www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 6


1 Mai 1994



DWYFOR YN CLIRIO OND DDIM YN GLANHAU


Ni fu i berchennog presennol y barcdy gydymffurfio a'r Rhybudd Adeiladwaith Peryglus na'r Rhybudd lechyd Amgylchedd a gyflwynwyd gan Dwyfor cyn y Nadolig. Bydd Cyngor Dosbarth Dwyfor felly yn ymgymeryd a'r gwaith a chydsyniwyd ar gytundeb yn ddiweddar o blith y tendrau a dderbyniwyd. Bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel adeiladau'r Olchfa a'r garej o flaen y Barcdy a Bron Haul, ac hefyd y siedau adfeiliedig gerllaw y Barcdy. Bydd y llechi gwerthfawr yn cael eu tynnu oddi ar do'r Barcdy a'u storio yn ddiogel. Caiff y to ei orchuddio gan sitenni metal er mwyn rhwystro dirywiad pellach y Barcdy. Oddi mewn i'r adeilad caiff y lloriau pydredig a'r grisiau eu tynnu er mwyn rhwystro tresmaswyr rhag dringo a disgyn trwyddynt. Erys y trawstiau er mwyn cynnal yr adeilad. Caiff y capanau eu cynnal lle bo'r angen ac yna bydd yr holl agoriadau yn cael eu cau er mwyn rhwystro mynediad. Yn yr un modd bydd Bron Haul yn cael ei ddiogelu rhag mynediad dwr a thresmaswyr. Caiff y bwylerdy sydd yn cynnwys asbestos gwyn ei ddymchwel: bydd hen danciau dwr yn cael eu symud o'r safle neu'n diogelu: bydd tanciau tanwydd odditan y gwyneb yn cael eu gwagu a llenwi'n ddiogel.

Bydd Dwyfor yn trafod efo Gwynedd petai hi'n bosibl o dan rheolau arall ffensio'r holl safle er mwyn rhwystro sipswn neu teithwyr mynediad.

Bydd y wyneb llygredig a'r llygredd metal a chemyg oddimewn i'r pridd yn aros.

Odditan delerau'r Rhybuddion, na all Dwyfor ond atgyweirio'r hyn sydd yn angenrheidiol o fewn hanfodion diogelwch y safle yn gyffredinol ac hanfodion iechyd yn Bron Haul.

Tra'n teimlo rhyddhad fod Dwyfor yn gweithredu er mwyn osgoi damwain ar y safle, rhaid gofyn pam eu bod yn gweithredu yn y dull hwn?


DEFNYDD O DDEDDFWRIAETH ANGHYWIR


Yn anffodus ni ddefnyddiodd Dwyfor y pwerau ar gael iddynt yn yr achos hwn odditan ddeddfwriaeth Adeiladu Cofrestredig ac Ardal Cadwraeth er mwyn meddiannu'r safle; yna gallasent hawlio cymorthdal 100% Cynllun Adennill Tir Diffaith y Swyddfa Gymreig er mwyn cael gwared o'r adeiladau modern adfeiliedig a llygredd y safle heb draul iddynt eu hunain. Gan fod y dull hun o weithredu wedi ei awgrymu iddynt ym 1991 a sawl gwaith ers hynny, erys y cwestiwn, PAM eu bod wedi dewis gweithredu fel y gwnaethant ar draul y trethdalwyr yn lle defnyddio'r arian yng nghoffau y Swyddfa Gymreig?


MEURIG ROYLES YN GWRTHOD TRAFOD


Yn anffodus, gan fod Prif Weithredwr Dwyfor, Mr Meurig Royles, wedi gwrthod ar ddau   achlysur gyfarfod a chynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth i drafod yr achos (yn ystod haf a hydref 1993) ni allwn ond defnyddio'n dychymyg.


CBC


Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth ar Chwefror 21 yn Nhremadog. Serch dosbarthu taflen i bob aelwyd yn Nhremadog a oedd yn disgrifio gwaith yr Ymddiriedolaeth ac yn gwahodd preswylwyr i'r cyfarfod, dim ond 25 oedd yn bresennol. Fodd bynnag, cafwyd cyfarfod positif ei ysbryd gyder cyflwyniad yr Astudiaeth Ddichonoldeb Economaidd yn dangos y ffordd ymlaen - OS GALLWN FYNNU GWEITHREDU GAN DWYFOR.


YMDDIHEURIAD


Rhaid ymddiheuro i'r darllenwyr Cymraeg na roddwyd gwybodaeth iddynt am y CBC oherwydd fy nghamgymeriad yn gadael y wybodaeth allan o Llythyr Newyddion 5. Fe'r torrwyd yn anfwriadol er mwyn cwtogi'r dudalen.


PROSIECT AR Y CYD GYDA YSGOL Y GORLAN


Newyddion Da! Mae'r prosiect hwn wedi cychwyn. Bydd y rhaglen ar gyfer y plant hyn yn cynnwys ymweliad ag Archifdy'r Sir er mwyn gweld mapiau, hen lluniau, ffotograffau a hen sensws; darlunio a thynnu lluniau'r adeiladau yn Nhremadog a dysgu am arddull a defnyddiau eu cynllunio a'u adeiladau; cyfweld trigolion er mwyn dysgu am y newidiadau yn Nhremadog o fewn cof; trafod dyfodol Tremadog - ail wampio'r sgwar, canlyniadau y ffordd osgoi, defnydd o nifer o adeiladau na ddefnyddir. Ffrwyth ymarferol y cynllun fydd arddangosfa, taflen a llyfryn ar werth â€" gobeithiwn. Ein gobaith hefyd fydd codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o werthoedd tra arbennig Tremadog. Ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i gynorthwyo'r gwaith gyda'r plant, yn arbennig oddiallan i'r ysgol. Os oes gennych unrhyw brofiad o weithio gyda phlant neu ddiddordeb mewn dysgu gyda hwy, cysylltwch gyda Frances Voelcker, Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth os gwelwch yn dda. Cynhelir y gwaith yn wythnosol, ar fore Llun. Cynorthwywch mewn un sesiwn neu fwy. Mae codi arian er mwyn talu am ddefnyddiau yn mynd yn dda ar hyn o bryd; efallai y bydd yn bosib i ad-dalu costau teithio.


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog