www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Llythyr Newyddion 3


1 Rhagfyr 1992



GWEITHREDU GAN DWYFOR


1. ARCHWILIAD I LYGREDD AR Y SAFLE


Ceisiodd Cyngor Dosbarth Dwyfor, gyda chytundeb Awdurdod Datblygu Cymru, bump amcangyfrif gan arbennigwyr sydd yn barod i archwilio i'r llygredd ar safle'r Barcdy ac argymell sut i ddelio ag ef â'r llanastr cyffredinol. Mae'r llygredd yn sicr o gynnwys rhwymynnau ac insiwleiddiad asbestos ynghyd â hen danciau tanwydd. Isbridd - gallasai gynnwys gwarged gwenwynig o'r prosesau glanhau a llifo dillad yn ogystal â'r barcio yr arferid eu cynnal ar y safle.


2. ADRODDIAD Y PRISIWR DOSBARTH


Bydd Cyngor Dosbarth Dwyfor yn penderfynu ar Rhagfyr 10fed a ddylid apwyntio un o'r arbennigwyr yma er mwyn cyflawni'r cynhelir yr archwiliad. Os apwyntir cwmni, fel ag y disgwylir, yna cynhelir yr archwiliad "yn ystod y flwyddyn newydd". Ni all y Prisiwr Dosbarth drefnu i roi pris ar y safle fel y gall Dwyfor seilio cynnig arno i brynu gan Mrs Hibberts, hyd nes y bydd adroddiad yr archwiliad yn barod.

Fe gofia'r darllenwyr y bu i ADC ddatgan yng Ngorffennaf y gellid "cyflawni'r astudiaeth yn gynnar yn yr Hydref". Edrych yn awr y bydd hyn 4-6 mis yn ddiweddarach. Rhaid parhau i roi pwysau er mwyn osgoi'r oedi biwrocrataidd yma.




GWEITHREDU'R PWYLLGOR LLYWIO


3. YR YMDDIRIEDOLAETH YN YMBARATOI


Yn y gobaith y bydd Dwyfor yn prynu'r Barcdy a Bron Haul yn ystod 1993 ac yn y gred na fydd y cyngor eisiau dal ei afael arnynt na'r cyfrifoldeb trostynt, mae'r Ymddiriedolaeth yn paratoi ar gyfer y dasg o berchnogaeth. I'r diben yma, yr ydym wedi gwneud cais am ddau gymorthdal tuag at gost Astudiaeth Ddichonoldeb Ariannol fanwl. Ym Mehefin 1991 cwblhawyd yr Astudiaeth Ddichonoldeb Ragarweiniol a noddwyd gan ADC cyn cynnal y Cyfarfod Cyhoeddus arweiniodd at sefydlu Cyfeillion Cadw Tremadog. Ystyriwyd sawl defnydd ar gyfer y safle a'r adeiladau a dangos cynlluniau costau posibl ar gyfer y rhai mwyaf tebygol. Yr ydym wedi gwneud cais am gymorthdal i'r "Architectural Heritage Fund", un o'r ychydig gyrff sydd yn ymwneud ag Adeiladau Rhestredig a wnaiff ganiatau cymorthdal ar gyfer astudiaethau dichonoldeb; gwnaed cais hefyd i Gronfa'r Degwm a weinyddir gan Gyngor Sir Gwynedd.


4. YR YMDDIRIEDOLAETH YN PENDERFYNU AR DDEFNYDD CYMYSG


Yn dilyn ystyriaeth ofalus o'r dewisiadau, penderfynodd yr ymddiriedolwyr mai'r cynllun gorau ar gyfer dyfodol y Barcdy yw defnydd cymysg: Gweithdai/Amgueddfa Madocks-Canolfan Gyfeirio/Bwyty.


5. ASTUDIAETH DDICHONOLDEB ARIANNOL


Bydd yr Astudiaeth arfaethedig yn edrych ar fentrau cyffelyb (Gweithdai Glynllifon, y safle "telecottage" ym Mharc Cenedlaethol y "Peak"). Cysylltir â ffynnonellau cymorthdal er mwyn canfod maint y symiau a fuasent yn debygol o roddi. Addasir yr archwiliadau strwythur a chynllunio a gyflawnwyd yn gynnar ym 1991 a pharatoir cynllun costau newydd.


6. LLYTHYR NEWYDDION - A YDYCH WEDI TALU?


Bwriedir i'r llythyr fod yn ddwyeithog o hyn ymlaen. Mae nifer y tanysgrifwyr yn awr tros 20 ac o ganlyniad yn hwb ariannol gwerthfawr tuag at dalu'r costau; hoffem pe bai mwy yn archebu'r llythyr er mwyn cadw i fyny â gwaith yr ymddiriedolaeth yn ogystal â chynyddu ein incwm. Yr oedd tros ddeugain o enwau cefnogwyr ar y rhestr gwreiddiol yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus - bydd rhai ohonoch yn derbyn y trydydd llythyr neb gyfrannu - OND DDIM ETO! Fodd bynnag os bydd i chwi danysgrifio cyn diwedd Chwefror 1993, fe dderbyniwch lythyrau newyddion 1993 heb dalu'n ychwanegol.


7. ANGEN GWEITHREDU GAN GEFNOGWYR


Siaradwch gyda neu ysgrifennu i'ch Cynghorydd Dosbarth neu Sirol, Adran Cynllunio Dwyfor neu Dafydd Wigley, os gwelwch yn dda.


Pwyswch ar i Gyngor Dwyfor weithredu'n gyflym i gyflawni'r archwiliad mor fuan a phosib; i brynu'r safle gan Mrs Hibberts a wnaeth ddim tros y blynyddoedd i amddiffyn yr adeiladau rhestredig; i lanhau'r llanastr peryglus a gwarthus; er mwyn i'r Ymddiriedolaeth atgyweirio a pharatoi defnydd da i'r adeiladau pwysig yma er mwyn lles y gymuned yn y dyfodol.

 
 

Hawlfraint gop‹o © Cyfeillion Cadw Tremadog