Llythyr Newyddion 5
1 Tachwedd 1993
DWYFOR YN GWEITHREDU Ers y llythyr newyddion diweddaraf mae Cyngor Dosbarth Dwyfor wedi gweithredu! Rhoddwyd rhybudd i berchennog safle'r Barcdy gan Adran Iechyd yr Amgylchedd ar Hydref 22 mewn perthynas a'r drafferth a achosir gan dy Bron Haul; rhoddwyd rhybudd Adeiladwaith Peryglus gan yr Adran Cynllunio ar Dachwedd 10 parthed perygl yr holl safle i'r cyhoedd. Mynnai'r ddau rybudd fod gweithredu o fewn 28 diwrnod.
Sicrhawyd Cyfeillion Cadw Tremadog gan gyfreithiwr Dwyfor fod y gorchmynion yn atgoffa'r perchennog fod angen Caniatad Adeilad Cofrestredig cyn y gellir dymchwel Adeilad Cofrestredig. Pe cydsynia'r perchennog, bydd Dwyfor yn ystyried yr angen i weithredu ymhellach er mwyn diogelu'r Adeiladau Cofrestredig rhag dirywio mwy. Pe na chydsynia'r perchennog, yna bydd Dwyfor yn gweithredu ar ôl y 28 diwrnod ddod i ben ac yn ceisio ad-ennill y draul oddiwrth y perchennog. Cymerodd amser hir IAWN i Gyngor Dwyfor weithredu yn ngwyneb y ffaith mai dyma'r unig ddull realistig ar gael i unrhywun ers rhai blynyddoedd, yn wir ers cyfnod perchnogaeth blaenorol y safle. Ond o leiaf bu gweithredu ar eu rhan o'r diwedd a rhaid cefnogi hyn yn llwyr. Y gobaith yn awr yw y bydd Dwyfor yn gweithredu'n fuan i orfodi'r perchennog presennol i ddiogelu'r Barcdy a Bron Haul, neu ym methiant hynny, i sicrhau'r diogelwch eu hunain.
YSGOL Y GORLAN Cymerodd fwy o amser na'r disgwyl i sefydlu'r prosiect arfaethedig ar y cyd ag Ysgol y Gorlan oherwydd problemau sicrhau'r grant gan Cadw. Gwnaed cais i Cadw gan y prifathro, Mr Rhys Glyn, ond rhoddwyd ar ddeall iddo nad yw ysgolion yn gymwys. O ganlyniad i ohebu pellach gwnaed yn eglur y gallai'r Ymddiriedolaeth geisio am a derbyn ystyriaeth i gael grant am y rhannau o'r prosiect a gyflawnid gan yr Ymddiriedolaeth. Yn y cyfamser, aeth y dyddiad cau am grant cyffelyb gan Gronfa'r Degwm heibio yn ystod yr Hydref ac ni ellir cyflwyno cais pellach hyd fis Mawrth. Awgrymwyd yn ddiweddar y byddai Arlunydd Preswyl yn arbennigo mewn pensaerniaeth a chynllunio yn briodol. Gallai person o'r fath weithio gyda'r plant. Byddai Tymor y Gwanwyn yn fwy addas na'r gaeaf i'r ysgol felly byddwn yn edrych i mewn i'r posibiliadau hyn. Mae'r prosiect yn un pwysig er mwyn codi'r ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o Dremadog yn gyffredinol.
GWEITHGAREDD CODI ARIAN Bu Gwyl Banc mis Awst yn adeg prysur yn Nantmor pan agorwyd gardd brydferth ein cefnogwraig deyrngar, Jean Entwistle, i'r cyhoedd ar y Sul a'r Llun. Bu Miss Entwistle mor garedig a chyflwyno'r derbyniadau i'r Ymddiriedolaeth. Gwnaed £356.58 serch y glaw difrifol ar y Sul. Diolch i bawb ohonoch a gyfrannodd gacennau, planhigion, amser neu arian - ac yn arbennig i Jean, ei ffrind Mollie a'i chyfeillion a gwesteion eraill a fu'n brysur anghyffredin yn ystod yr wythnos.
ASTUDIAETH DDICHONOLDEB ECONOMAIDD Cwblhawyd yr adroddiad ac fe'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Llywio, nos Lun Tachwedd 22 1993. Ymdrinia'r adroddiad a chynigion, costau atgyweirio a thrawsnewid, costau rhedeg tebygol ac incwm, ffynonellau ariannu trwy grant neu gymorth ac argymellion ynglyn a'r strwythur rheoli. Caiff ei thrafod yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywio pan y bydd yr aelodau wedi cael cyfle i'w astudio. Fe'i trafodi'r eilwaith yn ystod y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ym mis Chwefror. Felly, os bydd gennych unrhyw gwestiwn neu syniadau parthed cynnwys yr adroddiad, gwnewch yn sicr eich bod wedi ei gweld cyn hynny!
Gyrrwyd copiau i'r cyrff ariannu (Architectural Heritage Fund, Cronfa'r Degwm a Cadw) ac i gynghorau Dwyfor, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri fel tri awdurdod yr ardal. Cyflwynwyd copi cyfeiriadol i Lyfrgell Porthmadog. Mae gan y Pwyllgor Llywio dri copi y gellir eu benthyg wedi i'r aelodau ddarllen yr adroddiad. Gellir archebu copiau gan yr ysgrifennydd, cost £5.50 a £1.50 cludiant (cynhwysa'r pris yma £2.50 i'r Ymddiriedolaeth felly prynwch gopi os y gallwch, os gwelwch yn dda.) Prif gasgliad yr adroddiad yw fod prosiect y Barcdy yn ymarferol. Y ffynhonellau ariannu fwyaf addas yn ôl pob tebyg fyddai Cronfa Ddatblygu Strategol y Swyddfa Gymreig (a ddaeth i fod ers yr Astudiaeth Ddichonoldeb Ragarweiniol ym 1991). Anelir y Gronfa yma at y math o brosiect sydd yn newyddbeth neu tu hwnt i sgop adnoddau grwp lleol neu awdurdod bychan. Rhaid cyflwyno cais trwy Cyngor Dosbarth neu Sir a rhaid iddo fod yn gydnaws a'u Cynlluniau Datblygiad Strategol.
GWEINYDDWR Daw'r angen ar gyfer gweinyddwr rhan-amser i'r Ymddiriedolaeth yn gynyddol amlwg. Os gwyddwch am unrhywun dwyieithog gyda rhywfaint o brofiad gweinyddol a hoffai sialens gwaith rhan amser gyda digon o amrywiaeth yna cysylltwch a'r ysgrifennydd. Nid oes gennym arian i dalu cyflog hyd yma, ond codi arian fyddai rhan o waith y gweinyddwr!
|