Llythyr Newyddion 8
1 Ionawr 1995
Ffoto uchod: Taylor Row, Barnsley, Yorkshire. Teras o dai o'r C19 cynnar - tebyg iawn i Brif Stryd Tremadog! Cynnig Grant gan Cadw NEWYDDION DA! Yn ystod 1994, dechreuodd Cadw dderbyn ceisiadau grant " mewn egwyddor" oddiwrth ddarpar berchnogion. Cyflwynodd yr Ymddiriedolaeth gais ym mis Hydref a chlywed ychydig cyn y Nadolig ei fod yn llwyddianus. Graddfa arferol grant i adeiladau diwydiannol yw 40%. Cynigiwyd grant o 50% i'r Ymddiriedolaeth am yr holl atgyweiriadau hanesyddol fel adnabyddiaeth o diddordeb unigryw y Barcdy, a gan Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau rydym. Mae hyn yn galonogol iawn gan ei fod yn cynrychioli swm mawr o arian ac fe fydd denu ariannu pellach yn haws. Yn anffodus ni ellir defnyddio'r grant Cadw ar gyfer prynu'r safle, felly rhaid i'r Ymddiriedolaeth godi'r arian pryniant a'r 50% arall o gostau'r atgyweirio o ffynnonhellau eraill. Fel arfer, dim ond am dri mis y caiff cynnig gan Cadw ei ddal yn agored, ond rhoddwyd ar ddeall i Cadw beth yn natur yr amgylchiadau arbennig a deallir y bydd y cynnig yn cael ei ddal yn agored tra bod y pryniant yn cael ei drafod.
Cynllun Datblygiad Strategol NEWYDDION DRWG! Ni fu cais yr Ymddiriedolaeth trwy Cyngor Dwyfor yn llwyddianus. (Ychydig o Nwyddiant a gafodd Dwyfor yn gyfangwbl - dim ond tri cynllun allan o ugain a fu'n llwyddianus). Bydd yn rhaid i ni geisio eto y flwyddyn nesaf...
Cronfa Ewropeaidd Datblygiad Ardal Mae'r rhan 1994 -1999 CEDA (ERDF Yn Saesneg) wedi cychwyn yn ddiweddar. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi derbyn y telerau. Bydd rhaid cynnig cais erbyn diwedd mis Mawrth.
Grant arall gan Ewrop sy'n debyg i fod o gymorth yw LEADER II, ar fin cychwyn. Disgwyl i'r telerau. Cronfa'r Loteri Dreftadaeth Mae'r Ymddiriedolaeth yn paratoi cais i Gronfa'r Loteri Dreftadaeth newydd. Yr ydym yn gymwys iawn odditan eu meini prawf ond achosir cryn waith cartref i mi gan eu gofynion economaidd ynghylch hyfywdra'r safle.
Ariannu ar y cyd Un o broblemau grwp gwirfoddol fel Cyfeillion Cadw Tremadog yw canfod yr arian ar y cyd cychwynol a fynnir gan y mwyafrif o'r cyrff cyflwyno grantiau. Yn ffodus, ystyria'r Loteri Dreftadaeth amser gwirfoddol di-dal fel arian ar y cyd gyda llafur yn werth £46 y diwrnod a thal pensaer neu weithiwr proffesiynol arail yn £120 y diwrnod. Gallai CEDA (ERDF) a LEADER II ddefnyddio fformiwlau cyffelyb. Golyga hyn y gallai'r oriau y Cadeirydd, Trysorydd, aelodau'r pwyllgor a chefnogwyr, ynghyd a minnau fel Ysgrifennydd, dderbyn arian cyfwerth a'i ddefnyddio fel arian ar y cyd. Amcangyfrifaf ein bod i gyd wedi treulio 1,300 oriau o leiaf ers ein sefydliad yn 1991 sydd cyfwerth a £9,500.
