Llythyr Newyddion 7
1 Medi 1994
Y GWAITH YN GYRRU YMLAEN Fel y gwelsoch, mae Dwyfor ar hyn o bryd yn cyflawni'r gwaith angenrheidiol odditan delerau y Rhybuddion Adeiladwaith Peryglus ac Iechyd yr Amgylchedd a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Dymchwelwyd y garej o flaen Bron Haul, yr adeiladau diwydiannol modern o flaen y Barcdy a'r "lean-to" ar y Barcdy ei hun a chliriwyd y sbwriel oddiar y safle. Mae'r gwaith i sefydlogi rhannau uchaf waliau'r Barcdy a'r isafswm gwaith i goed tô'r Barcdy a Bron Haul yn cael ei gyflawni er mwyn gosod sitiai metal rhychog ar y tô. Tynnwyd y llechi "diminished course" gwerthfawr a'u storio'n ddiogel. Caiff yr holl agoriadau ym Mron Haul a'r Barcdy eu cau gyda choed er mwyn rhwystro mynediad.
Odditan delerau'r Rhybuddion, dim ond y gwaith angenrheidiol i osgoi perygl i'r cyhoedd ac i roi terfyn ar y problemau amgylcheddol achoswyd i gymydog Bron Haul, a ellir ei gyflawni. Ni ellir atgyweiro fel y cyfryw. Bydd Dwyfor yn atafaelu côst y gwaith oddiar y perchenogion presennol. Y perchennog presennol yn gyfreithiol yw cwmni a sefydlwyd gan Mr & Mrs Hibberts i'r diben yma. Nid oes gan y cwmni unrhyw asedau eraill arwahan i'r safle.
CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL Ym mis Gorffennaf, cytunodd Meurig Royles Prif Weithredwr Dwyfor, i gyfarfod cynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth o'r diwedd. Cyfarfu ein cadeirydd Dewi Williams, Dr William George a'n ysgrifennydd Frances Voelcker gyda Mr Royles a'r Dirprwy Prif Cynllunydd Aled Sturkey. Cytunodd Dwyfor i roi cynigion yr Ymddiriedolaeth ymlaen fel rhan o'u cais am ariannu Cynllun Datblygu Strategol, hyd at uchafswm o £100,000. Gosodwyd nifer o amodau ganddynt. Yn gyntaf, fod £30,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer pryniant y safle. Dadleuodd yr Ymddiriedolaeth yn gryf fod y safle yn rwymedigaeth yn hytrach nag ased ac un a brisiwyd fel un anfarchnadadwy gan Dirfesurydd Proffesiynol annibynol. (£30,000 yn frâs yw côst y Gwaith Argyfwng y bydd Dwyfor yn ei atafaelu...)
Mynnodd Dwyfor ymhellach mai dim ond gwaith blwyddyn y gellir ei ddangos yn y cais; felly ni ellir dangos mantais y cynllun cyfan a allai gymeryd tair blynedd i'w gwblhau. Dybai'r holl gynllun greu 18 o swyddi a chael gwared o'r malltod y bu Tremadog yn dioddef oddiwrtho ers sawl blwyddyn. Bydd prisiau tai yn codi a dylai busnesau lleol elwa oddiwrth ymwelwyr ychwanegol. Ychwanegwyd disgrifiad o'r holl gynllun gan yr Ymddiriedolaeth fel atodiad i'r cais. Yn ogystal, gwrthododd Dwyfor gynnwys unrhyw elfen o gostau staff yn y cais gan wrthod honiad yr Ymddiriedolaeth fod angen gweinyddwr dwy-ieithog er mwyn codi arian cyfartal pe bai'r cais SDS yn llwyddianus. O ystyried maint yr holl gynllun - £860,000 mae yn hollol arferol i ymwrthod â'r angen am weinyddwr cyflogedig rhan amser. Ymddengys fod Dwyfor yn cefnogi cais yr Ymddiriedolaeth er mwyn ad-ennill eu costau yn unig - costau na fyddai'n rhaid eu gwynebu pe bai'r Cyngor wedi defnyddio'r ddeddfwriaeth Adeilad Cofrestredig ar gael iddo cyn i'r adeiladau ddyfod yn berygl i'r cyhoedd. Esgeuluswyd y dyletswydd statudol i amddiffyn Adeiladau Cofrestredig gan Dwyfor ers llawer blwyddyn. Mae'r diffyg hwn yn rhagflaenu perchenogaeth bresennol safle'r Barcdy. O fethu defnyddio'r ddeddfwriaeth Adeiladau Cofrestredig ermwyn sicrhau trosglwyddo'r holl safle i berchenogaeth addas, parha Dwyfor i ddisgyn yn fyr o'r gofynion. Ni allwn ond gobeithio y bydd yr Awdurdod a'i olynu yn fwy cydwybodol.
YMWELIAD GAN AROLYGWR CADW Mewn ymateb i gais yr Ymddiriedolaeth oddiwrth Cadw i ail-raddo'r Barcdy o Radd II i Radd II* ymwelodd Dr Peter Wakelin, eu arbennigwr mewn adeiladau diwydiannol, a'r safe ym mis Gorffennaf.
Mae'r dystiolaeth archifol ynglyn a defnydd gwreiddiol y Barcdy yn gwrthdaro. Yn ei llyfr ardderchog "Madocks and the Wonder of Wales" uniaetha Elisabeth Beazley yr adeilad a oroesodd gyda'r Felin Wlan a ddisgrifir yn llythyrau Madocks.* Fodd bynnag, dengys map yn yr Archifdy a luniwyd ym 1970 o atgofion Frank Lloyd Griffith (g. 1898) fod safle'r Felin Wlan ar hyd cadfur y gogledd ddwyrain, odditan y llyn cronni. Dengys olwyn ddwr yn ogystal yn rhedeg trwy ganol y Felin Wlan, ynghyd â sustem o feltiau i drosglwyddo'r gyrriant i fannau eraill ar y safle. Dangosir y Barcdy fel Barcdy. Achosai absenoldeb tystiolaeth o olwyn ddwr tû ôl neu wrth ochr y Barcdy benbleth i Dr Wakelin ac ystyriai mai'r unig leoliad tebygol fyddai'r agen a adeiladwyd o friciau yng nghanol y cadfuriau ar ochr ogledd orllewinol y safle, gan gadarnhau'r map yn yr Archifdy. Yn y ffotograff o seremoni'r Orsedd 1872 yn Nhremadog dangosir adeilad mawr yn safle dybiedig y Felin Wlan. Talcenni syth sydd ganddo ac nid rhai gyda thalcendo; uchder o dei neu bedwar llawr sydd iddo. Gwelir ef mewn ffotograff o tua 1930 ym meddiant un o drigolion hyn Tremadog. Adnabyddid ef fel Y Stordy Mawr. Yr oedd eisioes yn adfail rhyw 70 mlynedd yn ôl. Ai dyma'r "adeilad trillawr tu cefn i'r Barcdy" a atgynhyrchai rai o nodweddion y Barcdy, a gofrestrwyd hefyd ym 1951?
GWIRFODDOLWR Yn ffodus, canfyddwyd gwirfoddolwr gan yr Ymddiriedolaeth i chwilio'r archifau er mwyn gweld os gall ganfod unrhyw atebion i'r posau yma. Yr ydym wedi gofyn hefyd i Mr Reg Chambers Jones chwilio am wybodaeth ynglyn â John Williams, asiant Madocks. O Ynys Môn y daeth John Williams yn wreiddiol i weithio fel bachgen y gerddi i Madocks, ond mae'n rhaid ei fod yn eithriadol o ddawnus i gyflawnu cymaint. Yr oedd yn llythrennog yn ogystal ac ym 1800 golygai hyn na allai ei wreiddiau fod yn rhai gor-werinol...Gwnaff Mr Chambers Jones yn ogystal nodi deunydd a fyddai'n addas ar gyfer Arddangosfa Ddadansoddiadol.
*Gweler yr eitem isod ynglyn a llyfryn newydd gan Elisabeth Beasley.
PROSIECT AR Y CYD AG YSGOL Y GORLAN Bu'r prosiect gyda Ysgol y Gorlan yn llwyddiannus iawn. Bu'r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda'r plant 9-11 oed am wyth bore, gan edrych ar ddefnyddiau adeiladu ac esblygiad adeiladau; hanes Tremadog, Madocks a'r ardal; tyrpegau, y ddau Forglawdd a'r gystadleuaeth rheng Porthdinllaen a Chaergybi. Ymwelsom a'r Archifdy yng Nghaernarfon, cartref Madocks ym Mhlas Tan yr Allt a thynnu lluniau a ffotograffiau o'r Sgwâr. Yn olaf, ystyried y plant gynllun diwygiedig y Sir ar gyfer y Sgwâr a dangoswyd eu cynigion i John Wyn Williams, cynllunydd y Sir. Paratowyd arddangosfa wych gan y plant a'r Ymddiriedolaeth yn yr ysgol ond yn anffodus cysgodwyd ein cyhoeddusrwydd rhagblaen gan ymweliad y Tywysog Charles â Chaernarfon. Byddwn yn ei ail ddangos ynghyd â deunydd ychwanegol yn y Neuadd Goffa 27 - 29 mis Hydref. Llawer o ddiolch i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth, Mr Rhys Glyn Ysgol y Gorlan, Archifdy'r Sir, Ysgol Steiner Eryri, John Wyn Williams a Nigel Hughes, ffotograffydd.
Ail ran y prosiect yw gynllunio taflen râd ac am ddim i hyrwyddo Tremadog a chynigion yr Ymddiriedolaeth; llyfryn ar werth yn ogystal yn rhoi crynodeb byr o hanes Madocks. Byddent un ai ddwy-ieithog neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahan. Caniata'r gyllideb rhywfaint o ddefnydd lliw. Dylai'r grantiau a addawyd glirio'r costau a amcangyfrifwyd a dylai'r gwerthiant ddod ag ychydig i mewn i'r Ymddiriedolaeth. Cychwynwyd gweithio ar y daflen.
LLYFRYN NEWYDD ELISABETH BEASLEY Mae llyfr Elisabeth Beasley allan o brint ac anodd yw cael gafael ar yr argraffiad clawr papur 1985 hyd yn oed. Fodd bynnag mae Elisabeth Beasley newydd gyhoeddi llyfryn (Saesneg yn unig) "A Taste of Madocks" sydd ar gael o siop llyfrau Browsers Porthmadog am £1.95 a rhydd gyflwyniad da i Madocks.
HAWL CYNLLUNIO Ym 1991 fel rhan o'r Astudiaeth Ddichonoldeb Rhagarweiniol a arweiniodd tuag at sefydlu'r Ymddiriedolaeth, gwnaed Cais Cynllunio am Ganiatad Amlinellol a Chaniatad Adeilad Cofrestredig i Ddwyfor ar gyfer defnydd cymysg o safle'r Barcdy ar gyfer Twristiaeth/Diwydiant Ysgafn yngyd â bwyty. Argymhellodd Dwyfor ganiatad ond gofynnodd Cadw am fanylion pellach. Nid oedd yr Ymddiriedolaeth mewn sefyllfa i gomisiynu y gwaith manwl, felly bu'r cais yma ar y bwrdd ers 1991. Yn gynnar ym 1994 gofynnodd yr Ymddiriedolaeth i'r Penseiri, Adam a Frances Voelcker, baratoi'r manylion anghenrheidiol ar y sail y byddent yn cael eu talu os a phan y bydd arian ar gael. Felly, cyflwynwyd cynlluniau mwy manwl i Dwyfor ym mis Gorffenaf. Derbyniodd Cadw y cynigion ac nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiadau. Cadarnha Dwyfor hyn yn ogystal. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio rhan o arddangosfa’r Ymddiriedolaeth a fydd yn agored i'r cyhoedd ym mis Hydref.
|