www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 4


1 Mehefin 1993



Cyflwyniad


Gan fy mod yn cyfuno swyddi ysgrifennydd gwirfoddol i'r Ymddiriedoleith a phensaer proffesiynol yn cyflawni'r Astudiaeth Ddichonoldeb Economaidd, teimlaf fy mod wedi fy uniaethu'n rhy glos â'r prosiect i dderbyn ymateb. Derbyniaf, fodd bynnag, gefnogaeth dda gan y Pwyllgor Llywio a fu'n ddigon doeth i drawsnewid fy nghais am Gyfarfod Cyhoeddus pellach yn nifer o weithredoedd "cysylltiol" gan y barnent nad oedd yr amser yn addas i gynnal cyfarfod. Felly, yr ydym wedi cychwyn prosiect ar y cyd gyda Ysgol y Gorlan ac fe'ch gwahoddwn i ymateb i'r syniadau a gyflwynwn ar gyfer defnydd posibl o weithdai'r Barcdy.

Llythyrau felly, os gwelwch yn dda, erbyn dechrau Medi!


PROSIECT HANES AR Y CYD AG YSGOL Y GORLAN


Rhoddodd apwyntiad Mr Rhys Glyn, Prifathro Ysgol y Gorlan, Tremadog ers y Pasg 1993, gyfle i ni gyd-weithio â'r ysgol ar brosiect a fydd yn fuddiol i'r ddau sefydliad. Braf oedd deall fod CADW yn cynnig grant o 50% i dalu am brosiectau er mwyn codi ymwybyddiaeth y gymuned o'i threftadaeth adeiladol a byddwn yn gwneud cais am hyn yn fuan. Arfaethir y prosiect ar gyfer Tymor yr Hydref. Fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol rhaid i'r plant astudio hanes gan ddefnyddio eu hardal fel deunydd ffynnonellol. Gellir cynnwys pob agwedd o hanes - cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â'r ffisegol. Trafododd yr Ymddiriedolaeth ddefnyddio amgylchedd adeiladol Tremadog er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiant o anghenion arbennig y pentref. Y nôd yw Arddangosfa y gall yr ysgol ei chadw fel adnodd ac y gall yr Ymddiriedolaeth ei defnyddio er mwyn cynhyrchu pamffledyn, cardiau post neu rywbeth cyffelyb. Y prif fantais i'r Ymddiriedolaeth fydd tynnu'r gymuned i mewn i ystyried Tremadog trwy gyfrwng y plant. Gobeithiwn y bydd dysgu am newidiadau er gwell ac er gwaeth yn y pentref ers y plentyndod y trigolion hyn yn deffro ymwybyddiaeth o'i werthoedd a'r bygythiadau iddynt. Gobeithiwn hefyd gasglu rhai atgofion gwerthfawr. Cadwch eich llygaid yn agored am arddangosfa arbennig o gwmpas y Nadolig/y Flwyddyn Newydd.


Y DIWEDDARAF YNGLYN Â DWYFOR A GWEITHREDU'R YMDDIRIEDOLAETH


Mae Dwyfor yn symud yn ARAF, ond y mae'n symud; cyflwynwyd yr adroddiad arbennigol a gomisiynwyd ganddynt oddiwrth Parkman o Sutton coldfield ar y llanastr a'r llygredd i'r Pwyllgor Cynllunio (15/7/93). Cytunodd y Pwyllgor i wneud cais am grant ADC ond ni ofynwyd iddynt awdurdodi galw am dendrau hyd nes y dyfarnir y grant. (Pam ddim?)

Pwrpas adroddiad Parkman oedd asesu sgop a chost y gwaith oddimewn i ffiniau grant ADC i Adennill Tir Diffaith. Pe bai Dwyfor yn meddiannu'r safle yna byddai yn gymwys i dderbyn grant 100% gan ADC. (Ni all perchenogion preifat ond derbyn grant o 80%) Y newydd da, a glybuwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, yw fod Grantiau Adennill Tir Diffaith ADC, ar brydiau, yn golygu gwaith pur sylweddol i'r adeiladai i'w cadw, odditan gochl "sefydlogrwydd".

Yn ddiweddar, ysgrifennodd yr Ymddiriedolaeth at Dafydd Wigley AS i ofyn am ei gymorth i gyflymu'r broses. Ysgrifenasom at Gyngor Dwyfor yn ogystal i awgrymu cyfarfod ar y cyd rhyngddynt hwy, ADC a'r Ymddiriedolaeth er mwyn prysuro pethau. Awgrymasom y dylid paratoi'r brîff ar gyfer y gwaith adennill a sicrhau tendrau TRA bod pryniant y safle cael ei negydu. Gofynasom hefyd a fyddai'n bosibl i gyflawni Gwaith Argyfwng ar y ddau adeilad cofrestredig cyn delio â gweddill y safle. Ni dderbyniasom ymateb hyd yma.