Meddiant o'r Safle Fel erioed, mae angen y safle ar y Ymddiriedolaeth er mwyn symud ymlaen. Nid yw llawer o gyrff grantiau yn fodlon rhoi, neu hyd yn oed ystyried cais gan rai nad ydynt yn berchen. Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth brisiant annibynol newydd o'r safle. Cymer i ystyriaeth glirio'r safle a gwaith sicrhau Dwyfor i'r ddau adeilad cofrestredig rhag iddynt gwympo. Ystyriaethau pellach yw'r cyfyngiadau cynllunio ar y safle a'r llygredd sydd yn dal yn bresennol yn yr is bridd. Mae'n ddyletswydd ar yr Ymddiriedolaeth i ddefnyddio ei asedau yn ddoeth gan mai elusen ydyw ac felly ni all gynnig yn uwch na'r prisiant heb reswm da iawn. Fodd bynnag, briff yr Ymddiriedolaeth yw amddiffyn a chadw treftadaeth bensaerniol Tremadog� a gallai hynny gynnwys talu ychydig mwy na gwerth y farchnad er mwyn diogelu adeilad pwysig.
Cynnig i brynu Safle’r Barcdy Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth felly i ysgrifennu i Mr a Mrs Hibberts o Benada Development Company, y perchenogion presennol, a gofyn iddynt ystyried cynnig i brynu, ar amodau. Pe bai Mr a Mrs Hibberts yn derbyn y cynnig, byddai'n rhaid i'r Ymddiriedolaeth benderfynu a fydd yn codi'r arian - paratowch am weithredu! Os gwrthodir y cynnig ac unrhyw drafodaeth, yna bydd yr Ymddiriedolaeth yn ystyried ceisio gweithredu pellach gan Cyngor Dwyfor er mwyn sicrhau fod yr adeiladau yn cael eu trosglwyddo i berchenogion addas, un ai i'r Ymddiriedolaeth neu eraill.
Eglwys y Santes Fair, Tremadog Er mai'r Barcdy a'i safle yw ein prosiect cyntaf, mae cyfrifoldeb yr Ymddiriedolaeth yn ymestyn tros yr holl o Dremadog. Rhan o gynllun gwreiddiol Madocks yw'r eglwys a dyddia o c. 1810. Mae yn enghraifft gynnar yng Nghymru o'r adfywiad gothig. Diddorol yw ei safle ar y graig a'r dull o'i hadeiladu. Gwnaed y twr o friciau, ond gyda math cynnar o rendro sment, Sment Rhufeinig Parker efallai; collwyd riset hwnnw. Gothig yw'r porth yn ogystal a gwnaed allan o garreg Coade, carreg artiffisial. Cludwyd y porth mewn darnau ar long i Ynys Cyngar (gan nad oedd Porthmadog mewn bodolaeth) a chodwyd ef yn ei safle presennol. Yn wreiddiol yr oedd seddau bocs yn yr eglwys a ffenestri hardd o wydr lliw.
Achos pryder yw terfyni'r addoli yn yr eglwys; buan y dirywia adeilad na'i ddefnyddir, proses a gychwynodd eisioes yn eglwys Santes Fair. Efallai y bydd apwyntio ficer i Borthmadog yn rhoi bywyd newydd i'r plwyf ond ansicr yw dyfodol yr eglwys yn y tymor hir; fel ag sydd wir gyda chymaint o addoldai. Cefnoga yr Ymddiriedolaeth bob gweithred gan yr addolwyr a'r pentref i gadw yr eglwys yn ddiogel. Defnydd newydd neu atodol yw'r angen gwirioneddol a fydd yn sicrhau'r incwm i gadw'r adeiladwaith. Oes awgrym gan rywun? Bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn fuan: gwyliwch am y dyddiad a lleoliad. Ail Ddangos yr Arddangosfa Ym mis Hydref ail ddangoswyd yr arddangosfa a baratowyd gan yr Ymddiriedolaeth ac Ysgol y Gorlan gyda chymorthdal gan Cadw, Cyngor Sir Gwynedd, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a Cronfa'r Degwm. Serch gwell cyhoeddusrwydd dim ond ychydig tros 20 o bobl ddaeth iddi tros y 4 diwrnod. Canfyddwyd hi o ddiddordeb gan bawb a ddaeth yno. Llawer o ddiolch i'r cefnogwyr a rododd o'i hamser i edrych ar ôl yr Arddangosfa. Rhoddwyd y neuadd yn ddi-dal gan y pwyllgor. Derbynir grantiau tuag at y costau a derbyniodd yr Ymddiriedolaeth swm fechan mewn cyfraniadau.
Ymweliad gan Arolygwr Cadw Ymwelodd Pater Wakelin, Arolygwr Cadw, a'r safle ym mis Gorffennaf er mwyn ystyried cais yr Ymddiriedolaeth i uwchraddio'r cofrestrediad yr adeilad o Radd II i Radd II*. Cyfyd un cwestiwn ynghylch defnydd gwreiddiol adeilad y Barcdy. Mae ei uchder a'i arddull yn nodweddiadol o felin ond gwrthdystir hyn gan y dystiolaeth archifyddol. Amwys yw tystiolaeth yr adeilad ei hun. Rhaid i ystafell wehyddu gael goleuni tra bod angen awyru ar farcdy. Mae'n amlwg i'r to gael ei atgyweirio unwaith o leiaf, y tro olaf o gwmpas 1935 (crafiad ar lechen). Cymysgfa o dderw a choed meddal yw coed y to. Ychwanegiadau diweddar yw’r ffenestri cromen neu'r "gablets" ar yr ochr ogleddol neu fe ail osodwyd hwy yn lle rhai cynharach. Os felly, gallasai pedair fod wedi bod yna yn wreiddiol gan fod pedwar par o breniau ar gyfer eu atgyfnerthu efallai, ar hyd y to. Mae'n debyg mai plwm oedd yn wreiddiol tros y crib a'r talcendo ac nid clai gan fod olion plwm wedi ei darganfod ar y talcendo. Awgryma'r hoelion yn "louvres" y ffenestri'r llawr uchaf eu bod yn dyddio o'r 19ed ganrif ond mae'r pegiau sydd yn "louvres" y wal talcen orllewinol yn debyg o fod yn wreiddiol. Achoswyd penbleth i Dr Wakelin gan ddiffyg safle olwyn tu ôl neu ar dalcen y Barcdy, ond darganfyddodd dystiolaeth posibl yn mur dwyreiniol y safle, sydd yn cadarnhau'r dystiolaeth archifyddol a ddengys olwyn a melin wlan yno. (Ystordy yw'r adeilad dwyreinol yn ôl tystiolaeth arall.) Derw yw rhan uchaf y grisiau sydd wedi eu osod yn y gornel gogledd dwyreinol tu ôl i'r simdde. Holai Dr Wakelin ynghylch y nifer o leoedd tan mewn Barcdy neu Felin Wlan ond ni gynigiodd sylw. Yn ddiweddar, darganfyddais fod lleoedd tan neu stofiau yn cael eu cynnwys yn ystafelloedd gwehyddu melinau'r cyfnod yn Swydd Efrog; gwr o enw Fanshawe oedd y rheolwr cyntaf yn Nhremadog; mae Fanshawe yn enw cyffredinol yn Swydd Efrog. Cynigiwyd y grant ar raddfa uwch gan Cadw mewn cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Barcdy ac o bosibl bydd ail-raddio ar y gweill. Fodd bynnag, y grant sydd yn bwysig!
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cynhelir y trydydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyfeillion Cadw Tremadog 9ed mis Mawrth 1995 am 7.30 yn Neuadd Goffa, Tremadog. Dowch, os gwelwch yn dda! Trafodir penderfyniadau pwysig, sef Barcdy a Bron Haul, ac eglwys y Santes Fair. Pebaech am gynnig eich hun neu rhywun arall i fod yn aelod (ymddiriedolaethwr), cysylltwch os gwelwch yn dda ag un o'r aelodau. Bydd rhaid i aelod eich cynnig, neu gynnig y person enwebedig yn ysgrifenedig, a bydd rhaid i chi neu'r person enwebedig gosod cytun ysgrifenedig. Enwau a cynnigion wedi cael eu arwyddo i fod yn Swyddfa'r Ymddiriedolaeth, The Derwen Stores, nid mwy na 10 diwrnod na llai na 5 diwrnod cyn y cyfarfod cyffredinol blynyddol.
|