www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 9


1 Tachwedd 1995



Ymddiheuriadau!


Byddai'n ddealladwy pe baech yn meddwl fod Cyfeillion Cadw Tremadog wedi diflannu, ond nid felly; buom yn brysur tu ôl i'r llenni fel y dengys cynnwys y llythyr newyddion hwn. Maddeuwch inni am ein methiant i'ch hysbysu chwi, ein cefnogwyr ffyddlon, am ein gwaith. Ein unig esgus yw na allwn fel gwirfoddolwyr roi mwy o amser nag sydd yn bosibl a rhoddwyd blaenoriaeth gennym i gael ceisiadau cymorthdal i mewn erbyn y dyddiadau penodedig.


UWCHRADDIO'r Barcdy i II*


Ail-aseswyd pwysigrwydd y Barcdy gan Cadw. O ganlyniad i dystiolaeth ar y safle a deunydd archifyddol a gyflwynwyd i Cadw gan yr Ymddiriedolaeth, uwchraddwyd yr adeilad o Radd II i Radd II*. Mae hyn yn wahaniaeth pwysig. Fe gadarnha asesiad yr Ymddiriedolaeth arwyddocad y Barcdy a phwysigrwydd ei achub. Adlewyrcha'r uwchraddio hefyd werth Tremadog gyfan ynghyd a'r cysylltiad clos gyda Madocks. Dyma ddyfyniad o'r Rhestriad diwygiedig: "Er mai barcdy ydoedd erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a golchfa yn ddiweddarach, mae bron yn sicr fod yr adeilad yma yn dy gwehyddu y felin wlan a adeiladwyd ym 1805 gan Williams Madocks fel rhan integrol o'i gynllun i ddwyn ffyniant i'r Traeth Mawr. Rhwng 1798 ac 1829 adeiladwyd tref Tremadog, y Cob enwog a sychodd y Traeth, a'i harbwr ym Mhorthmadog. Ar wahan i felin yd, y Ffatri oedd prif ddatblygiad cyntaf Madocks a gosododd hi yn agos i'w dy ei hun. Canolbwynt y safle oedd felin gribo a nyddu a'r ty gwehyddu sydd wedi goroesi. Yr oedd yn adeilad enfawr yng Nghymru yn ei gyfnod a gwnaeth argraff ddofn. Rhoddwyd yr un sylw esthetig a gweddill y dref iddo, gyda'i dalcendo a'i fargodion dyfn, y cerrig wedi ei melynu i wella ei olwg a'r ffenestri wedi eu paentio'n wyrdd. Erbyn 1805 prin iawn oedd "ffatrioedd" gwlan (oedd yn cyfuno'r holl brosesau ac yn defnyddio grym dwr.) Fodd bynnag mae tystiolaeth amlwg fod Madocks wedi cynnwys holl brosesau cynhyrchu ar un safle integrol; defnyddio grym dwr ar gyfer cribo a phannu a rhagweld adeg pan allai wehyddu gyda grym dwr yn ogystal. Mae'n debyg mai dyma'r ffatri wlan gyntaf yng Nghymru ac un o'r genhedlaeth gyntaf o'r fath a adeiladwyd i bwrpas ym Mhrydain."

(Yn dilyn disgrifiad o'r Barcdy)

"Rhestredig II* serch ei gyflwr gwael oherwydd ei fod yn elfen ganolog yn nhref gynlluniedig Tremadog ac adeiladwaith chwyldroadol yn niwydiant gwlan Cymru, ac un o'r genhedlaeth gyntaf o ffatrioedd gwlan ym Mhrydain".


Ymddiredolaethwyr


Yn y Cyfarfod Blynyddol ar Fawrth 9ed ymddiswyddodd Dafydd Wyn Jones fel ymddiriedolaethwr oherwydd ei ofnau y gallai ei holl ymrwymiadau eraill ei rwystro rhag cyflawni ei ddyletswyddau yn llawn. Yr ydym yn falch ei fod yn parhau i fod yn aelod ex-officio. Etholwyd tri aelod newydd:

Gareth Hughes, Elspeth Thomas ac Anwen Hughes. Mae'r tri yn trigo yn Nhremadog; mae Elspeth ac Anwen yn aelodau o Eglwys y Santes Fair Tremadog.


Y Perchennog yn gwrthod cynnig yr Ymddiriedolaeth


Yn y Llythyr Newyddion diweddaraf ym mis Chwefror adroddasom fod yr Ymddiriedolaeth yn disgwyl ymateb gan y perchenogion. Comisiynwyd prisiad annibynnol o'r safle gan Arwel Jones o gwmni Tom Parry, Porthmadog. Oherwydd cyflwr yr adeilad cofrestredig a'r llygredd mae safle y Barcdy yn anfarchnadadwy. Gwerth Bron Haul yw £10,000. Ysgrifennodd yr Ymddiriedolaeth i berchenogion y safle, Benada Cyf., i ofyn iddynt ystyried cynnig o £10,000 am yr holl safle. (Cyfarwyddwyr Benada yw Mr & Mrs Hibberts, a thy haf iddynt yw’r hen felin yd uwchben y Barcdy.) Yn anffodus, gwrthodasant ystyried y cynnig. Cynigiasant ystyried y swm am y Barcdy yn unig heb weddill y safle ar yr amod fod yr Ymddiriedolaeth yn derbyn y cyfrifoldeb am gostau Dwyfor (swm anhysbys i'r

Ymddiriedolaeth) i ddiogelu'r safle. Penderfynodd yr Ymddiriedolaethwyr yrru ymlaen a cheisiadau cymorthdal ac i ystyried y cwestiwn o bryniant eto os daw llwyddiant i'r ceisiadau.


Eglwys y Santes Fair


Ym mis Ionawr caewyd Eglwys y Santes Fair Tremadog gan Esgobaeth Bangor. Lleihaodd y gynulleidfa, yn rhannol oherwydd cyfnod heb ficer pa na chynhelid gwasanaethau yn rheolaidd. Ni fu cynnal a chadw ar yr adeilad yn ddiweddar ac erbyn hyn gwael yw ei gyflwr. Dymuna'r Esgobaeth werthu'r Eglwys. Mae gan Tad Deiniol o'r Egwlys Uniongred Rwsiaidd ddiddordeb yn ei brynu ond prydera fod yr atgyweiriadau angenrheidiol tu hwnt i fodd ei Eglwys. Teimla'r Ymddiriedolaethwyr bryder oherwydd fod yr Eglwys yn rhan wreiddiol ac integrol o gynllun Madocks ar gyfer Tremadog ac elfen bwysig o dirlun y dref a'r wlad. Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth na allai ymgymryd ag ail brosiect mawr ar hyn o bryd ond y bydd yn cefnogi'r Tad Deiniol neu unrhyw brynwr addas arall yn eu hymdrech i atgyweirio'r eglwys. O ddiddordeb arbennig technoleg ag esthetig yw'r meindwr a'r porth. (Gweler y Llyfryn!)


Cynllun Datblygu Strategol


NEWYDDION DRWG! Unwaith eto, ni fu cais yr Ymddiriedolaeth trwy Cyngor Dwyfor yn llwyddiannus. Yn y categori oedd yn ceisio am £200,000 neu fwy, dewiswyd 5 yn unig o dros 20 o geisiadau. Cwtogwyd cyllideb y Swyddfa Gymreig o'i chymharu a llynedd.


Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Treftadaeth y Loteri


Dyddiad cau ar gyfer cais i gronfa'r ERDF i ariannu gwaith ar gyfer 1996 oedd diwedd Medi. Llwyddasom i'w gyrraedd serch rhannu'r cais yn ddau i gydfynd a'u categoriau llym (nid yw twristiaeth a diwydiant yn cydfynd yn eu barn hwy.) Hefyd, ar y funud olaf barnodd y Swyddfa Gymreig sydd yn gyfrifol am geisiadau ERDF i gychwyn, fod arian y Loteri yn arian sector gyhoeddus ac nid arian ar y cyd o'r sector preifat. Effaith hyn yw y bydd yn rhaid i'r Ymddiriedolaeth godi bron i £140,000 y gellid o fewn y dull cywir o ddosbarthu ariannu sector gyhoeddus a phreifat, ei geisio oddiwrth y Loteri Dreftadaeth. (Dyma'r un tric y ceisiodd y Swyddfa Gymreig ei chwarae ar Wyl Jazz Aberhonddu ond bu raid iddynt dynnu'n ôl.) Fe wna'r Ymddiriedolaeth gysylltu a'r Loteri Dreftadaeth a'r ERDF yn y Swyddfa Gymreig er mwyn ceisio cywiro'r sefyllfa.

Dylem glywed os bu'r cais ERDF yn llwyddianus ym mis Mawrth neu Ebrill. Cawn glywed am y cais i'r Loteri Dreftadaeth yr haf nesaf.




Tudalen a Llyfryn


Caiff tudalen ddwyieithog a baratowyd gan yr Ymddiriedolaeth i'w rhannu'n rhad ac am ddim ei amgau gyda'r Llythyr Newyddion. Y Nod yw codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o bwysigrwydd hanesyddol a phensaerniol Tremadog.

Yn y llyfryn mae 8 tudalen ddisgrifiadol ynghyd a lluniau du a gwyn a lliw. Braslunia hanes Madocks ynghyd a datblygiad Tremadog a Phorthmadog. Y pris yw £1.99 a gellir ei brynu yn Tremadog (Derwen Stores a Swyddfa Post) a siop lyfrau Browser's ym Mhorthmadog. Gellir ei gael trwyr post oddiwrth yr ysgrifennydd am £2.50, sydd yn cynnwys a tal cludiant. (Elw i'r Ymddiriedolaeth.)




Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol


Cynhelir y pedwerydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyfeillion Cadw Tremadog 26ed Chwefror 1996 am 7.00 yn Neuadd Goffa, Tremadog. Dowch, os gwelwch yn dda!


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog