelu'r safle; y drydedd yw llygredd y safle ei hun.

Nid yw yr un ohonynt yn anorchfygol ond mae angen cefnogaeth yr awdurdod lleol arnom, Cyngor Gwynedd erbyn hyn. Gan Gwynedd yn unig y mae'r awdurdod i gefnogi ymdrechion yr Ymddiriedolaeth i brynu y safle pwysig yma a dychwelyd y Barcdy i ddefnydd cynhyrchiol. Mae'r Ymddiriedolaeth ar fin cyfarfod gyda Chynghorwyr Gwynedd a'r swyddogion er mwyn trafod posibiliadau; bydd hyn yn fenter mawr i Wynedd yn ogystal a'r Ymddiriedolaeth, felly rhaid i’r Cynghorwyr wybod os oes cefnogaeth -  siaradwch gyda'ch cynghorydd lleol os gwelwch yn dda.


CCT yn hybu'r economi leol


Ers ei sefydlu ym 1991 codwyd tros £13,000 gan Cyfeillion Cadw Tremadog. Daeth bron £11,000 o'r tu allan i'r ardal. Ni fyddai'r arian yma wedi dod i'r ardal heb fodolaeth yr Ymddiriedolaeth; gwariwyd y cwbl yn lleol mewn taliadau i ymgynghorwyr, ffotograffwyr, argraffwyr, a thaliadau cyfarfodydd. Yn awr, gyda'r cynigion cymorthdal sylweddol oddiwrth Cadw a'r Swyddfa Gymreig/ERDF, gall y buddsoddiad mewn amser ac ymdrech fydd ei angen i ddyblu gwerth ariannol y cymorthdaliadau a dderbyniwyd hyd yma, ddwyn ffrwyth - OS y gall yr Ymddiriedolaeth sicrhau cefnogaeth Cyngor Gwynedd.




Eglwys y Santes Fair


Codwyd £4,350 gan Gyfeillion Cadw Tremadog er mwyn comisiynu Astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer defnydd posibl o'r Eglwys; addawyd £500 ychwanegol tuag at y costau, pe bai'r defnydd terfynol ar gyfer y gymuned - dymuniad yr Ymddiriedolaeth pe bai hyn yn bosibl. Apwyntiwyd y penseiri Dobson: Owen o Bwllheli i ymgymeryd a'r astudiaeth. Cychwynwyd ar y gwaith trwy ddosbarthu holiadur i bob ty yn Nhremadog. Bwriad yr holiadur yw darganfod beth yw anghenion a dymuniadau'r pentref a holi ynglyn a syniadau ar gyfer defnydd o'r Eglwys.


Cyfarfod Cyhoeddus


Trafodir canlyniadau'r holiadur mewn Cyfarfod Cyhoeddus am 7 o'r gloch, Gorffennaf 15, yn Neuadd Goffa Tremadog.

Mae'r penseiri yn ymgynghori gyda chyrff statudol fel Cyngor Gwynedd a Cadw a pherchennog yr Eglwys (Yr Eglwys yng Nghymru). Pan benderfynir ynglyn a defnydd addas bydd y penseiri yn amcangyfrif cost atgyweirio a'r newidiadau ac yn paratoi cynllun busnes. Byddent hefyd yn chwilio am ffynnonellau ariannol. Caiff yr astudiaeth ei chwblhau erbyn yr hydref.


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog