Hysbysebwch eich Busnes
Os oes busnes gyda chi yn Nrhemadog, gallwn gynnig y gwasanaethau canlynol i hybu a hysbysebu eich busnes ar y we: Opsiwn 1 - Cofrestru ar ein rhestr o fusnesau Am gost o £10 pob blwyddyn gallwn roi eich manylion ar ein rhestr o fusnesau ar www.tremadog.org.uk. Bydd y manylion yma yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a disgrifiad byr o'ch busnes. Os oes gennych chi safle ar y we yn barod gallwn greu cyswllt iddo hefyd. Cliciwch yma i weld enghraifft o mynegai busnes.
Opsiwn 2 - Tudalen We unigol eich hun Am gost un-tro o £50 ychwanegol gallwn greu tudalen we unigryw i chi, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar ein safle we Tremadog yn www.tremadog.org.uk. Bydd y tudalen yma yn cynnwys:
- Ffotograffau o'ch busnes, cynhyrchion, adeiladau, gwasanaethau a.y.y.b.
- Logo neu raffigwaith eich cwmni ar ben y dudalen.
- Disgrifiad llawn o'ch busnes, y gwasanaethau yr ydych yn gynnig, eich cynhyrchion ac unrhyw beth arall a dybiwch sydd yn berthnasol.
- Sut i gysylltu â chi, fel opsiwn 1 uchod.
Cliciwch yma i weld enghraifft o dudalen ar y we.
Opsiwn 3 - Safle We eich hun, ac enw maes ar y we. Gallwn gynllunio safle we llawn i'ch busnes, gyda hynny o dudalennau a chysylltiadau yr ydych angen. Gallwn hefyd gyhoeddi y safle yma ar ein gwasanaethwr ar y we, a cofrestru enw maes (domain name) os nad oes gennych un yn barod. Bydd yr enw maes yma yn galluogi i gwsmeriaid fynd at eich safle we yn syth, heb orfod mynd i safle we Tremadog o gwbl (er mi fydd yna faner 'Tremadog' fechan ar ben y sgrîn).
Gallwn hefyd gynnwys 'hit counter' i fonitro y nifer o ymwelwyr y mae eich safle yn dderbyn, a bydd eich enw maes yn cael ei gyhoeddi i'r 15 'search engine' rhyngwladol mwyaf poblogaidd.
Cewch chwi ddewis y nifer o dudalennau, ffotograffau, lluniau a maint y testyn a gynhwysir yn eich safle.
Beth i wneud nesafCysylltwch â ni i gymeryd mantais o unrhyw un o'r opsiynnau uchod
|