www.tremadog.org.uk - the website of Tremadog
english

ADREF

EIN PROSIECTAU

GWYBODAETH HANESYDDOL

BUSNESAU


Gwefan Newydd i CCT

Gwefan Newydd Cyfeillion Cadw Tremadog yn awr yn fyw


21 Chwefror 2006

Bu’r gwaith o ail wneud gwefan yr ymddiriedolaeth yn mynd rhagddo ers misoedd bellach, a gwelwyd ffrwyth y llafur hwn ar y 21ain o Chwefror 2006 pan lansiwyd y cynllun newydd (sef yr hyn a welwch o’ch blaen yn awr). Talwyd am y gwaith gan Gronfa Treftadaeth y Loteri fel cyfran fechan o’r prosiect i adnewyddu Eglwys y Santes Fair, ac fe’i cyflawnwyd gan y cynllunydd gwefannau llawrydd, Jake Voelcker, mab ysgrifenyddes CCT, Frances Voelcker. Mae holl gynnwys yr hen wefan yn dal ar gael ar-lein, ac mae’r wefan yn parhau, wrth reswm, yn gwbl ddwyieithog. Ychwanegwyd llawer o elfennau newydd iddi hefyd:

  • Adran newydd prosiectau CCT gyda diweddariadau rheolaidd am brosiect Eglwys y Santes Fair yn ogystal ag adroddiadau datblygiad a ffotograffau o’r gwaith sy’n digwydd ar y safle. Arddangosir y diweddariad mwyaf diweddar yn awtomatig ar brif dudalen y wefan hefyd er mwyn tynnu sylw.
  • Galeri lluniau newydd - yn cynnwys fersiynau mwy o’r ffotograffau ar yr hen wefan, yn ogystal â ffotograffau hollol newydd nad oeddynt ar gael ar-lein yn flaenorol.
  • Archif ar-lein o holl Gylchlythyrau CCT ers dechrau eu cyhoeddi ym 1992 ac sy’n darparu hanes llawn o weithgareddau’r ymddiriedolaeth. Gellir gweld dogfennau Memorandwm ac Erthyglau ac adroddiadau ariannol ar-lein yn awr hefyd.
  • Ceir cyfeiriadur busnes wedi ei ailwampio sy’n hyrwyddo siopau, darparwyr gwasanaethau a llety lleol. Bu CCT yn darparu gwasanaeth hysbysebu ar-lein i’r rhain ers dros bum mlynedd bellach.

Er na all y cyhoedd ei weld, ceir System Rheoli Cynnwys ar y wefan hefyd sy’n galluogi staff a chyfarwyddwyr CCT i ychwanegu cynnwys megis tudalennau newydd, testun mwy diweddar a ffotograffau i’r wefan, sydd yn golygu y bydd hi’n fwy deinamig ac yn cael ei diweddaru yn llawer mwy cyson. Yn ogystal â hyn, bydd unrhyw gynnwys newydd a ychwanegir i’r wefan yn Saesneg yn cael ei yrru yn awtomatig i gyfieithydd proffesiynol a fydd yn ysgrifennu fersiwn Gymraeg a’i ychwanegu i’r wefan 2 neu 3 diwrnod yn ddiweddarach er mwyn sicrhau bod y wefan yn parhau yn gwbl ddwyieithog hyd yn oed wrth iddi dyfu ac ehangu yn y dyfodol.

 
 
:::: dylunio i'r we gan jake voelcker ::::