YMDDIRIEDOLAETH Y NEUADD GOFFA


Bu Dewi Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth CCT a minnau mewn cyfarfod gyda Ymddiriedolwyr yr Institiwt (Neuadd Goffa) Tremadog er mwyn rhoi gwybod iddynt am datblygiadau ers y Cyfarfod Cyhoeddus yng Ngorffennaf 1991. Fe'n derbyniwyd yn groesawus a chefnogodd mwyafrif sylweddol o'r cyfarfod gynigion yr Ymddiriedolaeth. Yr unig gonsyrn a fynegwyd oedd na fyddai'r adeilad atgyweiriedig yn faich ariannol ar y gymuned.


TRYSORYDD


Gwasanaethodd David Cowper fel Trysorydd ers sefydlu'r Ymddiriedolaeth. Ers peth amser gwnaeth gais i gael ei ryddhau o'r swydd. Yn ffodus iawn, cawsom Drysorydd newydd tra profiadol yn y materion hyn a hanesydd lleol brwdfrydig, sef Mr David Jones o Dremadog. Croesawn Mr Jones a diolchwn i David Cowper am ei waith.


GARDD AGORED


Yn olaf mae Jean Enwtistle a fu'n gefnogol i'r prosiect o'r cychwyn, wedi cynnig agor ei ardd yn Nantmor i'r cyhoedd ar Awst 29 & 30 gyda'r holl dderbyniadau yn mynd i'r Ymddiriedolaeth. Bydd angen cymorth gyda pharcio, tocynnau a lluniaeth. Os gallwch helpu, cysylltu â Pat Roach, Ty Gwyn, Tremadog ar 512292 os gwelwch yn dda.


DEFNYDD POSIBL O'R BARCDY


Dengys yr Astudiaeth Ddichonoldeb Economaidd fod defnydd terfynol yr adeilad yr un mor bwysig â'r strwythur hanesyddol pan ddaw yn fater o godi arian. Mae sawl Ymddiriedolaeth Brydeinig, ynghyd ag amryw asiantaethau llywodraethol yn ymddiddori ym manteision cymdeithasol y defnydd e.e. darparu gwaith, hyfforddi neu addysg, yn arbennig ar gyfer grwpiau tan anfantais. Dangosir diddordeb gan noddwyr masnachol os arddangosir/defnyddir eu cynnyrch neu eu gwasanaethau. Gellir derbyn grantiau o Gronfeydd Ewropeaidd hefyd erbyn hyn, yn ychwanegol at grantiau oddi mewn i Brydain - y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol a'r Gronfa Ewropeaidd Gymdeithasol yn arbennig. Buasem yn gymwys i'w derbyn pe bai'r defnydd terfynnol yn cynnwys technolegau newydd addas i'r ardal; amrywiaethu; hyfforddi, yn arbennig grwpiau tan anfantais; twristiaeth.

Ymddengys y gymysgfa o Dwristiaeth Addysgiadol a chyflogaeth a ragwelir yn addas, yn arbennig pe gallem sicrhau cytundebau i ddarparu hyfforddiant gyda'r rheolwyr a'r tenantiaid.


SYNIAD 1: TRYDANOL


Yn yr Astudiaeth Ddichonoldeb Economaidd cychwynais astudio potensial y safle unwaith yn rhagor er mwyn defnyddio grym dwr. Ymddengys y gellid cynhyrchu rhyw 10KW; digon ar gyfer goleuo, arddangos ac hyfforddi mewn gosod a chadw'r offer adnoddau trydan a gynhyrchid gan rym dwr. Ymddengys y byddai hyn yn dechnoleg addas gan fod digon o wynt a dwr yn yr ardal ar gyfer cynhyrchu trydan ar raddfa fechan.


SYNIAD 2: INSIWLEIDDIO


Gwyneba'r Barcdy i'r De yn gyfangwbl ond gan fod wedi ei gofrestru, ni fyddai'n addas i osod casglwyr haul ar ei wyneb! Byddai'n bosibi ennill gwres goddefol trwy'r ffenestri tra byddai insiwleiddiad mewnol da yn lleihau'r angen i wresogi yn sylweddol. Bum mewn cysylltiad â Warmcel, cwmni yn Ne Cymru sydd yn cynhyrchu deunydd insiwleddio allan o hen bapurau newyddion. Buasent yn hapus i hyfforddi gosodwyr a darparu insiwleiddiad ar gyfer y Barcdy am bris gostyngedig er mwyn arddangos a sefydlu eu cynnyrch yn yr ardal. Lleolid y gosodwyr a hyfforddwyd mewn gweithdy yn y Barcdy er mwyn gosod Warmcel yn yr ardal.

Mae'r ddau syniad yma yn cael eu archwilio fel profion o ddefnydd posibl y fyddai o fudd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ac y fyddai hefyd yn denu grantiau.

Rhoddwch wybod i ni, os gwelwch yn dda, beth a feddyliwch ohonynt neu am unrhyw awgrymiadau ynglyn â defnydd arall neu enwau pobi i gysylltu a hwy am gyngor neu cefnogaeth.


 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog